Dos i Gysgu! - tudalen 2 Newidia'r hyn rwyt yn ei wneud yn ystod y dydd i'th helpu i gysgu yn y nos. Paid â threulio dy amser i gyd uwchben dy lyfrau, dos allan o'r ty a gwna ychydig ymarfer. Gall hyn amrywio o chwaraeon i fynd â'r ci am dro. Mae ymarfer yn ffordd wych o leihau lefelau o bwysau ac fe fydd teimlo'n flinedig yn gorfforol yn dy helpu i ymlacio'n feddyliol. Paid â bwyta pryd trwm yn rhy agos at amser gwely neu fydd dy gorff ddim yn gallu ymlacio a cheisia osgoi diodydd sy'n cynnwys caffein, - rhai tebyg i de, coffi neu cola ar ol tua 6pm. Os rwyt yn teimlo eisiau bwyd, byta rywbeth y gall dy gorff ei dreulio'n hawdd fel banana neu gawl. Efallai y byddai diod wedi ei wneud â llaeth yn syniad da gan fod hwn yn cynnwys cemegyn o'r enw tryptophan sydd yn elfen hanfodol o fecanwaith cwsg y corff. Blaenorol / Nesaf
|