|
Sut ydw i'n cael profiad gwaith?
Nid ar gyfer plant ysgol yn unig y mae lleoliadau profiad gwaith, felly waeth beth yw eich oed na pha agwedd o'n gwaith sydd o ddiddordeb i chi, mae 'na siawns y bydd gennym ni rywbeth sydd at eich dant.
Mae pob lleoliad yn ddi-dâl ac fe allan nhw bara am unrhyw beth o ychydig ddyddiau i bedair wythnos. Mae'r gystadleuaeth yn ffyrnig, felly cyn gwneud cais fe fydd angen i chi ystyried beth allwch chi ei gynnig a beth ydych chi eisiau ei gyflawni.
Ydych chi'n giamstar ar gyfrifiaduron? Ydych chi wedi gweithio ym maes radio ysbyty? Wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer eich cylchgrawn lleol neu yn y coleg? Beth ydych chi'n gobeithio ei gael o'r lleoliad? A beth yw eich uchelgais ar gyfer y dyfodol?
Mae lleoliadau profiad gwaith ar gael yn y adrannau hyn :
|