Advertisement

CF99

CF99

Cyflwynwyr CF99

Y rhaglen nesaf

Nos Fercher, 4 Tachwedd am 10pm ar S4C.

Bethan Rhys Roberts, Vaughan Roderick a'u gwesteion sy'n trafod straeon gwleidyddol y dydd yn fyw o'r Senedd.

Os hoffech chi awgrymu pynciau i'w trafod ar CF99, neu westeion a fyddech chi'n hoffi eu gweld, yna cysylltwch ar yr ebost CF99@bbc.co.uk

    Gwyliwch CF99 yn BBC iPlayer

Ynglŷn â'r gyfres

Côd post unigryw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw CF99 ac o adeilad eiconig y Senedd y daw rhaglen wleidyddol CF99. Bethan Rhys Roberts a Vaughan Roderick sydd wrth y llyw wrth iddyn nhw fwrw golwg bywiog ar bynciau trafod yr wythnos.

Mae Bethan a Vaughan yn cynnig golwg gyfoes a ffres ar wleidyddiaeth ein gwlad gan wahodd gwesteion gwahanol i ymuno â nhw yn fyw ar CF99 i gnoi cil dros ddigwyddiadau'r wythnos.

Gwleidyddiaeth Cymru s'yn cael y rhan fwyaf o sylw wrth reswm ond mae'r sioe hefyd yn cadw llygad ar wleidyddiaeth San Steffan, Yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ewrop. Rhaglen gyfoes yw hon s'yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r gynulleidfa.

Rhaglen Newyddion

Garry Owen

Newyddion

Gwyliwch y rhaglen ddiweddaraf o Newyddion BBC Cymru.

iPlayer

Logo iPlayer

Gwylio

Gwyliwch CF99 ar wasanaeth iPlayer y BBC.

Gwefan S4C

Logo S4C

Y sianel

Gwybodaeth a gwefannau rhaglenni, gwylio S4/Clic a mwy...

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.