|  |
 |
|
|
 |
 |
 |
 |
 |
| addasiad, addasiadau |
adaptation(s) |
| unrhyw newid mewn planhigyn neu anifail sy'n digwydd am fod ei gynefin yn newid. Mae'r addasiad yn gymorth iddo barhau i fyw |
 |
| addasu |
to adapt |
| y broses o newid er mwyn goroesi (para i fyw) mewn cynefin sy'n newid |
 |
| adlewyrchu |
to reflect |
| mae goleuni yn gwneud hyn wedi taro arwyneb sgleiniog - tebyg i bêl yn bownsio oddi ar arwyneb caled |
 |
| adnodd(au) egni adnewyddadwy |
renewable energy source(s) |
| cronfa egni sy wastad ar gael, dim diwedd iddo, megis egni gwynt neu donnau'r môr |
 |
| adnodd(au) egni anadnewyddadwy |
non-renewable energy source(s) |
| cronfa egni sy'n gorffen ar ôl hir ddefnydd ohono, megis glo neu olew |
 |
| adwaith |
reaction |
| 'Gornest' rhwng dau gemegyn gan arwain, fel rheol, at greu cemegau gwahanol e.e. ocsigen a hydrogen yn ffurfio dŵr |
 |
| afu(iau) |
liver |
| organ pwysig iawn yn y corff dynol (ac mewn anifeiliaid eraill), yr organ mwyaf; ei waith yw glanhau'r gwaed |
 |
| alcali |
alkali |
| hylif gyda rhif pH rhwng 7 a 14, y gwrthwyneb i asid, e.e. sodiwm bicarbonad |
 |
| amgylchedd |
environment |
| yn gyffredinol yr holl atmosffer a'r tir o'n cwmpas |
 |
| amledd |
frequency |
| y nifer o weithiau y bydd symudiad nôl-ac-ymlaen (osgiliad) yn digwydd mewn eiliad |
 |
| amrywiaeth |
variety |
| casgliad o bethau o'r un math ond yn wahanol e.e. pobol mewn torf, peli mewn bocs |
 |
| amrywiadau |
variations |
| rhywbeth gwahanol rhwng pethau (byw neu ddim) sy fel arall yn debyg iawn i'w gilydd e.e. lliw llygaid mewn pobol, lliw petalau mewn rhosod |
 |
| amsugno |
to absorb |
| y broses sy'n achosi i hylif neu nwy fynd i mewn i gorff rhywbeth e.e. dŵr yn mynd i mewn i sbwng, egni'r Haul yn cael ei dderbyn gan ddeilen planhigyn |
 |
| anadlu |
to breathe |
| y broses o symud aer i mewn i'r corff dynol ac allan, mae'r frest yn symud i alluogi hyn i ddigwydd yn yr ysgyfaint |
 |
| anfetel |
non-metal |
| solid (fel arfer) sy ddim yn fetel e.e. pren, gwydr, plastig |
 |
| anghildroadwy |
irreversible |
| newid cemegol sy wedi digwydd am byth - does dim troi'n ôl e.e. toes, burum a dŵr yn newid i ffurfio bara |
 |
|
| anhydawdd |
insoluble |
| disgrifiad o solid sy ddim yn hydoddi mewn dŵr (na hylifau cyffredin eraill) e.e. tywod, carreg, pren |
 |
| anther, antherau |
anther(s) |
| rhan o flodyn lle mae'r paill (celloedd rhyw gwrywaidd) |
 |
| anwedd dŵr |
water vapour |
| y ffurf 'nwyol' i ddŵr; mae hwn yn bodoli uwchben arwyneb dŵr; nid yr un peth â stêm (ager) |
 |
| anweddu |
evaporate |
| y broses sy'n digwydd wrth i ddŵr hylif droi yn anwedd dŵr e.e. pan fydd pwll glaw ar y stryd yn raddol ddiflannu |
 |
| anwedd |
vapour |
| y sylwedd 'nwyol' sy'n bodoli uwchben lefel hylif neu a greïr pan fydd hylif yn 'diflannu' (anweddu) i'r atmosffer |
 |
| aren, arennau |
kidney(s) |
| organ pwysig yn y corff dynol sy'n gwneud y gwaith o dynnu gwastraff (wrea) o'r gwaed |
 |
| arnofio |
to float |
| y gallu sy gan wrthrychau (gan gynnwys pobl) i orwedd yn llonydd ar wyneb hylif heb suddo |
 |
| asen(nau) |
rib(s) |
| asgwrn yn y frest, un o set (cawell)o rai tebyg. Gwaith y cawell yw amddiffyn yr ysgyfaint a'r galon. Mae'r gawell yn symud pan fydd person yn anadlu |
 |
| asgwrn cefn |
backbone |
| nid un asgwrn yw hwn, ond 'cadwyn' o esgyrn yn y cefn o'r gwddf i'r pelfis. Fertebrat yw enw'r grŵp o anifeiliaid sy ag asgwrn cefn |
 |
| asgwrn,esgyrn |
bone(s) |
| aelod o'r sgerbwd - darn cymharol galed ond gellir ei dorri mewn damwain. Mae ei berfedd yn feddal |
 |
| asid |
acid |
| hylif gyda rhif pH rhwng 1 a 6. Peryglus iawn i bobl am ei fod yn gallu cyrydu ('bwyta') hyd yn oed solidau caled megis haearn |
 |
| atgenhedlu |
to reproduce |
| y broses o greu baban newydd o ddyn a menyw |
 |
| atom |
atom |
| y ffurf symlaf, sefydlog o unrhyw elfen gemegol - ein darlun (model) yw bod atom yn cynnwys craidd canolog (niwclews) gydag electronau o'i gwmpas |
 |
| atyniad |
attraction |
| grym rhwng dau wrthrych sy'n peri iddynt geisio closio at ei gilydd |
 |
| atynnu |
to attract |
| dyma beth mae un gwrthrych yn ei wneud i wrthrych arall gan beri i'r ail geisio mynd at y cyntaf |
 |
|
|
 |
 |
|
|