BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Gwyddoniaeth
CA 2
Pethaubyw
Defnyddiau
Prosesauffisegol
CA 3
Bioleg
Cemeg
Ffiseg
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Tacteg Cymraeg

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Termiadur
c
cadwyn fwyd, cadwynau bwydydd food chain(s)
diagram sy'n dangos sut mae egni yn cael ei drosglwyddo rhwng pethau byw trwy ddangos beth sy'n bwyta beth
calsiwm calcium
elfen gemegol (symbol Ca) sy'n bwysig iawn at gryfhau a gwella esgyrn pobol. Mae calsiwm mewn llaeth
capilari, capilarïau capillary, capillaries
'tiwb' tenau iawn sy'n rhan o system cylchredeg gwaed yn y corff dynol, yn cysylltu gydag alfeoli yn yr ysgyfaint
carbohydrad, carbohydradau carbohydrate(s)
un o'r grwpiau bwyd cyffredin y mae eu hangen ar gyfer byw'n iach, yn rhoi egni, ar gael mewn bara, tatws
carbon deuocsid carbon dioxide
nwy, (symbol CO2) yn cynnwys carbon ac ocsigen, daw allan o'r corff dynol wrth anadlu allan, mae planhigion yn ei ddefnyddio, mae gormod o hwn yn yr atmosffer yn niweidiol
carpel, carpelau carpel(s)
organ atgenhedlu fenywaidd, yn cynnwys stigma a'r ofari
carthu egest
cael gwared o wastraff solid a hylif o'r corff dynol, yn y tŷ bach/lle chwech
ceilliau testicles
y ddau organ yn ymyl pidyn dyn (gwryw) sy'n rhyddhau sberm
cell,celloedd cell(s)
y 'pecyn' bywyd lleiaf mewn corff dynol, yn cynnwys niwclews a plasma
cellfur cell wall
mur/wal sy'n cadw'r gell yn becyn twt ac yn cadw pethau drwg allan
cemegyn, cemegau chemical(s)
pob elfen yn y Tabl Cyfnodol a chyfansoddion o ddwy neu ragor o elfennau. Gall cemegau fod yn solid, hylif neu nwy
cerrynt trydanol electrical current
llif gwefrau trydanol (fel arfer, electronau) mewn cylched trydan sy'n achosi goleuni mewn bwlb, gwres mewn sychydd gwallt, symud mewn modur
cigysydd carnivore
anifail sy'n bwyta cig a dim ond cig
cilddant, cilddannedd molar(s)
dant, ar ddwy ochr y gên, top a gwaelod, sy'n malu bwyd
cildroadwy reversible
disgrifiad o broses y mae modd ei newid nol e.e. iâ i ddŵr/dŵr i iâ
cildroi to reverse
mynd yn ôl, gwneud i'r gwrthwyneb i beth sy wedi'i wneud (megis 'do' ac 'undo' ar gyfrifiadur)
cloroffyl chlorophyl
cemegyn pwysig mewn dail planhigyn, yn rhoi'r lliw gwyrdd
cloroplastau chloroplasts
rhannau o gelloedd planhigyn, yn defnyddio goleuni i wneud bwyd yn rhan o ffotosynthesis
clun, cluniau hip(s)
asgwrn mawr yn y corff dynol sy'n fan cyfarfod esgyrn coesau a gweddill y sgerbwd
cnewyllyn nucleus of cell
craidd cell, darn bach yng 'nghanol' cell, sy'n cynnwys yr holl gemegau pwysig at dyfiant
corff dynol human body
ni - y system ryfeddol, gymhleth sy'n cynnwys ein sgerbwd, organau, gwaed, croen, llygaid ac ati
craig fetamorffig metamorphic rock
wedi'i ffurfio yn dilyn effaith gwres neu bwysedd uchel ar greigiau eraill
craig igneaidd igneous rock
wedi'i ffurfio o fagma hylifol yng nghrombil y Ddaear
craig waddod sedimentary rock
wedi'i ffurfio o waddod sy wedi setlo ar wely afon neu fôr
cromatograffaeth chromatography
yr astudiaeth o ba gemegau sy mewn defnyddiau, trwy nodi pa liwiau a ddaw ohono mewn dŵr e.e. lliwiau gwahanol mewn pin ffelt du
croth womb
y rhan o gorff menyw lle mae embryo yn tyfu'n faban
cwyr wax
defnydd cemegol a ddaw o olew crai, yr enghraifft fwyaf cyffredin yw'r rhan o gannwyll sy'n meddalu (troi'n hylif)
cydran, cydrannau component(s)
dyfeisiau (aelodau) trydanol sy'n ffurfio cylched trydan, megis switsh, bwlb, swnydd, modur, gwifrau
