BBC HomeExplore the BBC
THURSDAY
31st December 2009
Text only
RAW Cymru
beth yw raw?
RaW ydy darllen a sgwennu'n well

Wyt ti'n teimlo nad yw dy Gymraeg yn ddigon da? Ydy treigladau yn peri pen tost? Gramadeg yn dy wneud di'n wallgo?

Paid â phoeni! Mae RaW yma i dy helpu di.

Felly, os wyt ti am wneud y gorau o dy Gymraeg, paid â bod yn swil! Mae 'na lu o bobl yn ysu i glywed gennyt.

llinell gymorth Eisiau gwybod mwy?Gelli gysylltu â ni ar ein llinell ffôn arbennig. Cofia ofyn am siaradwr Cymraeg.

canolfanNeu beth am alw heibio dy ganolfan RaW agosaf? Mae digwyddiadau a gweithdai yn cael eu trefnu mewn canolfannau RaW ar hyd a lled y wlad. Felly, cofia ddod nôl yn fuan i weld beth sydd wedi ei drefnu yn dy ardal di.

gemau geiriauRydym hefyd wrthi'n datblygu ystod o weithgareddau cyffrous arlein fydd yn dy helpu i fagu hyder wrth ddarllen a sgwennu'r Gymraeg.

helpYn y cyfamser, beth am fwrw golwg dros rai o'n hoffer iaith arbennig? I'r dim ar gyfer taclo'r treigladau neu gael gwared ar wallau gramadeg!



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy