BBC HomeExplore the BBC

GWENER
18fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA2 Prosesau Ffisegol
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Gwyddoniaeth
CA 2
Pethaubyw
Defnyddiau
Prosesauffisegol
CA 3
Bioleg
Cemeg
Ffiseg
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Tacteg Cymraeg

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Grymoedd
Gweithgaredd
Dalen Ffeithiau
Cwis
Cofia hyn
Disgyrchiant
  • Mae gan wrthrych fàs, sef cyfanswm y deunydd mae wedi ei wneud ohono. Nid grym yw màs a chaiff ei fesur mewn cilogramau.
  • Rydyn ni'n mesur grymoedd mewn newtonau gan ddefnyddio mesurydd grym (a elwir yn fesurydd newton hefyd).

  • Yr enw ar y grym sy'n atynnu neu'n tynnu'r ddaear a gwrthrych (megis person) tuag at ei gilydd yw disgyrchiant.

  • Tyniad y blaned ar fàs unrhyw wrthrych sy'n gwneud y grym rydyn ni'n ei alw'n bwysau.

  • Pwysau gwrthrych yw grym y Ddaear ar y gwrthrych.

  • Mesurir pwysau mewn newtonau.

  • Mae gan blanedau eraill, sêr neu leuadau ddisgyrchiant hefyd.
grymoedd
grymoedd
  • Mae'r diagram yma'n dangos disgyrchiant neu bwysau gyda saeth yn mynd i gyfeiriad y Ddaear.

Ffrithiant
  • Gall grymoedd achosi i bethau gyflymu, arafu, a newid cyfeiriad.

  • Mae grymoedd yn gweithredu i un cyfeiriad penodol.
  • Wrth i ni geisio symud gwrthrych, yr enw ar y grym sy'n rhwystro neu'n arafu'r symudiad hwnnw yw ffrithiant.

  • Os bydd y gwrthrych yn symud yn barod, yr enw ar y grym sy'n arafu'r gwrthrych ydy ffrithiant, felly mae ffrithiant yn wthiad yn erbyn gwrthrych sy'n symud.

  • Grym cyffwrdd rhwng deunyddiau ydy ffrithiant.

  • Math o ffrithiant rhwng aer a deunydd arall yw gwrthiant aer.

  • Gall ffrithiant fod yn rym defnyddiol oherwydd ei fod yn rhwystro ein hesgidiau rhag llithro ar y ffordd wrth i ni gerdded ac mae'n rhwystro teiars ceir rhag llithro.

  • Cofiwch! Nid math o ffrithiant ydy brigwth. Mae brigwth yn rym tuag at i fyny sydd i'w weld mewn nwyon a hylifau. Mae'n cael ei greu drwy fod y nwy neu'r hylif islaw yn gwthio tuag at i fyny yn fwy na'r nwy neu'r hylif sydd uwchben.

Clip Fideo
Disgyrchiant
Hyd: 05:33
CA2 Prosesau Ffisegol

Cwis


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy