CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'WAL':
I wlad â ffin anwadal
cadw hedd yw codi wal.
Mae'n drist, pethau'n mynd i'r wal,
a gwendid yn troi'n sgandal.
Annes Glynn
Berlin 1961 - 1989
Lle'r dyddiau braf, dihafal?
Daear rydd? Daw wedi'r wal.
Ieuan Parri
"Cythral o wal" medd William,
"Yn dweud yr un blincin dam"
Fe flysiaf am yr afal
O'i weld y tu draw i'r wal.
Rhys Llwyd
Dihafal wal ydi'r un
a ddeil i'r rhai a ddilyn.
Maen wrth faen ar i fyny
y cwyd wal, 'mhen dim cei dŷ.
Llyr Gruffydd
Ai wal yr ymddialydd
Fel Jericho eto fydd?
Wal eto wna'u ghetto'n gaeth
A'u hanes gwyd wahaniaeth.
Y wal a ddwed, wrth Wil, ddim,
Ddoe a heddiw, sy'n ddiddim.
Meirion Jones
PENNILL MAWL/DYCHAN - RSPCA
Mae dwy elusen i'n cymdeithas
Sy'n atal creulondeb i blentyn neu gi,
Er, dim ond un ohonynt sy'n Royal
A National yw'r NSPCC.
Cawn ganmol ei gwaith archdderchog
Yn amddiffyn y gath a'r ci,
Ond gwae y bodau dynol
Sy'n mentro'i beirniadu hi.
"Pws, pws, pws bach annwyl
Tyrd yn anwes i ni
Mae cymdeithas dda i'th warchod
Os ceisiwn dy frifo di."
Meirion Jones
ENGLYN YN CYNNWYS ENWAU DAU DÎM PÊL-DROED
Dacw Lerpwl a'u coch liw - y cochaf
O'r coch, maent yn unlliw
Ond heb anrhydedd heddiw,
Mae'n wir mai cochach Man U.
Endaf ap Ieuan
Caerdydd o un gôl sy'n suddo - i siom
Safle saith dan gwyno;
Wele'n Abertawe 'to
Yn wyth, lan yn gobeithio.
Cardiff City sy'n fflio'n is na'u nef
 swyn nyth gobeithion;
A Swansea City sy'n son
I'w helyrch gael gorwelion.
Er croch yw'r diawliaid cochion, - a thaeog
I theatr breuddwydion,
Barca'n bader i berson
Gaiff Fergie, Rooney a Ron.
Meirion Jones
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): RHWYG
Wrth ofyn medraf uno
Un fer oes â'r eang fro;
O fflamau tanau y tŷ
Daw aelwyd imi'n deulu.
Pwy yw hwn, a Pwy yw hi?
Amau os perthyn imi;
Hwn o'r llun, a yw o'r llwyth,
A yw'n aelod o'r tylwyth?
Ffoi ennyd at y ffynnon;
Mae'r llaw fu'n meithrin mor llon?
Ond ni fynnaf dân finag'
A'r ing wrth weld cadair wag.
Ieuan Parri
Vincent Van Gogh
Llun melyngoch heb ochain,
Yn brifo, a'i guddio'n gain,
Ei glust yn biws o'r glusten
A'i wall dan yr hances wen.
Cawl y diawl gochodd ei dân
I gega efo Gauguin;
Ai ffrae undydd rhwng ffrindiau
Neu hir ddadl fu'n lliwio'r ddau?
Y dur ar wrid a dry'i wres
A fo'i hun yn fai hanes.
Ei lid dry'r awyr yn las,
Yn ynfyd rhwyga'r canfas.
Meirion Jones
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHADW CYFRINACH
I siopa mi af yn wythnosol
Gan gario fy ngherdyn defnyddiol,
Ond wrth y ddesg talu
Bob tro rwyf yn methu -
Be ddiawl ydi'r rhif cyfrinachol?
Pan fydda i'n mynd draw i siopa
Dwi'n cario fy ngherdyn bach Visa,
Ond wrth geisio talu
Bob tro rwyf yn methu,
Dwi'm yn cofio be ddiawl ydi'r rhifa'.
Rhys Llwyd
'Sg'wennais i San Steffan am gyngor
A gofyn ble gadwant egwyddor.
Daeth gwahoddiad am ddim
A gwelais yn chwim
Mai eu cabinet ffeilio oedd gogor.
Mae cadw cyfrinach yn ddyrys
Ac anodd â chlociau a watsys,
Gofynnir paham
Bod ganddynt y nam -
Dywedir mai amser a ddengys.
Meirion Jones
Roedd si bod Wil Jôs, Tan y Bondo
Am herio Miss James mewn gêm lŵdo
Ond wedi taith hir
Rownd clecwyr y sir
Fe drodd y gair herio yn ..... sgorio.
Llyr Gruffydd
Rhyw feuryn ga'th ddamwain go flin
Efo pladur oedd ger ei ben-glin
Nid 'mod i'n hen fusnes
Ond - yn ôl yr hanes -
Meurynes yw ein Geraldine.
Y llw hippocratig yw 'mhiler
Dim rhannu cyfrinach, dim dicter,
Cadwaf fobol yn iach
Ond diawcs byddai'n strach
'Tawn i'n feddyg ar Blair, Brown neu Thatcher.
Endaf ap Ieuan
ENGLYN CYWAITH: DDOE
Er i lwch guddio'r lechen, er i oes
Bylu rhos ei seren,
Er i boen wyro ei ben,
Hyfyw yw ei ysgrifen.
Ein herio, fel o garreg, ein gwawdio
Trwy gydol ein rhedeg,
Rhyw weiddi ymhob brawddeg,
Addo'r oll a haeddu rheg.
Ieuan Parri
Fe ddyliwn yn feddyliol - fod â'm bryd
Ar fyd y dyfodol,
Ond rwy'n well am droi yn ôl
I'm ddoe, wedi ymddeol.
Rhys Llwyd
O fêr fy heddiw, 'fory fyddi'n nef
O atgofion di-ri',
A thrwy sbectol didoli,
Daw dy wedd im gofio di.
"I odro, rhaid mynd adref" - y nodia
Dan adain y Cartref,
A nawr llanc yn morio "Llef"
Yn ei ddydd a'i ddioddef.
Meirion Jones
Llyncaf fy het os daw eto - yn chwap
ni chaiff heddiw wawrio
A heddiw rwyf yn addo
yn fory a dry'n ei dro!
Llyr Gruffydd