Pawb a'i Farn
Pawb a'i Farn - bob nos Iau am 8:25pm ar S4C.
Mae Pawb a'i Farn unwaith eto ar ei thaith o amglych Cymru.
Unwaith eto fe fyddwn yn teithio i bob cwr o'r wlad, i ardaloedd gwledig a threfol ac yn canfod barn y bobl am faterion y dydd.
Dewi Llwyd, un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C sydd wrth y llyw unwaith eto a bydd yn cael digon o gyfle i reoli'r dadlau rhwng y cynulleidfaoedd amrywiol a'r panelwyr ac mae'n siwr rhwng y panelwyr a'i gilydd.
Rhagfyr 3 - Canolfan Hamdden Treffynnon
Ar y panel fydd arweinydd Cyngor Sir Wrecsam Aled Roberts, y cerddor a cholofnydd Rhys Mwyn, y Ceidwadwr Guto Bebb a'r Parchedig Nan Powell-Davies.
Rhagfyr 10 - Castell Nedd
Os hoffech chi awgrymu lleoliadau ar gyfer y gyfres nesaf neu banelwyr nad ydych chi wedi eu gweld, yna cysylltwch â ni - pawbaifarn@bbc.co.uk neu gyda Nia a Jane ar 01352 754212.


