|  |
 |
|
|
 |
 |
 |
 |
 |
| Neifion |
Neptune |
| yr wythfed blaned yng nghysawd yr Haul |
 |
| neithdar |
nectar |
| mêl, hylif melys a ddaw o blanhigion |
 |
| newid anghildroadwy |
irreversible change |
| newid cemegol nad oes modd ei droi yn ôl |
 |
| newid cemegol |
chemical change |
| newid sy'n digwydd pan fydd dau gemegyn yn adweithio i ffurfio cemegyn gwahanol e.e. hydrogen ac ocsigen yn ffurfio dŵr |
 |
| newid cildroadwy |
reversible change |
| newid y mae modd ei droi'n ôl |
 |
| newid ffisegol |
physical change |
| newid mewn cyflwr e.e. solid yn troi'n hylif, hylif yn troi'n nwy |
 |
| newid parhaol |
permanent change |
| newid sy'n digwydd unwaith ac am byth, newid anghildroadwy |
 |
|
| newton, newtonau |
newton(s) |
| uned grym e.e. byddai deial mesurydd grym efallai yn dangos 5N |
 |
| niwclews atom |
nucleus of an atom |
| rhan 'ganolog' model (darlun) o atom, yma y mae'r protonau a'r niwtronau |
 |
| niweidiol |
harmful |
| disgrifiad o ddefnydd neu o weithred a all achosi niwed, dolur neu nam |
 |
| niwtral |
neutral |
| disgrifiad o rywbeth sy ddim yn bositif nac yn negatif, sy ddim yn asid nac yn alcali, neu rhywun sy ddim yn ochri gyda neb mewn dadl |
 |
| niwtraliad, niwtraleiddio |
neutralise |
| proses o wneud cemegyn yn niwtral, wedi iddo fod yn asid neu yn alcali |
 |
| nwy, nwyon |
gas, gases |
| un o'r tri chyflwr mater pan fydd molecylau bron yn gwbl rydd o'i gilydd |
 |
|
|
 |
 |
|
|