BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
22ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Gwyddoniaeth
CA 2
Pethaubyw
Defnyddiau
Prosesauffisegol
CA 3
Bioleg
Cemeg
Ffiseg
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Tacteg Cymraeg

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Termiadur
y
ymbelydrol radioactive
disgrifiad o ddefnydd (elfen gemegol fel arfer) sy'n rhyddhau gronynnau atomig
ymchwiliad, ymchwiliadau investigation(s)
proses o holi, arbrofi, meddwl, tynnu casgliad ac ati i geisio dod i wybod mwy am rywbeth
ymchwilio investigate
gweithredu ymchwiliad
ymdoddbwynt melting point
y tymheredd pan mae solid yn troi'n hylif trwy golli gwres
ymdoddi to melt
y broses o solid yn troi'n hylif, dim ond oherwydd bod ei dymheredd yn codi ac wedi cyrraedd yr ymdoddbwynt
ymennydd brain
yr organ sy'n rheoli pob peth sy'n digwydd yn y corff dynol, yn y penglog
ymsolido solidify
y broses sy'n digwydd i hylif pan mae'n troi'n solid dim ond oherwydd bod ei dymheredd yn disgyn ac yn pasio'r rhewbwynt
ynysu insulate
cadw rhywbeth ar wahân i bethau eraill a rhwystro cysylltiad hawdd rhyngddynt
ynysydd, ynysyddion insulator(s)
defnydd sydd fel mur neu rwystr i gadw pethau ar wahân i'w gilydd
ynysydd, ynysyddion thermol thermal insulator(s)
defnydd sydd yn rhwystro llif egni gwres, er mwyn cadw hylif yn boeth neu yn oer
ynysydd, ynysyddion trydanol electrical insulator(s)
defnydd, megis plastig, sydd yn rhwystro llif egni trydanol, er mwyn diogelwch
ysgall thistle
planhigyn
ysglyfaeth, ysglyfaethau prey(s)
anifail sy'n cael ei fwyta gan anifail arall
ysglyfaethwr, ysglyfaethwyr predator(s)
anifail sy'n hela ac yn bwyta anifail arall
ysgyfaint lung(s)
organ y corff dynol lle caiff ocsigen o aer ei ryddhau i'r gwaed
ysydd, ysyddion consumer(s)
anifail (neu blanhigyn) sy'n bwyta peth byw arall e.e. pobol yn bwyta bwyd


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
 

a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n o p rh t u y