Taro Naw
Taro Naw
Taro Naw: ymchwiliad arbennig.
Darlledwyd Nos Fawrth 6ed o Hydref am 9.35pm ar S4C.
Fe fu rhaglen Taro Naw ar 6ed o Hydref yn taflu goleuni ar ymddygiad datblygwr o Ynys Môn yn dilyn cwynion gan fuddsoddwyr a gollodd degau o filoedd o bunnoedd ar ôl prynu eiddo ganddo.
Yn 2002 fe ddechreuwyd ar y gwaith o godi pentref gwyliau Eurach Parc yn Llanddaniel Fab ger y Gaerwen. Enw'r datblygwr tu ôl i'r fenter oedd Hefin Owen, a'r gobaith oedd adeiladu 20 o dai haf ar y safle. Fe werthwyd y mwyafrif o'r tai i dwristiaid a buddsoddwyr, yn cynnwys Graham a Hazel Roberts - sy'n byw yn Dubai.
Ar ôl talu blaendal o £20,000 i Hefin Owen yn 2005, roedd Mr a Mrs Roberts yn edrych ymlaen i dreulio eu gwyliau ar Ynys Môn, unwaith yr oedd eu bwthyn yn Eurach Parc wedi ei gwblhau. Ond yn dilyn tro pedol gan eu banc, roedd yn rhaid iddynt dynnu nôl rhag prynu'r eiddo, a gofyn am ad-daliad o'r £20,000. Ond er eu bod wedi derbyn addewid gan Hefin Owen ar sawl achlysur - chawson nhw fyth geiniog o'u harian yn ôl meddai nhw.
Mae Taro Naw wedi siarad gyda nifer o unigolion sydd yn yr un sefyllfa a Graham a Hazel Roberts, ac wedi colli degau o filoedd o bunnoedd ar ôl buddsoddi yn Eurach Parc, a derbyn addewid gan Hefin Owen y byddai'n eu had-dalu, ond heb wneud hynny meddai nhw.
Pan aeth cwmni Eurach Parc i'r wal yn 2006 roedd ganddo ddyledion o dros £670,000, ac fe aeth Hefin Owen yn fethdalwr. Mae safle Eurach Parc bellach yn cael ei redeg gan berchnogion newydd sydd â dim cysylltiad â Hefin Owen.
Bu Taro Naw hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynglyn â'r ffordd y caiff rhai cyfarwyddwyr cwmniau barhau i weithio fel cyfarwyddwyr, a hwythau o dan waharddiad i wneud hynny.
Yn 2004 aeth cwmni blaenorol Hefin Owen o'r enw Natbuild i'r wal gyda dyledion o dros £300,000. Yn dilyn yr achos yma fe gafodd Hefin Owen ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr ar gwmniau am 5 mlynedd. Ond, o achos eithriad arbennig yn y rheolau, fe gafodd barhau fel cyfarwyddwr ar gwmni Eurach Parc Cyf Ltd ac Eurach Parc Construction Ltd drwy gydol ei waharddiad.
Yn dilyn tranc y ddau gwmni hwn pan aeth Eurach Parc i'r wal, cafodd Hefin Owen ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr ar gwmniau unwaith eto ar ddiwedd 2008.
Dyma'r ail waharddiad iddo mewn pum mlynedd, ac mae'r bobl sydd yn honi eu bod wedi colli arian iddo yn gofyn sut allai fod wedi cael yr hawl i barhau fel cyfarwyddwr ag yntau dan waharddiad blaenorol?
Yn ôl Hefin Owen, mae'n ddrwg ganddo fod pobl wedi colli arian yn y fenter, a bod hyn yn digwydd mewn achosion o ansolfedd. Fe ddywedodd ei fod yn credu fod Graham a Hazel Roberts wedi cael rhywfaint o'u harian yn ol - ond gwadu hyn yn llwyr y mae nhw.
Ac yntau o dan waharddiad presennol rhag bod yn gyfarwyddwr ar gwmniau tan 2015, bydd Taro Naw yn dal i fyny gyda Hefin Owen yn y rhaglen heno - a gofyn iddo am ei berthynas gyda chwmni newydd ar Ynys Môn.
Taro Naw: Nos Fawrth Hydref y 6ed am 9.35pm.
Isdeitlau ar 888.
Taro Naw: Cwymp y DFoB (Dairy Farmers of Britain).
