Taro Naw
Taro Naw: Twyllo Pensiynwyr
Yn y rhaglen olaf o'r gyfres bresennol, bydd Taro 9 yn clywed hanes adeiladwr o'r Gogledd sydd wedi twyllo rai pensiynwyr o ddegau o filoedd o bunnau.
Mae twyllo henoed ar gynydd yng Nghymru. Yn aml, mae'n broblem gudd a phobl yn teimlo cywilydd eu bod wedi eu twyllo. Un enghraifft brawychus diweddar o dwyllo yw achos yr adeiladwr o Waunfawr, ger Caernarfon, John Leslie Davies. Mis diwethaf, mi gafodd o, a'i bartner Rhian Jones eu dedfrydu i garchar am dwyllo tair pensiynwraig o bron i £100,000.
Bydd Taro 9 yn clywed am y tro cyntaf gan rai sydd wedi dioddef wth law Davies a Jones.
Un ohonyn nhw yw Bertie Roberts, sy'n saithdeg a chwech oed. Mi dalodd dros £2500 i John Davies am waith ar ei dô oedd yn gollwng. Ond roedd y gwaith yn ddiffygiol, a dwr yn llifo i'w gartref. Mae wedi dioddef o strôc ers y digwyddiad, a'r holl helbul y dwyll wedi bod yn straen.
"Oedd hi'n tywallt y glaw a glaw yn dod i fewn i'r adeilad, y lloftydd a'r bathroom, bob dim wedyn yn mynd yn ddryswch i mi mod i di cael fy nhwyllo cyn gymaint" meddai.
Yn y rhaglen hefyd, bydd clipiau o gyfweliadau wnaeth yr heddlu â John Davies a Rhian Jones. Yn ogystal bydd ffrindiau sy'n agos i ddioddefwyr yr achos llys yn siarad am y tro cyntaf.
Taro Naw, heno am 9.30yh ar S4C gyda Isdeitlau ar 888.
Taro Naw: Tanwydd
Adroddiad arbennig gan Nia Thomas ar oblygiadau y cynnydd parhaol ym mhris tanwydd ar gefn gwlad Cymru gan edrych yn benodol ar Llyn ac Eifionnydd.
Drwy brofiad busnesau mae'r rhaglen yn ceisio deall pam mae codiadau ym mhris tanwydd yn cael mwy o effaith ar gymunedau gwledig nag yw e yn y trefi a'r dinasoedd a felly'n peryglu dyfodol rhai ohonynt.
Fe oedd na ostyngiad yn y Gyllideb ond dywed un arbenigwr yn y rhaglen bod gallu ariannol y llywodraeth i ostwng yn ormodol yn gyfyng iawn oherwydd byddai'n golygu chwilio am wneud i fyny am y colledion mewn treth drwy ddulliau eraill fel codi treth incwm.
Fe glywir asesiad o'r broblem gan arbenigwr ar economi cefn gwlad o Brifysgol Aberystwyth ac am gyfarfod cyfrinachol a gafwyd yng Nghaernarfon rhwng cynrychiolwyr y diwydiant cludiant a'r gwr fu'n arwain yr ymgyrch lwyddianus i ennill tegwch i'r Gurkhas.
Taro Naw, nos Lun 4ydd o Ebrill am 9.30pm ar S4C gyda isdeitlau ar 888.
Elusen: 'Angen cysondeb'
Mae angen cysondeb mewn gwasanaethau ar gyfer y rhai sy'n cael anafiadau i'r ymennydd, yn ôl elusen Headway.
Bydd rhaglen Taro Naw y BBC hefyd yn clywed rhybuddion bod gofal arbenigol yn y gymuned ar gyfer pobol sydd wedi cael anafiadau i'r ymennydd yn dameidiog.
Dywedodd Dr Jenny Thomas, ymgynghorydd yn Ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd, sy'n ganolfan adsefydlu arbenigol:
"Mae gofal arbenigol yn y gymuned yn amrywio o ardal i ardal. Y tu allan i ardaloedd poblog fel Caerdydd ac Abertawe mae'n rhaid i ni weld beth sydd ar gael, felly mae 'na elfen o loteri côd post. Fyddwn i ddim yn dweud bod gofal i gleifion yn waeth yn yr ardaloedd hynny, ond mae'n rhaid i ni gadw cleifion yn yr ysbyty am hirach nag y byddem pe byddai timoedd arbenigol yn yr ardaloedd hynny."
