 |
 |
 |
 |
 |
| Act |
Prif rannau mewn drama. Fel arfer mae drama wedi ei rhannu i ddau neu dri act. |
 |
| Atalnodi |
Defnyddir symbolau i drefnu gwaith ysgrifenedig yn gywir |
 |
| Atalnod llawn |
Mae'r marc hwn yn cael ei ddefnyddio ( . ) ar ddiwedd brawddeg. |
 |
| Awdur/Awdures |
Person sy'n ysgrifennu darn o waith e.e. llyfr, drama neu stori. |
 |
| Anghytuno |
Pan dydych chi ddim yn cytuno gyda rhywun arall, rydych yn anghytuno. |
 |
| Arddull |
Defnyddio geiriau arbennig er mwyn creu ffordd benodol o ysgrifennu neu siarad. |
 |
| Adroddwr/Adroddwraig |
Rhywun sy'n dweud stori. |
 |
| Adfail |
Hen adeilad sydd wedi dirywio. |
 |
| Achlysur / Achlysuron |
Adeg neu ddigwyddiad arbennig e.e. pen-blwydd neu'r Nadolig. |
 |
| Adferf / Adferfau |
Gair sy'n disgrifio berf e.e. 'rhedeg yn gyflym'. |
 |
| Ansoddair/ansoddeiriau |
Gair sy'n disgrifio enw e.e. ton enfawr, cymylau gwynion. |
 |
| awyrgylch |
y teimlad arbennig sydd o gwmpas digwyddiad neu le |
 |
| amwys |
Rhywbeth sydd â mwy nag un ystyr |
 |
| ansoddair |
Gair sy'n disgrifio enw e.e. bochau coch, sosban fach |
 |
|
 |
 |
|
|