Cynigion ychwanegol:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'YSG'
Mae rhai mwll, Gymru, ymysg
Graddau dy Bwyllgor Addysg.
Yn gymaint ag ŷm gymysg,
Un math ddaeth Edward i'n mysg.
Ein harfau rown rhag terfysg
Y mae ei waed yn ein mysg.
Oen Duw yw'r Un a'n dysg,
y diarfau ei derfysg.
PENNILL TELYN: SERCH A SIOM
Aur ei hwyneb a'm gwirionodd,
Aur ei hafal lyncais rywfodd,
Sbyda f'aur rhwng Marks a'r tacsi,
Hawlia hon le'r sarff eleni.
Llethwyd fi gan eneth greulon
Carreg oeraidd oedd ei chalon
Fe adfywiais ar ol sylwi
Fod ei mham hi yn beth handi
Mae fy nghariad yn dymuno
Mynd i garu yn y Peugeot
Yn anffodus iddi hi
S'gen i'm tax na Em O Ti
Mor angerddol oedd fy nghariad
Codais iddi wych adeilad
Yn anffodus dan y llawr
Roedd 'na bla o lygod mawr
Sgwenais lythyr at fy nghymar
Paid â mynd i ffwrdd ddydd Merchar
Fe gawn fyw'n gytûn ein dau
'Nath o'm cyrraedd tan ddydd Iau.
Meddwl bod y pren yn union
Wrth ddwyn ffrwyth yn ein dwy galon
Nes darganfod yn y berllan
Fod y goeden yn ei chwman.
Plannu gwinllan ar y mynydd
Aeth â'n bryd pan oedd hi'n hafddydd;
Ond ar frathiad gwynt yr hydre'
Aeth y dail yn fwg i rywle.
Rhedeg at y ffôn sy'n canu,
Gaddo siarad eto fory;
Mae hi'n dro i minnau alw -
Ond mae'r lein yn hollol farw.
Rhannu'r daith oedd ar ein meddwl -
Aem o'r unfan wedi'r cwbwl;
Dim ond cam neu ddau oedd eisiau -
Gweld mai croesi roedd ein llwybrau.
Golau'r hafan yn y llanw
Yn sillafu mêl dy enw;
Tarth y bore'n drwm gan halen -
Nid oes yno'r un llythyren.
Daw Serch, o'i siom, yn ôl i 'mreichiau,
Ac ailadrodd ei gelwyddau
Ond pan ddwed ei fod am aros,
Ni wnaf i ond pledio'i achos.
Er mai'r diwedd fu ei cholli,
er na ches i ddim mohoni,
mae gorffennol eto rhyngddom
na all dyfodol ddwyn oddiarnom.
Rhannu'r cyfan, rhannu gwely
rhannu'r byd oedd cael bod felly,
ei gadael wnes yn cysgu heno
pan es yn ôl roedd arall yno.
Os am garu, caru i'r eithaf,
caru brwd nid caru araf,
caru heb ystyried fory
nid diben heno yw difaru
I Radio Cymru
Ffoli wnes ar ei huodledd,
roeddem ni ar yr un donfedd,
ond fe aeth ei sidan rhywiog
heb adael dim ond bratiau carpiog
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL 'MAE RHAI YNG NGHYMRU O HYD'
O'r hunllef! Yn farwnllyd o oeraidd,
Y Meuryn ry'r ddedfryd;
Un wyf o'r Gwylliaid hefyd,
Mae rhai yng Nghymru o hyd.
Y beirdd unllawr, barddonllyd, - crin eu dawn,
Croendenau, cwynfanllyd,
Criw y leins unlliw, swnllyd:
Mae rhai yng Nghymru o hyd.
(Plant Owain)
O niwloedd y coed celyd - y deuent
Fel duwiau o'r cynfyd,
Trwy argae'n taro ergyd -
Mae rhai yng Nghymru o hyd.
Eu dyddiau'n llawn dedwyddyd-roedd elw
ar ddwylo eu golud;
tu clyta'r clawdd mewn hawddfyd
mae rhai yng Nghymru o hyd.
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYSTADLU
Y parti cyd-adrodd ddaeth ola'
Ni chawsant ond deunaw o farcia'
Roedd deuddeg o'r rheini'n
Ddyledus i Heidi
Oedd yn y rhes ffrynt yn gneud stumia'
Yn pwyso o leia' chwe chant
I'r llwyfan daeth Neli 'Tir Nant'
Ar ôl iddynt drwsio
Y llwyfan a'i frwsio
Enillodd y ddeuawd gerdd dant
Fe aeth heb un eitem hanfodol
I'w fedd yn y rownd gyn-derfynol
Pan gafodd o homar
O slap efo concar
A fynta heb het amddiffynnol
Enillodd Miss Tandy Rhydgaled
Y ras i bensiynwr ar foped
Cychwynodd Miss Tandy
A gorffen reit handi
O'r herwydd roedd ganddi hi roced
Huw Erith ddechreuodd 'neud synna'
Roedd Gerallt 'di gyrru'r testyna'
Aeth Gareth i grynu
A thaflud i fyny
A Myrddin i ffwrdd ar ei wylia'
Nos Wener aeth Now i gystadlu
Mewn gornest dal-gwynt-heb-anadlu
Ar ôl dod yn gyntaf
Mae yn y môrg 'gosaf
A'r trefnwyr yng ngorsaf yr heddlu
Un gry' di Nans gwraig Alwyn
Mae ganddi nerth dau stalwyn
Fe gurodd Nans
Y Tour de France
Yn reidio beic tair olwyn
Heb grysbas na fest roedd Huw Denna
Ar lwyfan yn 'steddfod Treganna
Cyfeiliai Wil Wirion
Drwy daro morthwylion
I fyny a lawr ar ei senna
Ac wedyn daeth baswr o Garno
I lwyfan y Brifwyl i udo
Ond rhywsut y biano
Ddaeth lawr am ei ben o
A 'nawr mae o'n fezzo soprano
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) YN DECHRAU EFO'R GEIRIAU 'Y MAE...'