'Methu cael gwely'
Mae Dr Thomas hefyd yn rhybuddio bod y system yn arwain at rywfaint o flocio gwelyau.
"Oherwydd bod gwasanaethau yn amrywio ry' ni'n cadw rhai cleifion i mewn yn hirach nag sy'n angenrheidiol. Weithiau mae hyn yn golygu bod rhai pobol sy'n aros am wely yn methu cael un."
Dywedodd Clive Davies o gangen Headway yn Abertawe, bod trigolion yr ardal yn ffodus i gael cyfleusterau Ysbyty Treforys gerllaw.
Ond mae'n rhybuddio: "Does dim gwasanaeth cymunedol i'r gorllewin o Abertawe."
Taro Naw - nos Lun 28 Mawrth am 9.30pm gyda ail-ddarllediad nos Fercher 30 Mawrth am 10.45pm.
Taro Naw: Cyngor Ynys Môn - y diwedd yn dod?
Ers i'r Cyngor gael ei sefydlu 'nôl yn 1996 mae'r wasg a'r cyfryngau wedi cofnodi'n rheolaidd helyntion cyson ymhlith cynghorwyr unigol a charfannau o gynghorwyr ar Ynys Môn. Yn ôl rhai mae'r traferthion diddiwedd ymhlith cynghorwyr wedi dwyn anfri ar yr ynys ac wedi gwneud hi'n anodd i'w rheoli. Yr hyn sy wedi gwneud hi'n anoddach fyth i gadw trefn medd rhai beirniaid yw yr holl grwpiau gwleidyddol gwahanol sy mewn bodolaeth yno a pharodrwydd y grwpiau hyn i newid eu teyrngarwch yn rhy aml er mwyn cael cyfle i reoli.
Yn ôl y cynghorwyr eu hunain mae nhw wedi rhoi buddiannau'r bobl o flaen unrhywbeth arall a mae safon gwasanaethau'r ynys yn dda iawn. Ond mae'n amlwg fod rywbeth mawr o'i le oherwydd ychydig ddyddiau'n ôl fe gyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant ei fod yn penodi pump o Gomisiynwyr annibynnol fydd yn cychwyn ar ei gwaith yn syth i gymeryd rheolaeth o'r Cyngor. Bydd y cynghorwyr eu hunain yn colli'r hawl i wneud penderfyniadau. Dyma'r ymyraeth mwya pell gyrhaeddol yn hanes llywodraeth leol ym Mhrydain.
Ond pam mae hyn wedi digwydd ac a ydi hyn yn awgrymu bod na ddim dyfodol bellach i Gyngor Ynys Môn?
Taro Naw: Cyngor Ynys Mon - y diwedd yn dod? Nos Lun Mawrth 21, am 9.30pm ar S4C, gydag ail ddarllediad nos Fercher am 10.40pm.
Taro Naw: Seland Newydd
Adrodd ar ddinistr daeargryn
Dechreuodd cyfres newydd o raglen materion cyfoes BBC Cymru, Taro Naw, yr wythnos hon (Dydd Llun, Mawrth 14) gydag adroddiad arbennig o Seland Newydd gan Garry Owen, fuodd yn gohebu o ddinas a brofodd ddinistr enbyd o ganlyniad i'r daeargryn diweddar, sef Christchurch. Bu Garry yn ymweld â'r ardaloedd a ddioddefodd waethaf, yn cwrdd â theuluoedd Cymraeg sydd wedi colli eu cartrefi ac eraill sydd yn bryderus am eu dyfodol yn y ddinas. Isod mae'n sôn am y profiad emosiynol o deithio yno a'r hyn a ganfu wedi cyrraedd.
"Chi'n teithio i Christchurch? Os oes angen unrhyw beth arno chi, dewch i ofyn. Mae'r cyfan mor drist".
