CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'EL':
Mor sownd, pan fo'r ffarm ar sêl,
Yw'r beindar ar bob bwndel.
Diau mae golau nas gwêl
Yn nos sawl un penisel.
Wyched yw'r haf, anochel
Y byrhá dan ymbarél.
Ar fôr, draw o'r dŵr tawel
yn y chwa mae gwerth ei chel
Cyn nabod unrhyw fodel
rhaid cofio archwilio'i chel
PENNILL MAWL/DYCHAN - RHAGLENNI GARDDIO
Rwy'n trafod tail i'r B.B.C.
Mae popeth ar i fyny
A fwya'n byd siarada i
Mae nghyfrif banc i'n tyfu
.........................................
Mae'r hadau wedi hedeg
y maent yn ddiflas braidd,
mae'n amsar dechrau tocio,
a hynny yn y gwraith
....................................
Eu plannu'n dwt mewn rhesi
a ch'neuaf da a geir
ond cofia mai y popty
yw'r lle i gau y ieir
..................................
Bethan Gwanas, Russel Jones
Alan Tichmarsh, Charlie Dimmock,
mae'r rhaw ar fforch draw yn y cwt,
mi fydda i yn yr hammock
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): BAI AR GAM
Roedd Pero mewn trwmgwsg mewn basged, yn fodlon a braf ger y tân
Breuddwydiai am esgyrn a Marged, gast ddefaid ddeniadol a glân.
Anwesai y ddau yn gariadus gan s'nwyro a gwneud llygid llo
Pan glywodd o'r pellter Sian Eirlys yn galw drwy'r niwl arno fo.
Dow-dow daeth o'i drwmgwsg gan 'stwytho, uwch ei ben o'n bytheirio roedd Sian
A'i ffon ddaeth i lawr ar ei war o a neidiodd o'r fasged i'r tân.
Daeth allan heb flew ar un ochor, a lawr ar ei gefn ddaeth y ffon
Roedd Pero yn meddwl yn sobor "Be gythraul sy' matar ar hon?".
"Wir i chi Sian" ebe Pero, "Bum yma heb symud drwy'r p'nawn"
Ni chymrodd r'un sylw ohono gan na fedra fo siarad go iawn.
"Rwy'n credu yr af i" me' Pero, a ffoi wnaeth y mwngrel mewn braw
Gan adael y wraig yn glafoerio a'i goler ar ôl yn ei llaw.
Mi roedd y graduras 'di myllio, doedd yna ddim dianc i fod
A Sian ddaeth i chwilio amdano, a'i guro fo'n iawn oedd ei nod.
Fe stelciodd drwy bobman fel llofrudd, dan bwrdd a chypyrddau di-ri
Ac wedyn fe chwiliodd drwy'r llofftydd ond doedd 'na ddim golwg o'r ci.
Roedd Sian erbyn hyn wrthi'n ffalsio "Tyrd wân Pero bwâch" ebe hi
O'r fangre ble'r oedd o yn cuddio "Dim peryg" atebodd y ci.
Yn rhyfedd, fe glywodd hi hynny, ac fe lusgodd o gerfydd ei gwt
O focs yn y garat dan gwely r'holl ffordd i lawr grisia i'w gwt.
"Arhosa di'n fanna yr uffar! Symuda un cam gei di stid!
O'th herwydd s'gen Dennis ddim swpar, fe larpiaist y potas i gyd.
Aeth ati i lyfu ei glwyfa' yn chwythig oherwydd y tsaen
A sylwodd fod ganddo fo lympia' ble doedd 'na ddim lympia o'r blaen.
A phwy oedd ar wal uwch ei ben o, yn folgrwn ond Shinach y gath
Yn llygad yr haul yn torheulo a'n gwybod mai dim y fo wnath.
Gareth Jones
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): GOLYGFA
Y sêr aur dros Eryri
A dannedd Lliwedd fel lli;
Cusan o dân cynta'r dydd
Yn agor drwy'r Rhinogydd
A gwegil Craig Cwm Silyn
Dan fflachiad o gariad gwyn.
Mileinig do'r Moelwynion
Yn groen deg ar wên y don
A chyda dwrn y Cnicht du
O'i ddolydd yn meddalu,
Llaw fwyn y wawr sy'n llyfnhau
Ei ludded ar Foel Bleiddiau.
...................................
(wrth weld dramâu Wil Sam y gwanwyn hwn)
Llenni, ac amser llonydd;
Switsus o weld, a sét sydd
O'i chefn wedi'i dodrefnu;
Ust hir ar wefus y tŷ.
Cymeriad yn siarad; siôl
O eiriau dwys a siriol
Wil Sam a holl ffrils ei iaith -
Y Wil Sam â'i lais ymaith.
Y mae 'na, Wil, rhyngom ni
Ddau len neu ddau oleuni
Ond ar y llwyfan, rhannwn
Yr eiliad hir o weld hwn.
...............................................
Meirch y môr a chaeau mân
O Anelog i Gilan
Dŵr byw o belydrau bach
Yn fae aur yn Nhalfarrach.
Mileniwm yn melynu
Yn suo gân llepian llu
O fân donnau fu'n ieuo
Ei nwyfau 'nghudd yn fy ngho'.
Mi wn yn nyfnder fy mod
Fae eiddil ei rhyfeddod
A Duw yn f'arswydo i,
Rwy'n un sy'n rhan ohoni.
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHOSBI
Bu Pero yn rhedeg r'ol ceir
Yn poetsio'n y tŷ a lladd ieir
Dydd Sadwrn oedd hynny
Mae wedi diflannu
Pan ddaw yn ei ôl geith o gweir
Am ddwyn brwshis paent Anti Debra
A phaentio ei chath 'fath a sebra
Lwc owt Dafydd Alan
Rwy'n dweud wrthyt rwan
Mi cei hi pan g'rhaeddan ni adra!
Mewn Talwrn ym Mwnt cafodd Elfed
Ei ddal yn limriga heb drwydded
A llys cynganeddu
Sy' wedi'i ddedfrydu
I odli er lles y gymuned
Roedd Mot y cenna budr
'Di poetsio yn y ffreutur
A Wil Cae Crin
Yn chwipio'i din
Tra'n rhwbio'i drwyn mewn pupur
Mewn rasus cŵn defaid y llynedd
(Y rasus pwysicaf yng Ngwynedd)
Roedd Wil bron â churo
Pan gafodd ei ruthro
A nawr does gan Pero ddim dannedd
"Cym hon! am roi gliw hyd y gath
A'i haddurno â dail o bob math
A hon! am roi Vim
Ar frechdanau'r hen Jim"
"Ond Miss Tomlinson, dim y fi nath"
Fe fwytaist gyw iâr a biffbyrgar
A deg bechdan ham a ciwcymbar
Ac wy wedi'w chwalu
Ar dost ar ôl hynny
Cei fynd i dy wely heb swpar
Corcyn sy'n canu'n rhy gynnar
A Chorcyn sy'n poetsio drwy'r amsar
A Chorcyn sy'n pigo
Pwy bynnag ddaw ato
A Chorcyn sydd heno i swpar
ENGLYN CYWAITH: OLWYN
Daeth gwennol yn ôl, ac yn iau - am un
Mai annwyl wyf innau,
Ond trwy'r haf hwn, gwn, trofâu
Y byd sy'n ei gwibiadau.
.................................
Un ac echel ei gychiwr - yn ringian
ar angor men harbwr,
caeth i gadwyn dynn y dŵr
ac alaw llaw y llywiwr.
TELYNEG: TRÊN
Sŵn canol Mai o Dal y Fan
A phennau'r rhedyn bach yn gyrliog;
O Dal-y-cafn, sŵn trên yn wan,
Sŵn canol Mai o Dal y Fan,
Mydryddu fesul pedwar ban
Cyn diflannu i darth Dolgarrog.
Sŵn canol Mai o Dal y Fan
A phennau'r rhedyn bach yn gyrliog.
Hen ŵr wrth giât, yn dal yn dynn
Wrth hen arwyddion 'braf yfory';
Y pell yn agos erbyn hyn
Hen ŵr wrth giât yn dal yn dynn
A'r haul yn gadael Foty-gwyn
A sŵn y trên yn mydru, mydru;
Hen ŵr wrth giât, yn dal yn dynn
Wrth hen arwyddion 'braf yfory'