cyddwysedd condenser
hylif (dŵr) sy'n ffurfio pan fydd nwy yn cyffwrdd ag arwyneb oer megis ffenestr
cyddwyso condense
y broses o newid nwy yn hylif e.e. stêm/ager yn troi'n ddŵr
cyfaint volume(s)
faint o ofod y mae unrhyw wrthrych yn ei lenwi
cyfangu to contract
mynd yn llai, mae solidau a hylifau yn gwneud hyn pan fyddant yn oeri
cyfansoddyn compound
cemegyn sefydlog sy'n cynnwys mwy nag un elfen e.e. dŵr (hydrogen ac ocsigen) carbon deuocsid (carbon ac ocsigen), amonia (nitrogen a hydrogen)
cyffur, cyffuriau drug(s)
cemegyn a all effeithio ar y corff dynol (ac anifail arall) er lles neu er drwg y corff
cyflwr, cyflyrau mater state(s) of matter
mae'n hwylus gosod defnyddiau mewn grwpiau yn ôl nodweddion arbennig, y mwyaf cyffredin yw solidau, hylifau, nwyau - dyma dri chyflwr mater
cyflymdra speed
mesur o ba mor gyflym y mae gwrthrych yn symud i gyfeiriad penodol
cyflymu to accelerate
hyn sy'n digwydd pan fydd newid mewn cyflymdra, gall y newid fod naill ai ym maint y cyflymdra (e.e. o 5 i 10m/s) neu yng nghyfeiriad y mudiant (e.e. o'r gogledd i'r gogledd-orllewin) heb newid yn y maint
cyfnod, cyfnodau period(s) of time
talp o amser (10 eiliad, 5 mis, 13 mlynedd, mileniwm)
cyfres adweithedd reactivity series
rhestr sy'n dangos pa mor ffyrnig y mae cemegyn yn adweithio gydag chemegyn arall
cyhyr, cyhyrau muscle(s)
defnydd yn y corff dynol/anifail sy'n cyfangu (ac yn llacio) wrth dynnu ar esgyrn sgerbwd i wneud i'r corff symud
cylched baralel, cylchedau paralel parallel circuit(s)
trefniant cydrannau trydanol sy'n rhoi dewis o lwybrau i gerrynt lifo
cylched drydan electric circuit
trefniant cydrannau trydanol i sicrhau llif cerrynt
cylched gyfres, cylchedau cyfres series circuit(s)
trefniant cydrannau trydanol lle bydd cerrynt o'r un maint yn pasio trwy bob cydran
cylchred fywyd, cylchredau bywyd life cycle(s)
cyfres o newidiadau ym mywydau pethau byw o amser eu genedigaeth
cylchred greigiau rock cycle
cyfres o newidiadau rhwng mathau o graig
cylchredeg to circulate
llif defnydd (yn aml, hylif) sy'n cychwyn o un man ac yn mynd ar hyd lwybr hyd nes dychwelyd i'r man cyntaf
cylchrediad y gwaed blood circulation
y llif gwaed yn y corff dynol o'r galon trwy'r corff ac yn ôl i'r galon
cymal, cymalau joint(s)
man cyfarfod dau asgwrn yn y corff dynol, mae mwy nag un math o gymal
cymysgedd, cymysgeddau mixture(s)
casgliad o ddefnyddiau gyda'i gilydd, ond mae'n hawdd eu gwahanu eto
cynefin, cynefinoedd habitat(s)
ardal lle mae peth byw yn trigo, mae'r ardal yn cynnig popeth sy ei angen ar gyfer byw
cynhwysydd, cynwysyddion container(s)
offer y gallwch roi defnyddiau ynddo i'w cadw, e.e. potel a bocs
cynhyrchydd, cynhyrchwyr producer(s)
person neu ddyfais sy'n creu rhywbeth, mewn gwyddoniaeth y term hwn yw enw'r aelod cyntaf (planhigyn gwyrdd) mewn cadwyn fwyd
cynnal to support
rhoi help i rywun i fyw neu help i rywbeth gadw rhag cwympo neu suddo
cynnyrch product
beth sy'n dod ar ddiwedd proses o greu a gofalu, megis, gwenith ar fferm, cig mewn siop, darn o farddoniaeth
cyrydol corrosive
disgrifiad o hylif (fel arfer, asid) sy'n gallu distrywio metel
cysawd yr haul the solar system
y 'teulu' o naw planed (ac asteroidau a lleuadau) sy'n symud o gwmpas yr haul
cystadlu compete
'brwydro' rhwng pethau byw er mwyn ennill bwyd a maeth i fyw'n iach


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
 

a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n o p rh t u y