Sylwn fod y bardd yn defnyddio berfau yn yr amherffaith 'ruai' a 'chwythai' wrth ddisgrifio'r gwynt yn chwythu'r dail oddi ar y coed y noson gynt.
Yna defnyddia'r bardd ferfau yn y presennol wrth ddisgrifio'r henwr, 'mae' a 'cerdd', cyn defnyddio'r dyfodol 'bydd' wrth broffwydo marwolaeth yr henwr.
Defnyddia'r bardd osgo corff yr henwr i ddarlunio ei henaint. Sylwn ei fod 'yn ei blyg', ei fod yn cerdded gan grymu, a bod yn rhaid iddo gael hoe yn aml i adennill ei nerth.
Defnyddia'r bardd Crwys gymhariaeth effeithiol i gyfleu'r hen ŵr: 'Megis deilen grin yn ymlid Deilen grin.'Wrth gymharu'r henwr â deilen grin awgryma'r bardd mor agos at farwolaeth y mae ef. Ar ôl syrthio oddi ar y coed, bydd y dail mewn byr amser yn pydru. Mae'r henwr yntau'n agosáu at ei farwolaeth.
Sylwn hefyd ar ddefnydd y bardd o ansoddeiriau ac adferfau. Defnyddiodd yr ansoddair 'crin' i ddisgrifio'r dail ac mae'r ansoddair yr un mor berthnasol er mwyn disgrifio'r henwr. Mae ei ddewis o adferfau wrth ddisgrifio'r henwr yn cerdded yn rhoi darlun clir iawn ohono: 'Cerdd yn grwm a blin.'
Tempo araf sydd i'r gerdd ac mae hyn yn addas iawn er mwyn cyfleu llesgedd yr henwr.