BBC HomeExplore the BBC

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Gwyddoniaeth
CA 2
Pethaubyw
Defnyddiau
Prosesauffisegol
CA 3
Bioleg
Cemeg
Ffiseg
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Tacteg Cymraeg

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Termiadur
b
bacteria bacteria
planhigion, microorganebau, gyda siapiau gwahanol, sy'n gallu achosi afiechydon ond hefyd yn gallu eich amddiffyn rhag afiechydon
bas base
cemegyn sy'n uno gydag asid i ffurfio halwyn
berwbwynt boiling point
y tymheredd pan fydd hylif yn berwi ac yn newid i nwy
bicer, biceri beaker(s)
offer, gwydr neu blastig, i ddal hylif, gyda siâp silindr cylch, agored ar un pen
bioberygl biohazard
unrhyw berygl sy'n dod i fod oherwydd prosesau biolegol anghyffredin
blaguryn, blagur bud(s)
y tyfiant cyntaf, cynharaf ar stem planhigyn; yn y blaguryn y mae had
bod dynol, bodau dynol human being(s)
chi a fi, pobol
braster, brasterau fat(s)
un o'r pump grŵp o fwydydd y mae eu hangen ar bobol i fyw'n iach
bridio detholus selective breeding
atgenhedlu planhigion neu anifeiliaid newydd trwy ddethol gwryw a menyw sydd â nodweddion dymunol y byddai'n fanteisiol i'r rhai newydd eu cael
briger, brigerau stamen(s)
yr organ genhedlu gwrywaidd, yn cynnwys antler a ffilament
brigwth upthrust
grym (gwthiad) tuag i fyny gan hylif ar wrthrych sydd yn yr hylif (sylwer ar 'brig' a 'gwthio')
brych placenta
rhan o groth menyw feichiog sy'n rhoi maeth i faban yn y groth. Daw'r brych allan o gorff y fam yn syth ar ôl i'r babi gael ei eni
buanedd velocity
mesur o ba mor gyflym y mae rhywbeth yn symud i unrhyw gyfeiriad
bwlb, bylbiau bulb(s)
teclyn trydanol sy'n rhoi goleuni pan fydd cerrynt yn llifo trwyddo
bysedd y cwn foxglove
planhigyn gwyllt gyda blodau pinc
bywyn(dant) pulp(of tooth)
y rhan fewnol, fyw o ddant yn cynnwys nerfau a all rhybuddio niwed trwy achosi poen


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
 

a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n o p rh t u y