Tud 3
Neidiodd ei chalon pan glywodd y sŵn. Sŵn o'r cysgodion. Dim ond sŵn bychan oedd o. Sŵn troed yn y dail. Y dail oedd wedi cael eu chwythu i lawr gan wynt cryf neithiwr. Sŵn rhywyn yn agos iawn ati. Sŵn oedd yn ei dychryn.
Ond cyn iddi gael troi na gneud dim, teimlodd law fawr yn cau am ei gwyneb.
Tud 3
Ond cyn iddi gael troi na gneud dim, teimlodd law fawr yn cau am ei gwyneb. Llaw yn gwasgu'n gryf dros ei thrwyn a'i cheg. Llaw oedd yn ei mygu'n lân. Llaw mewn maneg.
Ceisiodd ysgwyd ei hun yn rhydd. Cicio'n ôl efo'i sawdl. Dyrnu'n ôl efo'i phenelin. Ceisiodd dynnu'r llaw oddi ar ei cheg. Roedd hi isho gweiddi a sgrechian am help.
Ond roedd y llaw yn y faneg yn rhy gryf, a rŵan roedd bysedd y llaw arall yn gwasgu ar ei llwnc.
Tud 25
Roedd o'n eistedd efo'i ben yn ei ddwylo, a'i ddwylo'n fflat ar y bwrdd o'i flaen. Roedd o wedi bod yn crio ers deg munud neu fwy. Dyn mawr yn crio fel babi bach! Nid crio am fod ei drwyn o'n boenus oedd o, ond crio oherwydd be oedd o wedi'i neud, eto neithiwr.
Roedd o wedi blino. Diolch, felly, mai dydd Sadwrn oedd hi oherwydd doedd o byth yn gallu cysgu llawer ar nos Wener, ar ôl bod yn gneud petha drwg.
Tud 105
Am fod sgwrs efo Mat yn dal i fynd rownd a rownd yn ei ben, roedd Jake yn cymryd mwy o bwyll nag arfer ar ei ffordd yn ôl i Pencraig. A da hynny, oherwydd fe ddaeth y 4 x 4 yn syth amdano fo allan o'r twywllwch, heb unrhyw fath o olau na rhybudd. Rhwng y niwl a'r glaw a chysgodion du y ddau wrych, welodd Jake mohono fo nes ei bod hi'n rhy hwyr.
Breciodd yn galed. Teimlodd yr olwynion yn sglefrio mewn sgid o un ochor i'r llall. Brwydrodd i gadw'r beic rhag syrthio. Ond doedd dim ffordd i osgoi'r 4 x 4 oedd yn llenwi'r ffordd o'i flaen.
Rhyw 30 milltir yr awr oedd cyflymdra'r beic pan ddaeth y glec. Teimlodd Jake ei hun yn cael ei daflu fel doli glwt i gyfeiriad y gwrych, neu fel joci Grand National yn ffarwelio efo'i geffyl uwchben Beecher's Brook.
Yn reddfol, gwnaeth ei hun mor fach â phosib yn yr awyr. Gneud ei hun yn belen dynn cyn i'r coed drain ddechra crafangu amdano fo. Cau ei lygaid a disgwyl am y gwaetha.