BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Gwyddoniaeth
CA 2
Pethaubyw
Defnyddiau
Prosesauffisegol
CA 3
Bioleg
Cemeg
Ffiseg
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Tacteg Cymraeg

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Termiadur
m
madruddyn y cefn spinal cord
'llinyn' o nerfau sy'n ymestyn o'r ymennydd hyd waelod yr asgwrn cefn
maes magnetig magnetic field
ardal yn ymyl magnet lle gellir canfod effaith y magnet e.e. gyda chwmpawd
maeth, maethiad nutrition
term cyffredinol am gemegau sy'n gymorth da i organeb fyw'n iach
maetholyn, maetholynnau nutrient(s)
cemegyn (mewn bwyd fel arfer) sy'n cynorthwyo organeb i fyw'n iach
magma magma
craig ar ffurf hylif a welir yn llifo o losgfynydd byw
magnet, magnetau magnet(s)
offer neu ddyfais (metel) sy'n atynnu a gwrthyrru defnyddiau magnetig
magnetedd magnetism
yr astudiaeth o ddefnyddiau a phethau magnetig
magnetig magnetic
disgrifiad o ddefnyddiau sy'n atynnu a gwrthyrru defnyddiau tebyg
màs, masau mass(es)
mesur (cilogram) o faint o atomau neu folecylau sy mewn gwrthrych
Mawrth Mars
y bedwaredd blaned yng nghysawd yr Haul
meinwe
gair cyffredinol am y sylwedd sy'n gwneud y corff dynol
Mercher Mercury
y blaned gyntaf yng nghysawd yr Haul
mesurydd grym, mesuryddion grym forcemeter(s)
offer sy'n mesur maint grym e.e. clorian sbring
mislif period, menstruation
gollyngiad gwaed misol o groth menyw rhwng tua 13 a 50 oed
moleciwl molecule
uniad o ddwy neu ragor o elfennau cemegol i ffurfio cemegyn sefydlog


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
 

a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n o p rh t u y