1. BBC Cymru
  2. Teledu
  3. O Flaen dy Lygaid

O Flaen dy Lygaid

Llion Williams

Rhaglen 6 - Ac Eto Nid Myfi

Darlledwyd ddydd Mawrth, Gorffennaf 6, BBC Cymru ar S4C.

Mae'r actor Llion Williams yn wyneb cyfarwydd i filoedd yng Nghymru, ac wedi ei anfarwoli yng nghof cenedl fel George yng nghyfres dra phoblogaidd S4C C'mon Midffild.

Ond mewn rhaglen arbennig o gyfres ddogfen BBC Cymru, O Flaen Dy Lygaid, mae'n datgelu haenen o'i gymeriad sydd ddim mor gyfarwydd, sef ei fod yn dioddef o gyflwr OCD, yr hyn mae o yn ei alw yn 'Y Chwinc'.

Ers gwneud y rhaglen mae Llion wedi dioddef profedigaeth fawr gyda marwolaeth ei frawd Iwan, colled sydd wedi dod a'i gorwynt emosiynol ei hun a gohiriwyd dangos y rhaglen er parch i'r teulu.

Mae OCD yn salwch neu gyflwr llawer mwy cymhleth na'r ddelwedd gyffredinol o obsesiwn gyda golchi dwylo neu beidio sefyll ar graciau yn y palmant. Mae'n gyflwr sy'n treiddio i holl agweddau o fywyd y dioddefwr, gan sbarduno meddyliau erchyll ac iselder dwys . Mae Llion yn trafod ei brofiad yn gyhoeddus am y tro cyntaf, mewn rhaglen a recordiwyd cyn marwolaeth annhymig ei frawd Iwan Llwyd, ac a recordiwyd yn y gobaith o helpu pobol eraill sy'n dioddef o gyflyrau meddyliol. Nid ar chwarae bach y cytunodd i gymryd rhan chwaith.

"Risg mae'n debyg ydi rhywbeth fel hyn," meddai Llion am wneud y rhaglen. "Achos 'dach chi ddim yn gwybod sut mae pobol yn mynd i ymateb iddo fo, 'dach chi ddim yn gwybod os ydi'ch cydweithwyr chi'n mynd i ymateb iddo fo, 'dach chi ddim yn gwybod sut mae'ch cyflogwyr chi yn mynd i ymateb iddo fo ond mae'r penderfyniad wedi'i wneud. Dw i 'di penderfynu gwneud y rhaglen ac os oes gan rhywun broblem hefo'r peth yn y pen draw yna ella mai nhw sydd angen gwneud 'chydig o syllu ar eu bogel eu hunain yn hytrach na fi... Achos dwi 'di gwneud digon o hynny dros y blynyddoedd. Ella bod hi'n bryd rhoi diwedd arni hefo'r bennod bach yma."

Mae enwau cyfarwydd yn ymuno ag o ar ei daith trwy'r rhaglen, y pêl-droedwyr Malcolm Allen ac Iwan Roberts. Mae Malcolm yn cyfaddef bod ei yfed wedi creu problemau iddo fo, tra bo Iwan yn sôn am ei ymddygiad obsesiynol ei hun, lle mae taclusrwydd a glanweithdra yn golygu na all ymlacio nes bod ei gartref fel pin mewn papur. Mae Dylan Parry o ddeuawd boblogaidd Dylan a Neil ar y llaw arall yn dioddef penodau o bryderu, a bydd o yn trafod ei brofiadau gyda Llion hefyd.

Ar y rhaglen mae Llion yn cytuno i dderbyn yr her eithaf gan y comedïwr Tudur Owen, sef trafod ei salwch yn gyhoeddus mewn noson comedi stand-up ym Mhen Llyn.

Yn ystod y rhaglen, mae Llion hefyd yn ymweld â Lowri Hadden, sydd yn astudio Seicoleg ym mhrifysgol Bangor. Roedd hi'n 9 oed pan ddechreuodd ddioddef o OCD, ac mae'n dal yn brwydro i orchfygu'r cyflwr eithafol hwn.

"Mae'r salwch wedi effeithio arna i," meddai. "Mae wedi gwneud i mi deimlo yn ddigalon weithie a theimlo jyst yn rubbish."

Mae'r rhaglen afaelgar hon yn rhoi cip y tu ôl i'r llen ar gymhlethdodau byw gyda chyflwr obsesiynol.

