BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Gwyddoniaeth
CA 2
Pethaubyw
Defnyddiau
Prosesauffisegol
CA 3
Bioleg
Cemeg
Ffiseg
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Tacteg Cymraeg

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Termiadur
p
paill pollen
defnydd mewn planhigion sy'n symud o stamen i stigma
papur hidlo filter paper
math o bapur sy'n gadael i hylif fynd trwyddo ond sy'n dal gronynnau bach solid
pegwn de south pole
y pen o fagnet sy'n wynebu pegwn De y Ddaear
pegwn gogledd north pole
y pen o fagnet sy'n wynebu pegwn Gogledd y Ddaear
pegwn, pegynau pole(s)
y rhan o fagnet (fel arfer yn ymyl y pen) lle mae'r magnet ar ei gryfaf
peillio to pollinate
y broses o symud paill o stamen i stigma
pelfis pelvis
asgwrn mawr yn y corff sy'n cysylltu'r coesau â gweddill y sgerbwd
penelin, penelinoedd elbow(s)
y cymal rhwng asgwrn y fraich uchaf ac esgyrn y fraich isaf
penglog, penglogau skull(s)
yr asgwrn sy'n ffurfio pen person, yn amddiffyn yr ymennydd
perfedd, perfeddion bowel(s)
rhan o system dreulio'r corff dynol sy'n ymestyn o'r stumog i'r rectwm
pibell waed, pibellau gwaed blood vessel(s)
tiwb/sianel sy'n cario gwaed o fan i fan yn y corff dynol
plac plaque
gwastraff caled sy'n ffurfio ar ddannedd oherwydd bacteria
planed, planedau planet(s)
corff sy'n symud yn rheolaidd o gwmpas seren e.e. Y Ddaear o gwmpas yr Haul
Plwton Pluto
y nawfed blaned yng nghysawd yr Haul
plygiant refraction
y newid cyfeiriad wrth i oleuni basio trwy'r ffin rhwng dau sylwedd e.e. aer/dŵr
poblogaeth population
y nifer o bethau byw mewn cynefin
prif gyflenwad trydan mains electricity supply
y stôr o drydan sy ar gael (trwy soced) mewn cartrefi a lleoedd eraill. Daw'r trydan o orsaf arbennig. Yn ein cartrefi mae'r PGT ar gael ar foltedd o 240 folt
priodwedd, priodweddau property,properties
unrhyw beth (nodwedd) am berson neu blanhigyn neu ddefnydd e.e. taldra, lliw croen, lliw gwallt, dail pigog, hyblyg, hydawdd
prosesau bywyd life processes
y prosesau rhyfedd sy'n digwydd mewn pethau byw e.e. anadlu, resbiradu, tyfu, treulio bwyd, ffotosynthesis
protein, proteinau protein(s)
un o'r prif gategorïau bwydydd, hwn sy'n adeiladu rhannau'r corff
proton proton
rhan o atom, yn bodoli yn y niwclews, gwefr bositif
pwls pulse
mesur o guriad calon corff byw e.e. oddeutu 70 curiad pob munud i oedolyn iach
pydredd decay
y newid sy'n digwydd i fwyd pan fydd bacteria yn tyfu a byw arno
pydru to decay
bwyd yn newid oherwydd effaith bacteria sy'n ei droi yn wenwynig i bobol
pyramid niferoedd pyramid of numbers
diagram yn dangos patrwm cysylltiadau rhwng poblogaethau gwahanol fathau o bethau byw yn yr un cynefin


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
 

a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n o p rh t u y