Advertisement
Neil Baker a'i deulu

O Flaen dy Lygaid: Man Gwyn Man Draw

Darlledwyd ar nos Fawrth 30 Mehefin, 2009 am 9pm. BBC Cymru ar S4C.

Mae'r rhaglen hon ar gael i'w gwylio yn BBC iPlayer (tan nos Fawrth 14 Gorffennaf, 2009)

Ar ynys anghysbell Canna yng ngorllewin yr Alban, mae teulu o Gwm Gwendraeth wedi bwrw eu gwreiddiau ymysg y morloi, y cornicyllod a'r anifeiliaid fferm.

Symudodd Neil Baker yno o Lannon gyda'i wraig Debs a'u merched Elinor ac Anwen ym mis Chwefror y llynedd pan gafodd swydd fel garddwr yn Nhŷ Canna. Dilynir hanes y teulu wrth iddyn nhw chwilio am y man gwyn man draw yn O Flaen dy Lygaid (nos Fawrth, Mehefin 30, BBC Cymru ar S4C).

Roedd 350 o ymgeiswyr byd eang â'u bryd ar y cytundeb dwy flynedd ar Ynys Canna ond brwdfrydedd, profiad a gwybodaeth Neil a blesiodd y panel penodi o Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban. Nid ar chwarae bach serch hynny y symudodd y teulu ifanc i un o begynau mwyaf anghysbell Prydain.

"Y plant oedd y flaenoriaeth i ni," esbonia Neil am eu penderfyniad.

Wedi ymgartrefu ar yr ynys fechan sy'n bedair milltir o hyd ac yn un filltir o led, mae'r teulu wedi cael profiadau arbennig iawn. Mae rhythm bywyd dipyn yn fwy hamddenol ar y warchodfa natur wrth iddynt gael eu hamgylchynu gan fywyd gwyllt yn hytrach na cheir ac adeiladau. A gyda dim ond 20 o drigolion yn byw ar yr ynys does fawr o sŵn wrth y cymdogion chwaith!

Y merched

Pedwar disgybl sy'n derbyn addysg yn ysgol yr ynys felly caiff Elinor ac Anwen ddigon o sylw o fewn yr ystafell ddosbarth. Gyda'u mam Debs yn gwneud peth gwaith gwirfoddol, yn hytrach na gweithio'n llawn amser fel yr oedd hi yng Nghymru, mae'r plant yn medru bwrw am adref yn syth o'r ysgol. Mae Debs yn mwynhau'r cyfle i dreulio mwy o amser yn eu cwmni, fel ag y mae Neil.

"Pleser mawr fy swydd newydd yw bod y plant yn gallu dod 'da fi i'r gwaith yn gwbwl ddidrafferth," dywed wrth iddo rannu rhyfeddodau'r ardd gydag Elinor ac Anwen.

Wrth i Neil dyfu llysiau yng ngardd Tŷ Canna i gynnal ei deulu ac i'w gwerthu i drigolion eraill yr ynys, mae ei berthynas â natur yn un agos iawn. Daw hyn â'i drafferthion hefyd wrth i'r cwningod sy'n bla ar yr ynys werthfawrogi ffrwyth ei lafur. Mae Canna yn wyneb y storm pan fo'r gwyntoedd yn codi uwchlaw'r môr ac mae bod mor agos i'r elfennau yn achosi problemau pellach i'w gnydau heb son am ddiogelwch y tŷ. Dyw bywyd symlach yr ynys ddim yn fêl i gyd ac mae Neil yn fwy ymwybodol na neb o hyn.

"Dwi ddim wedi ffeindio paradwys yma o bell ffordd," dywed yn realistig. "Does dim ffasiwn beth â pharadwys. Mae'r natur ddynol yn gweud bo chi wastad yn chwilio am rywbeth arall."

Mwy am gyfres O Flaen dy Lygaid


Gwylio

Logo iPlayer

iPlayer

Gwyliwch O Flaen dy Lygaid ar wasanaeth iPlayer y BBC.

Rhaglen Newyddion

Garry Owen

Newyddion

Gwyliwch y rhaglen ddiweddaraf o Newyddion BBC Cymru.

Gwleidyddiaeth

Cyflwynwyr CF99

CF99

Bwrw golwg ar bynciau trafod yr wythnos.

Gwefan S4C

Logo S4C

Y sianel

Gwybodaeth a gwefannau rhaglenni, gwylio S4/Clic a mwy...

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.