Rhaglen 5 - Dyrnau Dur

Darlledwyd Ddydd Mawrth, Mehefin 15, BBC Cymru ar S4C.

Mewn campfa yn Nhrostre ger Llanelli mae gwaith bywyd un gŵr yn parhau. Gwaith sy'n golygu troi dwylo yn ddyrnau a throi'r rheiny yn ddyrnau da. Creu bocswyr fu Gareth Howells ers 60 mlynedd, ac yntau yn 84 bellach, does dim awgrym o roi'r menig bocsio i gadw. Mae cenedlaethau o focswyr wedi manteisio ar ddoethineb a hyfforddiant Gareth, sydd wedi ei seilio ar ei brofiad o fel bocsiwr a chodwr pwysau llwyddiannus pan oedd yn ifanc.

Ond mae'r gampfa yn lle i fwy na meithrin sgiliau bocsio. O fewn y muriau sydd wedi eu gorchuddio a lluniau o gampau gwahanol aelodau Clwb Bocsio Trostre dros y degawdau, mae cyngor a chyfeillgarwch mor bwysig ag osgoi dyrnau a chynyddu ffitrwydd.

Ymhlith y genhedlaeth newydd o focswyr mae Jaime Rees, gofalwr plant mewn ysgol leol, sy'n ail afael mewn bocsio o ddifri.

"Rhaid paratoi'n gorfforol ond hefyd lan yn yr ymennydd," meddai. "Rhaid bod yn barod i symud a gweithio'n glou a hefyd bod yn barod i wynebu lan i'ch gwrthwynebydd, llygad i lygad. Dyna'r peth sy'n cymryd lot o fotel ond hefyd yn cymryd lot o barch."

A dyna'r athroniaeth y mae Gareth yn ei blannu'n gynnar yn ei focswyr - y syniad o barch - parch at reolau'r clwb, rheolau'r gampfa, parchu'r hunan a'r gwrthwynebwyr.

Mae Rhys Appleton, plastrwr a arferai fod yn y fyddin, yn hyfforddi i fod yn focsiwr, ac yn rhyfeddu at ei hyfforddwr ysgafndroed.

"Mae e'n 84 ond mae'n actio fel rhywun yn ei 40au," meddai Rhys. "Y ffordd mae'n rhedeg rownd y ring 'na a ti'n ceisio dala lan 'da fe ac mae'i waith traed e'n wych a ti'n cicio dy hunan achos ti'n meddwl 'ddyle fi fod yn gwneud hwn yn wych, ond 'so fi'n gallu eto'... A mae fe'n 84 a ma' fe'n gwneud y ring a ring o' roses rownd y ring a ti jyst a 'bythu gallu neud e!"

Mae'r rhaglen hon yn bortread o ŵr annwyl sydd yn ffigwr tadol barhaus mewn campfa bocsio sy'n fwy fel un teulu mawr.

"Mae'r bechgyn i gyd yn dweud bo fi yn ail dad iddyn nhw," meddai Gareth, "a mae hynny yn eitha' gwir. Ryw drwbl maen nhw ynddo maen nhw yn dod ata i... Lot o bethe eraill sy'n bersonol iddyn nhw a ddown nhw at i... gawn nhw air 'da fi... fi'n helpu mas."

Rhaglen 4 - Maestro

Darlledwyd Ddydd Mawrth, Mehefin 1, BBC Cymru ar S4C, 9.30pm gyda ail-ddarllediad Dydd Iau, Mehefin 3, 10.00pm.

Daeth rhaglen arall yng nghyfres ddogfen BBC Cymru O Flaen dy Lygaid â stori unawdydd cello deunaw oed o Gastell-nedd sy'n ddisgybl yn Ysgol Yehudi Menuhin ers pum mlynedd.

Cefndir digon arferol sydd gan Steffan Morris, gyda'i dad yn heddwas a'i fam yn ymwelydd iechyd. Ond yn ifanc iawn fe ddaeth yn amlwg bod gan Steffan y ddawn a'r uchelgais i gyflawni llawer fel cerddor. Yn 13 oed, fe benderfynodd ei fod am adael Ysgol Gyfun Ystalyfera, Abertawe i geisio am le mewn ysgol gerdd, a'r ysgol oedd a'i fryd arni oedd Ysgol Yehudi Menuhin.

"O ran beth oedd e angen neud, oedd angen iddo fe fynd i rhywle arall," meddai ei chwaer Naomi am ei benderfyniad yn ifanc i fynd i Ysgol Yehudi Menuhin. "Fi'n cofio un Nadolig oni'n moyn rhywbeth fel ffôn, oedd e'n moyn score St Matthew's Passion a St John's Passion ac oedd e'n like deuddeg. Oni ddim yn gwybod beth oedden nhw! A 'na beth oedd e'n moyn. Oedd angen iddo fe fynd lle roedden nhw jyst mor geeky â fe o ran cerddoriaeth!"

Gwelwn Steffan yn arwain cerddorfa yn gyhoeddus am y tro cyntaf, mewn cyngerdd yn Eglwys Dewi Sant, Castell Nedd, gyda'r unawdydd cello enwog, Thomas Carroll.

"He exudes a very nice energy, always very positive and good natured with it," meddai Thomas. "There's a huge amount of potential there."

Mae Steffan eisoes wedi cael cynnig ysgoloriaeth i'r Guildhall a'r Coleg Brenhinol yn Llundain, ond mae o am anelu'n uwch ac astudio gyda goreuon y byd yn Vienna.

Beth fydd y cam nesa yng ngyrfa ddisglair Steffan - ac a fydd o'n llwyddo fel arweinydd cerddorfaol yn ogystal ag fel unawdydd?

Cliciwch yma i weld Steffan Morris yn chwarae Myfanwy, Suite gan Bach, , Dafydd y Garreg Wen, ac Unwaith Eto.

Rhaglen 3 - Gwynfyd

Darlledwyd Ddydd Mawrth, Mai 25, BBC Cymru ar S4C, 9pm gyda ail-ddarllediad Dydd Iau, Mai 27, 10.35pm.

Mae na hoffter at iaith a diwylliant, ac mae 'na angerdd llwyr. Ac mae'n amlwg mai yr ail yw'r emosiwn y mae Stel Farrar yn ei deimlo tuag at unrhyw beth a phopeth Cymraeg.

Y peth mwyaf syfrdanol yw mai Saesnes o Nottingham yw Stel, ond pan symudodd i fyw i Eryri fe benderfynodd feistroli'r iaith a thaflu ei hun i mewn i'r diwylliant Cymreig.

Yn y rhaglen, mae Stel yn adlewyrchu ar ei phenderfyniad i ddysgu'r iaith a throi cartref Saesneg yn aelwyd Gymraeg.

"Oedd y cyn ŵr druan wedi priodi Saesnes oedd yn sydyn wedi penderfynu ei bod hi am fod yn ryw fath o Gymraes," meddai Stel sy'n byw ym mhentref Dinorwig gyda'i phump o blant, sydd a'u henwau hynod Gymreig yn adlewyrchu cariad eu mam at yr iaith - Robin Crag, 24 oed, Madlen Ceirios, 18, Taliesin Cai, 15, Mabon Llyr, 13 a Merin Lleu, 11.

Mae'r rhaglen hon yn dilyn gwraig benderfynol ac arbennig iawn, yn rhiant ar bump o blant ac yn lladmerydd dros bopeth Cymraeg. Gwelwn gip ar ei bywyd bob dydd, clywed am ei chefndir a'r hyn a'i hysgogodd i ddewis llwybr Cymreig ei bywyd, a'i gweld yn adlewyrchu ar ei phenderfyniad wrth i salwch ei Mam ei gorfodi'n nol i'r lle ganed hi yn Lloegr.

Rhaglen 2 - Pwy oedd Mrs RS Thomas?

Darlledwyd Ddydd Mawrth, Mai 18, BBC Cymru ar S4C, 9pm gyda ail-ddarllediad Dydd Iau, Mai 20, 10.35pm

Roedd yr ail raglen yng nghyfres ddogfen BBC Cymru O Flaen dy Lygaid (Dydd Mawrth, Mai 18, BBC Cymru ar S4C) yn edrych ar ddawn artistig ddisglair a gadwyd yn y cysgodion, ac yn cynnwys galwadau ar i un o'i champweithiau gael ei arddangos yn hytrach na'i storio dan glo mewn warws yn Lloegr.

Roedd Mildred Elsie Eldridge yn artist ifanc dawnus yn Llundain a dyfodol disglair o'i blaen. Yn un o fyfyrwyr mwyaf addawol y Coleg Celf Brenhinol, fe enillodd y Prix de Rome yn ystod ei chyfnod yno, a'i galluogodd i deithio'r Eidal i gael ysbrydoliaeth greadigol ac i droi mewn cylchoedd artistig aruchel.

Ond fe drodd ei chefn ar gymdeithas ariannog a bywyd bras Llundain pan aeth yn athrawes celf i Groesoswallt. Ac yna y cyfarfu â'i chymar oes ac aberthodd ei gyrfa a'i huchelgais ei hun er ei fwyn - y gwr hwnnw oedd RS Thomas.

Bydd y rhaglen arbennig hon yn edrych ar fywyd gwraig a dreuliodd ei hoes yng nghysgod dawn lenyddol aruthrol ei gwr. Mewn cyfweliad prin bydd mab y ddau, Gwydion Thomas, yn codi'r llen ar un o bartneriaethau creadigol mwyaf hynod yr 20fed ganrif.

Mae'r rhaglen yn bortread personol o wraig a fu'n gefn dirwgnach i'w theulu, ac yn wraig y bu ei marwolaeth yn ysgogiad i rai o gerddi mwyaf grymus ac iasol RS Thomas.


Rhaglen 1 - Yn ôl i Bosnia

Darlledwyd Ddydd Mawrth, Mai 11, BBC Cymru ar S4C, 9.30pm

Roedd rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd o raglenni dogfen BBC Cymru, O Flaen dy Lygaid: Yn ôl i Bosnia (Dydd Mawrth, Mai 11, BBC Cymru ar S4C) yn dilyn Gwilym Roberts o Rostryfan, Caernarfon, wrth iddo fynd ar daith go arbennig i geisio dod o hyd i ddyn y cred iddo achub ei fywyd, yn ystod rhyfel Bosnia.

Bymtheg mlynedd yn ôl fe aeth Gwilym draw i Croatia a Bosnia gyda mudiad dyngarol Convoy of Hope. Ac yntau'n gwneud gwaith cynnal a chadw ym mhwerdy Llanberis, roedd yn hen gyfarwydd â gwneud gwaith dyngarol yn ei amser hamdden - mae eisoes wedi casglu dros chwarter miliwn o bunnau ar gyfer elusennau.

Gyda'r rhyfel yn parhau a thrais a dinistr yn rhemp, fe fu Gwilym yn dosbarthu cymorth i'r bobol yno, gan gynnwys ambiwlans a gafodd yn rhodd gan Awdurdod Iechyd Clwyd. Ond nawr, mae Gwilym yn dychwelyd i Bosnia, gan obeithio y gall ddod o hyd i heddwch i ambell atgof ac atebion i rai o'i gwestiynau.

"Dwi'n cofio'r straeon yr oedd pobol yn eu dweud wrthon ni am y mwrdro, y lladd, y colli gwaed... colli'r cwbl," meddai gan edrych drwy hen luniau o'r daith gyntaf. "Mae 'na luniau eraill yn y cof na fedra i eu disgrifio. Mae'r effaith feddyliol yn dal i fod yna ac eith o byth o 'na."

Ond mae 'na fwy i'r daith na wynebu atgofion - mae Gwilym am geisio dod o hyd i ddyn a wnaeth, o bosib, achub ei fywyd. Roedd Gwilym mewn cerbyd oedd ymysg casgliad o gerbydau cymorth ar gyfer tref Mostar pan aeth y saethu a'r bomio yn rhy ddrwg iddyn nhw allu parhau â'r daith. Yn sydyn daeth dyn at y car, cnocio ar y ffenest a dweud wrth Gwilym am ei ddilyn i le diogel. Mae Gwilym yn credu y gallai fod wedi marw os na fyddai wedi ymddiried yn y dieithryn yma.

Gwylio

Logo iPlayer

iPlayer

Gwyliwch O Flaen dy Lygaid ar wasanaeth iPlayer y BBC.

Rhaglen Newyddion

Bethan Rhys Roberts

Newyddion

Gwyliwch y rhaglen ddiweddaraf o Newyddion BBC Cymru.

Gwleidyddiaeth

Cyflwynwyr CF99

CF99

Bethan Rhys Roberts a Vaughan Roderick yn trafod pynciau gwleidyddol y dydd.

Y Celfyddydau

Llyfrau

Cylchgrawn

Archif dros 12 mlynedd o adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm.

Gwefan S4C

Logo S4C

Y sianel

Gwybodaeth a gwefannau rhaglenni, gwylio S4/Clic a mwy...

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.