Roedd staff caban yr awyren Air New Zealand hyd yn oed yn fwy parod nag arfer i helpu. Y bore hwnnw roedd y teithwyr yn cynnwys nifer o bobol oedd yn teithio adre i Seland Newydd heb wybod yn iawn beth oedd yn eu disgwyl. Roedd un wraig yn y sedd o mlaen i yn crio am y rhan fwyaf o'r siwrne. Fe welais i dîm achub o Fecsico hefyd ar yr awyren. Oedd, roedd y daith hon yn un anodd i lawer ar ôl y daeargryn wnaeth daro ail ddinas fwyaf Seland Newydd ar y 22ain o Chwefror.
Roedd Glesni Jones, cynhyrchydd y rhaglen hon o Taro Naw, a finne yn teithio i Christchurch i gwrdd â Chymry oedd wedi eu dal ynghanol y drasiedi. Ond Cymry yn ffoi o'r ddinas oedd y cyntaf i ni siarad â nhw, teulu o Feddgelert oedd ar eu gwyliau yno ac wedi cael dihangfa lwcus. Roedd y rhyddhad o adael a chael dychwelyd adre yn ddiogel yn amlwg. Ar yr un pryd, roedd yna dristwch ac addewid y bydde nhw yn 'dod nôl'.
O'n cwmpas ymhobman roedd timau o bobol oedd wedi cyrraedd er mwyn helpu a bod yn rhan o ymdrech ryngwladol. Roedd y croeso roedden nhw yn ei gael yn dweud cyfrolau.
Y bore wedyn fe naethon ni gwrdd a'n dyn camera. Un o fois y ddinas oedd Brian Nelson. Roedd e'n brofiadol tu hwnt, ac wedi treulio'i oes yn ffilmio adeiladau ac atyniadau mwyaf eiconig Christchurch. Roedd deigryn yn ei lygad wrth iddo ddweud bod y cyfan nawr yn deilchion.
Fe aeth Brian â ni yn ei gar i weld y dinistr. Ond doedd y siwrne ddim yn un hawdd, Roedd heolydd a phontydd wedi'u cau ymhobman am eu bod nhw yn beryglus. Ar hyd a lled Christchurch fe welson ni adfeilion a thor calon. Roedd yna nerfusrwydd hefyd, a phobol ar bigau'r drain yn poeni y gallai daeargryn arall daro. Fe wnaethon ni deimlo nifer o ôl gryniadau pwerus tra roedden ni yno. Ond yr un yn hwyr y noson honno oedd fwyaf brawychus yn cyrraedd 4.6 ar raddfa Richter.
Y bore wedyn, hwnnw oedd y brif stori ar fwletinau cynnar y newyddion teledu, radio a'r papurau dyddiol. Ar ôl paned o goffi sydyn, a berwi'r tegell o leia ddwywaith, er mwyn sicrhau bod y dwr yn ddiogel i'w yfed, fe aethon ni i gwrdd a rhai o'r Cymry sy'n byw yn y ddinas. Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i wedi sylweddoli pa mor gryf oedd y cysylltiad rhwng y ddwy wlad o'r blaen. Fe wnaeth hyd yn oed maer Christchurch fy synnu trwy ddymuno dydd Gŵyl Dewi hapus i fi a nghyflwyno i un o'i ymgynghorwyr - Glyn Dafydd!
Ar ôl tridiau ,fe ddaeth hi yn amser i ni i ddychwelyd. Bryd hynny roedd nifer y meirw yn dal i gynyddu ac ansicrwydd mawr ynglŷn â chost ail adeiladu Christchurch ar ôl y chwalfa. Cyn gadael, roedd angen i fi alw heibio i weld Twm Pritchard. Roedd e wedi bod yn garedig iawn ar ôl i fi gyrraedd ac wedi rhoi benthyg ei ffon symudol i fi. "Be wy ti'n feddwl sydd ei angen ar Christchurch nawr?" gofynais I iddo. "Hyder," medde fe yn bendant "a ddaw hynny ddim dros nos."
Taro Naw: Seland Newydd, nos Lun Mawrth 14, am 9.30pm ar S4C.
Ynglŷn â'r gyfres
Taro Naw yw un o brif raglenni materion cyfoes BBC Cymru. Mae'r gyfres, sydd wedi ennill gwobrau yn y byd teledu, yn mynd dan groen beth sy'n digwydd yng Nghymru a thu hwnt.