 |
 |
 |
 |
 |
| Sgript |
Mae deialog mewn drama yn cael ei hysgrifennu ar ffurf sgript, hynny yw, gyda enwau'r cymeriadau ar y chwith, cyfarwyddiadau mewn cromfachau ac ati. |
 |
| Stori |
Hanes diddorol mewn llyfr neu sy'n cael ei adrodd gan storïwr. Mae storïau'n gallu bod yn wir neu'n ffug. |
 |
| Safbwynt |
Y ffordd mae person yn edrych ar sefyllfa. |
 |
| Sillaf/sillafau |
Gair neu ran o air ydy sillaf, e.e. Un sillaf sydd yn y gair cerdd; dwy sillaf sydd yn y gair cerddi; tair sillaf yn y gair cerddoriaeth. Cofiwch glapio'r sillafau i'ch helpu! |
 |
| sylfaen |
Yr hyn mae rhywbeth wedi'i seilio arno |
 |
|
 |
 |
|
|