BBC HomeExplore the BBC

27 May 2012
Accessibility help
Text only

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 

Gwefannau BBC

Sut mae'ch Cymraeg?

Darganfod lefel y dysgwr

Darganfod lefel y dysgwr

Mae BBC Cymru yn cynnig cyfoeth o adnoddau o bob lefel ar gyfer dysgu Cymraeg. Gall dysgwyr ddod o hyd i'w lefel drwy ateb cyfres o gwestiynau. Bydd y system yn awgrymu cwrs addas ar eu cyfer.


  • Mynediad
  • Sylfaen
  • Canolradd
  • Uwch

Dechreuwyr Pur

Colin and Cumberland

Colin and Cumberlandmynediad

Ymunwch â'r hwyl wrth ddysgu Cymraeg gyda'r cymeriadau cartŵn Colin a'i gi Cumberland. Ceir dulliau difyr o ddysgu sy'n helpu'r defnyddwyr i ddysgu'r iaith bron iawn heb sylwi.


Living in Wales

Living in Wales mynediad

Ydych chi'n symud i Gymru? Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â'ch ardal, yn ogystal â rhoi help llaw ar gyfer ynganu geiriau Cymraeg bob dydd. Caiff dysgwr ddarganfod sut i ynganu enwau lleoedd Cymraeg a dolenni cyswllt â gwasanaethau lleol.


The Big Welsh Challenge

The Big Welsh Challengemynediad

Cwrs fideo rhyngweithiol sy'n torri tir newydd. Ceir cyfle i ddysgu Cymraeg gyda chyfres o olygfeydd drama sy'n seiliedig ar fframwaith Cwrs Mynediad CBAC. Gellir ymarfer y patrymau iaith gyda thiwtor, chwarae rôl a defnyddio isdeitlau neu swigod siarad fel help llaw.
Cyflwyniad i adnoddau ar gyfer dysgwyr.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r nodiadau tiwtor



Cymraeg bob dydd

Cymru'r Byd

Cymru'r Byd uwch

Y wefan Gymraeg sy'n cynnig newyddion, chwaraeon, a digwyddiadau. Oes angen help ar ddysgwr i ddeall y geiriau? Defnyddiwch BBC Vocab, y rhaglen unigryw sy'n eich helpu i ddeall geirfa'r Gymraeg. Bydd yn uwcholeuo pob gair ar y tudalen y mae gennym ddiffiniad ohono yn ein geiriadur arlein.



Dyma'r Newyddion

Dyma'r Newyddion canolradd

Gwrandewch ar yr iaith a ddefnyddir ar gyfer straeon newyddion ar radio a theledu. Ceir 9 uned a chyfle i'r dysgwr adolygu.



Original Catchphrase

Original Catchphrasemynediad sylfaen canolradd

Y gyfres radio wreiddiol sy'n cynnwys deunydd clywedol a thaflenni gwaith. Nigel Walker yw'r dysgwr. Gellir lawrlwytho'r ffeiliau sain i beiriant MP3.



The Lloyds

The Lloydsmynediad sylfaen

Dysgwch Gymraeg gyda theulu Lloyds o Gaerdydd. Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd sain a thaflenni gwaith. Ceir prawf ar ddiwedd pob gwers.



Yr Wythnos

Yr Wythnos uwch

Cawn gipolwg ar newyddion yr wythnos o Gymru a'r byd ar gyfer dysgwyr. Mae'r wefan yn cynnwys fideo o'r rhaglen ddiweddara, geirfa ddefnyddiol a chwis wythnosol.



Ysbyty Brynaber

Ysbyty Brynaber sylfaen canolradd

Yr opera sebon arlein ar gyfer dysgwyr. Gellir lawrlwytho'r sain i beiriant MP3. Ceir copi o'r sgriptiau.



Rhieni

Welsh at Home

Welsh at Homemynediad sylfaen canolradd uwch

Tynnwch eich 'sgidiau a gwnewch eich hunan yn gartrefol! Gallwch ddysgu'r iaith wrth deithio o amgylch y tŷ 3D. Dyma wefan ar gyfer rhieni sydd am fynd i'r afael â'r iaith a chefnogi addysg Gymraeg eu plant. Ceir pwyslais ar yr iaith lafar ac ysgrifenedig ac ymarferion darllen a deall, a gwrando a deall.


Cymraeg yn y gweithle

Welsh in the Workplace

Welsh in the Workplacemynediad sylfaen

Boed yn y gwesty neu'r ysbyty, y swyddfa neu'r siop, dyma wefan fydd o gymorth wrth i chi roi'r iaith ar waith! Os ydych am ymwneud â chwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg neu am ehangu eich gorwelion yn y gweithle, dyma'r man delfrydol i wella sgiliau'r dysgwr.





About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy