CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'WNC':
Hen beth cas yw temtasiwn:
Colli llong er mwyn cael llwnc.
PENNILL TELYN YN DECHRAU EFO 'MI WN...'
Mi wn nad ydyw yn fy nabod
Er na wn be mae yn wybod,
Llwybrau cul yw teithiau'r meddwl
A cholli rhain yw colli'r cwbwl.
Mi wn y rhois f'addewid eto
Ac na wnes i gadw ato,
A gwn yn hwyl fy sbri a miri
Y bydd rhywun yn cael ei siomi.
Mi wn i ac fe wyr hithau
Beth ddigwyddodd i fyny'r grisiau,
A chan na wnaeth neb arall ffendio
Ma gen i awydd ei wneud eto.
Mi wn i, o gwn mi wn
Y gwelaf Feuryn mwy na hwn,
Ond hyd nes bydd y dydd yn dod
Fo sy'n deud sut mae hi fod.
Mi wn, o gwn mi wn i,
Gwn, gwn mi wn dy hynt di,
A gwn mai'r gwn sydd genni
Yw'r gwn wna'n ail uno ni.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - NEWYDD DA
'Newydd da heddiw i dai!'
y llwydwas a ddarlledai:
'Sôn bod y prisiau'n codi
'n nes at seis fy morgais i!'
Ymhell o'r stiwdio mae haf
y newydd yn troi'n aeaf,
yn y wlad ddi-aelwydydd
mi gawn, gyda'i phroblem gudd,
Gymru wag o gamerâu
heb 'wneud' y prif benawdau
a thai sydd â'u trothwyon
haen y tu hwnt i blant hon.
ENGLYN YN CYNNWYS 'OND ER HYN'
Rhes o gics yn mynd ar sgiw, - i'r gelyn,
Pedair gôl - mae'n chwilfriw;
Mae'r diwedd yma heddiw:
Ond er hyn mae'r ffans yn driw.
(gwareiddiad y Gorllewin sy'n siarad)
Yn wâr, rhof bunt a'i gyrru, a rhof faith,
A'r fam wedi'i llethu;
O raid dof a'r oen i'r tŷ,
Ond er hyn ei drywanu.
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYSGU
Cysgu'n y bath wnaeth Wil Nant
Pan ddeffrodd edrychai tua cant
Am wythnos bu'n sychu
Mae n'awr 'di crebachu
A'n gwisgo hen ddillad y plant
A dyma'r gerddorfa'n tarannu
A'r dawnsiwr i'r llwyfan yn llamu
o'r mŵg, cyn ymlusgo
O gwmpas fel morlo
Roedd coesau Alfonso 'di cysgu
Bu ffrwydriad mewn plasty'n Llanbêr
Syr Huw ddaeth i'r fei yn San Clêr
Yn ôl be dwi'n ddeall
Ar waelod gallt Rhuallt
Y cafwyd ei ddau dedi-bêr
Fe ddeffrodd ar ôl cael ei suo
Gan ddeintydd amheus o Langaffo
Roedd hwnnw, yr uffar
'Di gadael y gadar
A mynd efo'i ddillad a'i gar o
Roedd Miles wrthi'n canu'r bas dwbwl
Rhyw drefniant yn "D" rydwi'n meddwl
Yn sêt wyth deg tri
Roedd Meinir tŷ ni
Yn chwyrnu'n "Top C" dros y cwbwl
Roedd Wil yn ei wely ers ddeg
Pan ffrwydrodd ei dent ym Mhrenteg
Fe laniodd y brawd
Fel sached o flawd
Ym Moduan a'i fawd yn ei geg
Roedd o'n lledan wrth ochr y ci,
A galw am y meddyg wnaeth hi
Meddai hwnnw'n ddi lol
'Oes alergedd gan Col'
'Dim ond i alcohol' medda fi
ENGLYN CYWAITH: HAPUSRWYDD
Waeth faint ei swm, na'r cwmni a'i rhannodd
A'r wyneb yn gloywi;
Nid yw yn fy enaid i,
Ond Duw, a minnau'n tewi.
TELYNEG: CRWYDRO
Pan ddoi Garni adra ers talwm
Yn hael hefo'i faco o'r môr,
Er holi, ni dd'wedai rhyw lawer
Am Dropics na rhew Labrador.
Dim ond awgrym a gawn i wedyn
Ac yntau gryn dipyn yn hŷn
Yn criwio ar longau Dun Laoghaire,
Ar shifftia bum niwrnod o Lŷn.
Mor chwithig ei weled neithiwr
Ar y ward yn ffwndrus ei ael,
Yn rhaffu wrth gei mewn rhyw borthladd,
Ond doedd'na fawr chwaneg i'w gael.
------------------------
Mae'n gafael yn y llyw o'r gadair lonydd,
Yn stwyo ac yn werio hyd y bae,
A simio'r gwynt, tynhau y rhaff a'i llacio
Tra'n codi marciau oddiar sgubor, corn a chae
Mae'n tynnu pig ei gap i lawr o flaen y ffendar,
A hefo'i lawes yn sychu'r sug o'i geg,
Cyn brathu'r cetyn nes ei fod yn clecian,
A gwyro i'sgoi y bŵm a tharo rheg
Mae'n gweld yr adwy ble mae'r ras yn darfod,
Yn newid tac a chydio'r tiler a'i law dde,
Yr hwyliau allan o flaen gwynt ar glec yn aros,
Ar trobwll yn diflannu yn ei gwpan de.