CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'TO':
Mae'r cyfan oddi tano,
waliau'r tŷ sy'n dala'r to.
Campwaith y cyd-weithio,
waliau'r tŷ sy'n dala'r to.
Fe rown un llais i farn llanc,
ond tyfu wna'r to ifanc.
PENNILL MAWL/DYCHAN - LLAWDRINIAETH GOSMETIG
(I'w ddarllen â llais main)
Mi gefais y llawdriniaeth
I 'ngwneud i'n fenyw bert,
Ond nid wy'n barod eto
I wisgo blows a sgert -
Mae'n broses araf, ond er syndod
Mae'r llais yn dechrau troi yn barod.
----------------------------
Mae'n tynhau haenau'i hwyneb - oherwydd
yn awr ei meidroldeb
trichanwaith y trychineb
yw croen slac ar ên seléb
ENGLYN YN CYNNWYS TRI RHIF
Cenhadwr
Yng ngrymusedd y weddi - hwn a aeth
lle roedd neb yn moli
a throi'r un yn ddau a thri
a'i fyd yn ddirifedi
----------------------------------
Dau, un - mae'n mynd i danio - Yna - dim,
Cwyd ymaith i rwygo
Yn nhrefi'r drin ar fyr dro
Ugeiniau yn gig yno.
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHADW'N HEINI
Rwy'n berchen car Volvo o safon
A welir yn segur yn gyson
Waeth rwyf yn ymdrechu
I gadw yn heini
Drwy gerdded bob nos i'r siop sglodion.
Fe aeth ar gyflymder dychrynllyd
Fe gerddodd am un ugain munud
Bron hanner can medr
O gwmpas Llanbedr
Ac rwan ni fedr o symud
Y doctor ddywedodd wrth Dennis
I chwarae pêl-fasged a thennis
Cychwynnodd y chwysu
A'r swnllyd fystachu
Ond ildiodd r'ôl torchi ei lewys.
I gadw yn heini a rhadlon
Mae Now yn ymwneud â chwaraeon
Fel snwcer a dartia'
Neu gêm fach o gardia
Neu ddominos weithia'n y Leion
Rôl ymarfer am ddeufis o'r bron
Fe redais i ffwrdd oddi wrth Non
R'holl ffordd o Laredo
Ond Duw a'm gwaredo
Ni allaf i ddianc rhag ofn.
Bu bwyta anialwch yn yrfa
I Angela Fawr o Gefn Morfa
Ar gais Doctor Wilias
Mae'n rhedeg o gwmpas
A'i bogel o'i blaen hi mewn berfa
Fe irodd bob sbrocet a sbôc
Anelodd ei feic tua Stoke
Roedd can milltir drosodd
Yn sialens rhy anodd
A'n Llithfaen fe gafodd o strôc
Mae'n rhedeg am oriau drwy Grymych
Ac eto, mae'n grwn fath â bresych
Cyflymdra Wil Dennis
Sy'n wir dwyllodrus
Mae'n fwy ara' deg na mae'n edrych
Cyn belled â fedraf i gofio
Bu Undeg yn rhedeg a nofio
A'n cymryd rhyw gyffur
Ond n'awr mae hi'n segur
Ma'i llawer rhy brysur yn shafio
Drwy gydol ei hoes fe fu Leusa
I mewn yn y tŷ'n codi pwysa
Yn awr mae hi'n gryfach
Na phobun yn Solfach
A'i breichia' hi'n hirach na'i choesa'
Er gwaetha' fy ngwrol ymdrechion
Fy fitness regime sydd yn deilchion
Mae'r beic a'r siwt redeg
'Di ildio i'r bloneg
A'r glorian lan llofft yn grybibion
PENNILL YMSON: TALYRNWR/TALYRNWRAIG
Bum wrthi ers deg mlynedd ar hugain
gyda'r meic 'ma'n dynn wrth fy ngheg,
sai'n un sy'n disgwyl rhyw farciau uchel
ond mod i yn cael chwarae teg.
-------------------------
Nid wyf yn gynganeddwr
Na phrydydd y wers rydd
Ond rhois y strac sy'n cyfri
Mewn englyn slawer dydd.
Nid ydwyf yn limrigwr
Nac yn dribannwr chwaith,
Ond rwy'n Dalyrnwr pwysig -
Y fi sy'n 'darllen gwaith ... '
ENGLYN CYWAITH: CEGIN
Trwy ffrwtian y sosbannau - ni welwn
wylo y miliynau
yn y nos, a ni'n mwynhau,
na newyn mewn ciniawau.
TELYNEG: PENTREF
(Cathays - pentref myfyrwyr neu studentsville Caerdydd; Maci - enw tafarn)
Mi oedd yna adeg ar y strydoedd hyn
â hithau'n bwrw hen wragedd a ffyn
a finnau â darlith am chwarter i dri
yn meddwl am ddim, ond amdanach chdi;
doedd bwys gan y dyddiau am fynd nac am ddod,
wrth hel eu cawodydd dros Woodville Road,
a'r hogiau yn sownd yn y Maci drwy'r pnawn,
traethodau yn wag, a'n gwydrau yn llawn.
Heddiw a hithau yn hwyr ar ddydd Llun
dwi'n ôl yn y gongol, ond rywfaint yn hŷn,
yn sbïo drwy'r ffenest ar griwiau yn hel
cyn y ddarlith ola', o dan ymbarél;
yn sŵn y glaw, mae eu lleisiau nhw'n bell
ac mae Woodville Road yn gwybod yn well:
fyddi di ddim yno, a thrwy 'ngwydyr sy'n llawn
mae'r Maci yn wag, er ei bod hi yn bnawn.