BBC HomeExplore the BBC

GWENER
18fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Gwyddoniaeth
CA 2
Pethaubyw
Defnyddiau
Prosesauffisegol
CA 3
Bioleg
Cemeg
Ffiseg
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Tacteg Cymraeg

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Termiadur
t
tabl cyfnodol periodic table
trefniant o elfennau cemegol (mewn diagram o golofnau a rhesi) i nodi grwpiau sy â nodweddion arbennig, tebyg e.e. nwyon, metelau
tanwydd fuel
defnydd sy'n rhyddhau egni (gwres) pan mae'n llosgi e.e. olew, pren, petrol
tanwydd biomas biomass fuel
y defnydd gwreiddiol ar gyfer rhyddhau egni mewn cynefin o bethau byw
tanwydd ffosil fossil fuel
y defnydd gwreiddiol (tanwydd) sy ar ffurf ffosil mewn hen greigiau e.e. glo ac olew
thermomedr, thermomedrau thermometer(s)
offer i roi mesur o dymheredd solid, hylif neu nwy
tonfedd wavelength
y pellter rhwng dau fan cyfatebol, e.e. brig, un don a'r nesaf mewn cyfres o donnau
tonnau aer air waves
cyfres o fannau gwasgedd uchel ac isel mewn aer. Nid yw'n debyg i donnau dŵr
traw pitch
term sy'n cyfeirio at natur rhyw sain e.e. a yw'n sain uchel neu isel. Mae traw yn dynodi sawl dirgryniad sy'n digwydd mewn eiliad, sef amledd y sain
trawsnewid egni conversion of energy
newid egni o un math i fath arall e.e. egni cemegol bwyd i egni symud corff dynol
treulio bwyd to digest food
symud bwyd trwy'r corff ac ar yr un pryd yn tynnu o'r bwyd beth mae'r corff ei angen ar gyfer byw'n iach a chael gwared ar y gweddill (gwastraff)
troelli to spin
troi yn gyflym yn yr unfan o gwmpas echelin gweladwy, megis gwyntyll, neu anweladwy, megis Y Ddaear neu ddawnsiwr ar iâ
trosglwyddiad thermol thermal conversion
symudiad egni gwres o fan i fan
trosglwyddo egni to convert energy
symud egni sydd ar gael ar un ffurf neu mewn un man i ffurf arall neu at fan arall
trybedd tripod
offer metel ar gyfer cemeg, sef, llwyfan ar siâp triongl ar ben tair coes
trylediad, tryledu diffusion, diffuse
y broses o symud 'gwirfoddol' nwyon a hylifau sy'n arwain at ddosbarthiad/gwasgariad cyfartal mewn potel neu ystafell
tryleu translucent
disgrifiad o ddefnydd (gwydr) sy'n caniatáu i ran o lif goleuni basio drwyddo, rhwng tryloyw a didraidd
tryloyw transparent
disgrifiad o ddefnydd (gwydr) sy'n gadael i oleuni basio drwyddo'n hawdd
twndis funnel
twmffat, offer sy'n hwyluso tywallt hylif i mewn i agoriad cul
tymheredd, tymereddau temperature(s)
mesur o faint o egni gwres sy mewn solid, hylif neu nwy
tyniad pull
grym sy â'i gyfeiriad tuag at ffynhonnell y grym


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
 

a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n o p rh t u y