Tafarn Tŷ Newydd, Aberdaron
Y mae un lle ym Mhen Llŷn
na hawliodd yr hen elyn,
lle steilus, llys y dalaith,
lle hen win, a llanw'n hiaith
o'i swmer i'w seler sydd -
ein tŷ ni yw Tŷ Newydd.
Walio amser ar deras,
bugeilio ŵyn y bae glas
a sbel cyn i'r gorwel gau,
rhwydo i unnos dridiau
a dw' innau'n dallt pam dwi'n dod
eto i'r tŷ ar y tywod.
(yn nechrau'r pumdegau mi fu hogyn o Fynydd Nefyn farw ym mreichiau ei fam wrth iddi redeg â fo am y lle doctor ar ôl brathiad gwiber)
Y mae olaf gyw melyn
yn dal yn fy moch yn dynn,
byd oer yn ei wyneb du
a'i anadl yn ewynnu.
Maith yw'r llechwedd at feddyg,
garw yw'r ras; gadael grug
mae'i wanwyn, gadael mynydd;
gadael dwy ael y mae'r dydd.
Rhoch hir yn fy mreichiau i
a'i waedd a drof yn weddi'r
galon: clyw hon, y duw clên
a duw'r neidr yn ein Eden.
PENNILL DYCHAN: CYFIEITHWYR
Myfanwy! come quick up to me
And look who is fly to the sea
The bird I show you
Is the Shoemaker Blue
Sad Hermit, up there! Can him see?
Rwy'n cymryd y jargon a'r rhethrag
A'i droi i'r Gymraeg neu i'r Susnag
D'wn im pam dwi'n trio
Does neb sy'n ei weld o
Yn debyg o'i ddallt o beth bynnag
Arferwn reportio i'r Sun
Fe gefais i dolops of fun
These days dwi'n cyfieithu
A ydwi'n syrffedu?
Wel nac ydw dydwi ddim yn
Yn rhinwedd fy swydd rwy'n cyfieithu
Drwy gydol y dydd rydwi'n sgwennu
Cyfrolau i'r cyngor
Sy'n mynd heb eu hagor
I sgipiau'r ganolfan ail gylchu.
Rhyw ambell air o'r jargon cwango
Dwi'n ddallt yn iaith y Saeson,
Ond o'r Gymraeg mae'r rhain 'di'i phoetsio
Does modd gwneud pen na chynffon.
Scroll right down if you want
Y neges hon yn dy iaith;
Tick this box for mail in Welsh
(Ni chei ddosbarth cynta' chwaith);
Hold the line, we'll get a speaker
All ddatrys be' ti'n trio'i ddeud;
Take a seat, we won't be long...
Hir pob aros; dal i wneud.
Y Prinz, 'Big Brother', Lludw Lloegar gaf
Ar fwletinau o Landaf;
Er bod y cyfan yn fy iaith,
Nid radio i Gymry ydi-o chwaith.
Troi dŵr diogi dysgwyr
i'w felin ei hun er lles,
a throi yr anealladwy
iddo'n symbolau pres
Cowdel ydi cyfieithu
a deud yr un peth eto
dwi'n meddwl baswn wedi dallt
pe basai di translatio
Troi iaith yn iaith arall
troi geiriau yn pres
troi coed mawr yn papur
fesul tunell mewn rhes,
mor llonydd ac y buon erioed
mor llonydd ac yr oedd y coed.
ENGLYN CYWAITH: TWYLL
Wael, anaeddfed, sglein hawddfyd eu llyfryn
Wna'r holl lifrai'n ddelfryd;
A'i byw wnei'n ffiniau bywyd,
Eiliad bell o'weld y byd'.
(lleuad newydd)
Yr hen gryman sidan sydd - fis ar fis
yn ias fain gan glochydd
y wlad oer heb olau dydd,
ond i ni - lleuad newydd.
TELYNEG - GWRTHOD
Ni fu o fewn ei fur erioed
A gredai bob un gair;
Ni ddenir nacw chwaith i'w ddrws
Drwy rwystrau'r gwe a'r gwair.
Os osgo fyddar sydd i'r dyn
Wrth bwyso ar y glwyd,
Mae'n syllu'n hir ar golofn-faen
Dan yw y fynwent lwyd.
Ond sytha'i ben a brysio'mlaen
O fwrw'i hiraeth dro;
Dymunwn innau basio'r lle
A gweld y drws heb glo.
Braf cael denig - merch,
Bawd-ym-mawd â'i mam,
Linc-di-lonc drwy'r hwiangerddi, law a cham,
Heb dad na brawd dan draed
Cael cynnig pnawn yn 'dre,
Sudd a chrempog fêl yn Gwalia 'wneith i de;
Mae'n taflu ll'gadau poethion; glas yn toi pob man
A mwclis tylwyth teg ar balmant Stryd Pen-lan.
Dacw Tomos Huw;
Dacw Llinos Haf;
Ar eu pennau'u hunain, rhydd i grwydro'n braf.
Datod braich, dal draw;
Dau gam i ffwrdd, neu dri,
'Nôl yn ferch â thyllau yn ei chlustiau hi;
Awyr lwyd uwch ben a golwg tywydd gwan,
Dim ond cerrig oer yw palmant Stryd Pen-lan.