CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'IC':
Ym mhobman mae'r slogan slic
Yn dwymyn epidemic.
Cwpled i baramedic:
Bachan saff pan boch chi'n sic
Wy'n amal yn anaemic,
Heb 'run go, yn brin o gic.
Gochelwch y salwch sic,
Daw yma fel pandemic.
Tir wast ein gwerthoedd plastic
Yw erwau'r sloganau slic.
PENNILL MAWL/DYCHAN - CYWIRDEB GWLEIDYDDOL
'Dyw'r gwleidydd cywir
Sy'n parchu hawliau
Ddim mor ofalus
Wrth hawlio'i dreuliau
Cywirdeb gwleidyddol, dyna derm diystyr,
Ble welsoch chi wleidydd erioed sy'n gywir.
Roedd angen gwleidydd
I gywiro'n hiaith
I ddwedyd rhywbeth
Heb ei ddwedyd chwaith.
Rhag digio eich cyd-ddyn
Rhaid bod yn ofalus
Os nad ych wleidydd
Yn byw ar 'expenses'.
ENGLYN CILDWRN - BEDDARGRAFF BOWNSAR
Fe droes i'r Stag am lagyr - ond yr oedd
Wrth y drws hen fownsyr, - Pedr
Pedr, mwyn ei gymwynas, - yn y drws
Wnaeth ei droi o'r Deyrnas, - MAS
LIMRIG YN YMWNEUD Â DWEUD FFORTIWN
Roedd plentyn ifanca' Twm Gwndwn
Yn methu dweud 'eff' o flaen 'ortiwn',
Ond cafodd hyfforddiant
Gan sipsi o'r Garnant
A bellach mae'n medru dweud 'ffortiwn'.
Yr oeddwn ychydig yn tipsy
Yn Ascot pan gwrddais â'r sipsi;
Rhoes aur yn ei llaw
I weld beth a ddaw,
Ond thala'i byth mwy am ei thips hi.
Wy'n ffaelu dweud 'th' fel yn 'thipthwn',
Na swnio dwy 'l' fel y dylwn,
Ac mae 'na rhai geire
Dwy'n ffaelu dweud weithie,
Ond 'dwy byth yn cael ffwdan dweud 'ffortiwn'.
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): SYNIAD DA
Ro'dd Beti gwraig Dai yn fenyw reit fawr,
Yn pwyso ugain stôn jest yn ishte lawr.
Roedd hi fel rowndabowt - bola mawr, coese stowt
A phen ôl o'dd bron cyrra'dd y llawr.
Un diwrnod ga'th hi syniad - colli pwyse o'dd y bwriad
A phenderfynu creu yn yr ardd
Rhyw fath o fashîn i leihau ei thîn
A'i throi hi yn fenyw slim, hardd.
O fewn tridie o'dd e'n barod - BATH mawr wrth y shed
A phren, dur a chans coca-cola,
Injan fawr drydan, cordyn beindar a weiran
A belt rwber i fynd rownd ei bola.
Yna gwisgodd yn sydyn mewn siwt nofio coch
A mewn i'r contraption â hi.
Troi'r switsh mla'n i 'ON' - dechre siglo fel ton
(Ar scale Richter ro'dd hi'n mesur tua THRI)
Ond O! OCH! (a gwae) - r'odd y ffiwsus ar fai
A dechreuodd y peiriant gyflymu
A mynd â Bet lan a lawr, fel rhyw Foby Dic mawr
A phob modfedd o'i chorff yn byrlymu.
Buodd yno am ddyddie yn woblo yn y bath
Fel jeli coch chwislyd mewn jwg
A'r peth d'wetha welodd Dai o'dd hi'n wefo 'bye-bye'
Cyn diflannu gyda gwên lawr y plwg.
ENGLYN CYWAITH: CASINO
Yn ofer yma heriaf - Hen Adyn
Y tafliadau olaf;
O nos i nos colli wnaf
I'r olwynion creulonaf.
Ymgollaf yn y stafell - yn nileít
Bwrdd roulette a'r dröell,
Ni wn i am fan yn well
A all wagio fy llogell.
TELYNEG: PERSAWR
(Susan Boyle, y gantores ganol oed a synnodd feirniaid 'Britain's Got Talent' )
Yn ôl y panel beirniaid
Nid yw yn ddynes bert,
Dim colur, dim mascara,
Gwallt ffug na mini sgert.
Dim arian mawr marchnata
I'w heipio yn ei bla'n,
Dim noethni, dim rhywioldeb,
Dim byd ond ceinder cân.
A rhag ei glamoreiddio
Gadawer hi i fod,
Achos mae'r persawr gore
O flodyn gwyllt yn dod.
------------------
Mae llwch a chwys yn gymysg
 heulwen crasboeth Haf
A'r fedel sydd yn rwsial
Wrth gynaeafu'n braf.
Y gwartheg heddiw'n pesgu
A'u gwedd yn sgleinio'n iach,
Mae awel y cynhaeaf
Yn sawru ym Mis Bach.