Darlledwyd ar nos Fawrth 29 Medi am 9.30pm
Pan aeth y cwmni llaeth i'r wal ym Mehefin 2009 roedd ganddo ddyledion o filiynau o bunnau. Fe gollodd dros ddeunaw cant o ffermwyr llaeth filoedd o bunnau.
Roedd dros dau gant wythdeg o rheini o Gymru.
Ond cwestiwn mawr i'r ffermwyr ar draws Cymru a Lloegr yw pam y digwyddodd hyn.
Tydi'r cyfarwyddwyr heb siarad yn gyhoeddus i roi unrhyw fath o esboniad. Yn ystod y misoedd diwethaf fe godwyd amheuon a chwestiynau am gyflwr ariannol y cwmni, ei penderfyniadau fuddsoddi a diffyg profiad honedig ymhlith y cyfarwyddwyr.
Roedd cyfle i'r beirniaid gael dweud eu dweud ac am y tro cynta' roedd cyn Is-gadeirydd y cwmni David Wilkinson, o Lancashire, yn torri tawelwch y cyfarwyddwyr drwy gwneud cyfweliad gyda Taro Naw.
Rhaglen Taro Naw: Teiars Darlledwyd ar nos Fawrth 22 Medi am 9.30pm
Mae pâr priod yn creu trafferthion i fusnesau yng Nghymru trwy adael teiars ar eu tir a'u gadael gyda dyledion o filoedd o bunnau.
Nawr mae rhai o'r busnesau sy'n dioddef yn beirniadu'r corff a ariennir gan y Llywodraeth i amddiffyn yr amgylchedd, gan gyhuddo'r asiantaeth o'u cosbi nhw am droseddau pobol eraill.
Yn rhifyn nos Fawrth 22 o Fedi o gyfres materion cyfoes Taro Naw ar S4C, cafwyd hanes y bobl hynny sydd wedi eu gadael yn y cawl hefo busnes y teiars.
Cefndir yr achosion yma yw cyfarwyddyd gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n gorchymyn na ellir cael gwared ar deiars ar safleoedd tirlenwi.
Mae hyn yn golygu bod perchenogion garejys bellach yn gyfrifol o dan y gyfraith am sicrhau eu bod yn cael gwared ar eu teiars. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r teiars fynd i safleoedd lle y gellir eu hailgylchu.
Ond mae un dyn busnes o ogledd Cymru, Steve Marlow a'i wraig Amy, wedi cael hyd i ffyrdd o osgoi dilyn gair y gyfraith gan fod ar eu hennill yn ariannol ar yr un pryd.
Mae Steve ac Amy Marlow wedi bod yn hysbysebu eu hunain fel busnes sy'n casglu hen deiars am ffi o garejys yng ngogledd Cymru.
Maen nhw wedi bod yn mynd at bobl gydag unedau storio ar eu tir a threfnu i gadw'r teiars yno. Ond mae Steve ac Amy Marlow wedi bod yn gadael y teiars yno ac yn pocedu'r elw.
Mae un wraig o Dywyn, gogledd Cymru wedi ei gadael â 20,000 teiars ar ei thir. Dywedodd wrth Taro Naw:
"Dwi'n poeni am y peth trwy'r amser. Pan dwi'n codi yn y bore, mae o ar fy meddwl i. Lle ydach chi'n cael gwared ar y teiars 'ma? Achos mai teiars sydd wedi'u gadael yma, dyw hi ddim yn bosib storio nhw na'u gwerthu i rywun arall na'u llosgi. Yr unig ffordd o allu cael gwared arnyn nhw yw'r ffordd gyfreithlon a chael cwmni draw i nôl nhw."
Cafodd Maria Burt gryn syndod pan glywodd bod Asiantaeth yr Amgylchedd, y corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ymdrin â throseddau amgylcheddol, yn disgwyl iddi dalu dros £20,000 i gael gwared â'r teiars o'i thir hi.
Un arall a ddioddefodd o ganlyniad i weithredoedd Steve Marlow oedd Gwlithyn Owen o Sir Ddinbych. Roedd ganddi dros 3,000 o deiars ar ei thir ac mae hi hefyd yn flin hefo Asiantaeth yr Amgylchedd:
"Chafon ni ddim help gan Asiantaeth yr Amgylchedd, er ein bod ni wedi helpu nhw. Fe gostiodd o £3,000 inni gael gwared ar y teiars," meddai.
"Mae'n gwneud i chi deimlo nad ydych am eu helpu nhw byth eto. Byddai'n well gen i ddelio hefo'r broblem fy hun a pheidio â dweud dim wrthyn nhw y tro nesa."
Mae Iwan Williams, un o swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd, fodd bynnag yn amddiffyn y corff:
"Rydym yn barod i weithio gyda'r cyhoedd i sicrhau ein bod yn cael gwared ar y teiars mewn modd cyfrifol. Ond ni ddylai trethdalwyr orfod talu i symud y teiars hynny o dir preifat."
Mae ymchwil Taro Naw yn datgelu fod teulu'r Marlow wedi osgoi cael eu harestio trwy ddianc i Majorca lle maen nhw wedi anwybyddu ymdrechion y rhaglen i gael eu hymateb i'r honiadau a wnaed amdanyn nhw.
Amcangyfrifir bod awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig yn talu oddeutu £1.65 miliwn y flwyddyn i gael gwared ar hen deiars.
Rhaglen Taro Naw: Asbos
Darlledwyd ar nos Fawrth 15.09.09 am 9.30pm
Mae Taro Naw yn dilyn hanes dwy ferch ifanc wnaeth siarad yn agored ynglyn a'u profiadau gyda'r heddlu wrth geisio byw bywyd normal o dan amodau "ASBO."
Gyda dros 40% o'r rhai sy'n derbyn ASBO yn torri reolau'r ASBO hwnnw, mae'r llywodraeth hefyd wedi cyflwyno ASBO ar gyfer alcohol i geisio reoli yfed yn ormodol.
Roedd Stephanie Davie a Gwenan Roberts o Wynedd wedi cael eu roi ar ASBOs, gydag amodau caeth.
Roedd rhaid i Gwenan fod adre erbyn 10 o'r gloch bob nos a doedd hi ddim fod i gario nag yfed alcohol mewn unman cyhoeddus. Gwaharddwyd y merched rhag bod gyda'u gilydd mewn man cyhoeddus a gwaherddir Stephanie rhag yfed allan yn agored - roedd ganddi hi waharddiad hefyd o bob tafarn yng Nghaernarfon o dan gynllun "Pubwatch."
Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu'r Gogledd, Geraint Anwyl wrth Taro Naw fod gan ASBOs rol i'w chwarae ond mai alcohol oedd ar fai am gamymddygiad llawer iawn o bobl ifanc:
"Yng Nghaernarfon mi fedrwch prynu potel o gwrw yn rhatach na photel o ddwr - dydy hynny ddim yn iawn a baswn i, yn ogystal a fy nghyd swyddogion yn dweud taw alcohol sydd wrth wraidd problemau'r pobl ifanc yma."
Dywedodd Gwenan Roberts:
"Dwi ddim yn cael mynd allan ar ol 10 o'r gloch y nos a rwy'n 18 oed a dydy hynny ddim yn iawn" ac mae ei ffrind Stephanie Davies yn beio'r diffyg o bethau i'w gwneud am ei phroblemau.
"Does dim byd i bobl ifanc oedran fi i wneud so mae pobl yn tueddol o fynd i drafferth gyda'r heddlu." (Anfonwyd Stephanie i garchar yn Swydd Gaerlleon yn ystod ffilmio i'r rhaglen.)
Rhaglen Taro Naw: Swyddfa Bost
Darlledwyd ar nos Fawrth 08.09.09 am 9.30pm
Pan gafodd cynghorydd o Ynys Môn ei garcharu am gadw cyfrifon ffug dair blynedd yn ôl fe wnaeth y stori hawlio'r penawdau ar draws Cymru.
Ond roedd y post-feistr yn honni mai nam ar gyfrifiadur y Swyddfa Bost oedd wedi creu £48,000 nad oedd yn bodoli go iawn. Llais yn y diffeuthwch yn protestio? Ond beth petai eraill ar hyd a lled Prydain yn dweud union yr un peth....
Yn y rhaglen gyntaf yn y gyfres, Taro Naw fydd yn datgelu tystiolaeth newydd sy'n cefnogi amheuon Noel Thomas bod postfeistri eraill wedi wynebu union yr un problemau a fo ar hyd a lled Prydain - ac yn codi cwestiynau am ymddygiad un o gongolfeini'r sefydliad Prydeinig.
Ynglŷn â'r gyfres
Taro Naw yw un o brif raglenni materion cyfoes BBC Cymru. Mae'r gyfres, sydd wedi ennill gwobrau yn y byd teledu, yn mynd dan groen beth sy'n digwydd yng Nghymru a thu hwnt.


