CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS UNRHYW ANIFAIL FFERM:
Ei gefn, ac angen 'sgafnu
Baich y tad oedd buwch y ty.
Hawdd dal ar drybaeddu dyn,
Y mae'i ach gan bob mochyn
Swn yr unigeddau sydd
I fref oen fry ar fynydd.
Gordon oeraidd, y blaidd blin,
Oen llywaeth y gorllewin.
PENNILL MAWL/DYCHAN - Y CYMRY CYMRAEG
Fel ar hyd y canrifoedd
Yr un hen dacteg
A glywsoch chi 'rioed
Am Saeson Saesneg.
-----------------
Mae nhw'n hawdd eu hadnabod,
Maent yn brin eu cynefin,
Ac yn mynd wysg eu tinau
Tua'r gorllewin
Yn cwyno wrth gilio
Am fygythiad o'r dwyrain,
Ac yn dibynnu ar Saesneg
I fynegi eu hunain.
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "YFAIS I LWYR ANGHOFIO"
Yfais i lwyr anghofio - am y cam
am y cwmwl drosto;
Mae'i lwch trist yng nghist fy ngho'
'n gafael; rwy'n dal i'w gofio.
Ym merw'r ty, yn morio'n ei ddiod
Roedd Ieu am gael setlo
Ai fi a yrrai, neu fo,
Yfais i lwyr anghofio.
Daw rhai yn paldaruo yn sobor,
Heb seibiant o'u mwydro;
A diawl ces ddigon yn do,
Yfais i lwyr anghofio.
Ni wel heidden fyth lwyddo un orig
Ei liniaru, eto
I daflu baich, boed fel bo,
Yfais i lwyr anghofio.
LIMRIG YN YMWNEUD Â'R HEDDLU
Yn holl brotestiadau'r dyfodol
Bydd heddlu sy'n dyrnu y bobol
Yn dangos eu henwau
Eu noddwyr a'u rhifau
Yn fawr fel ar grysau tîm ffwtbol
Yng nghanol y ffordd yn Llanfaglan
Disgynnodd, a chysgu'n ei unfan
Mae Wil Rhydyclafdy'n
Y llys bore 'fory
Am yrru dros "sleeping policeman"
Yr heddlu oedd wedi ei 'restio
A'r dyn oedd yn barod i dystio
Fod Now 'di lladrata
Deg crat o Gorona
A'i yfed pan ddaru fo fystio
Myfi sydd yn gwarchod 'Rhif Deg'
Rwy'n ymladd rhag agor fy ngheg
Mae gennyf i bastwm
A phib a chloc larwm
A sgidiau seis pedwar ar ddeg
Yn cadw yr heddwch yng Nghlydach
Mae'r Cwnstabl Winston H. Llywarch
Am draed sy' gan hwnna !
Mi ddylai' rwy'n ama'
'Di dod i'r hen fyd 'ma fel alarch
Roedd heddwas o'r enw Huw Gerwyn
Arferai batrolio Bro'r Berwyn
Y gŵr efo'r panda
A drodd yn Miranda
A 'nawr mae'r hedd-wâs yn hedd forwyn
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): FFINIAU
Cwyd ceiliog i'r coed called,
dywed y llais hyd a lled
ei fro, ei hawlio'n ei hôl
â'i hir berfformiad hwyrol;
daeth Mai ar ei duth - 'Amen,'
yw'r gân o frig ei onnen:
Ei fawl sy'n llenwi'i faled;
o'i bulpud hefyd ehêd
rhybudd i adenydd dwl -
rhybudd rhag unrhyw drwbwl;
amddiffyn wna'r deryn du
dir ei genedl drwy ganu.
ENGLYN CYWAITH: RHIENI
Er rhoi iau eu haerwyon i mi'n dreth,
Mae'na draed bach gwynion
Wyr ar led, am fentro'r lon;
Nhw yw'r duw wna'r adwyon.
Pwyllo rhag dyfroedd pellach - ac oedi
a'r gadwyn yn gryfach,
Nid oes angor rhagorach
Yn y byd na baban bach.
TELYNEG: RHINIOG
Pan gamais mewn i gegin
Ddychmygol ei thŷ bach,
Tynnodd rhyw lun o gadair
Yn haul ei chroeso iach.
Er nad oedd fawr adnoddau,
Huliai ei bwrdd heb stwr,
Ei chacen fwd yn disgwyl,
Tebotiad o de dwr.
Yng ngwefr ei diniweidrwydd
Fe welwn ei hen nain
Yn ddygn wthio'r sachau
Pan dreiddiai'r gwyntoedd main.
Wyres a'i chwarae'n atgo'
Cymdogaeth dda fy mhlwy
Ond iasau sy'n sawl cegin
Nad af i iddi mwy.
---------------
Cyn iddo adael y coleg
Am lwyddiannau gyrfa faith,
Fe rannai'r baich yn y gwyliau,
Yn nyddiau'r prinder a'r gwaith.
Ond magodd ei blant yng Nghymru,
Yn iaith ei lwyddiant, bob un;
A'i fratiaith dychwelai yntau
Ar daith ysbeidiol i Lŷn.
A bellach ni chlywn ganddo,
Ar gyfoedion fe gollodd flas,
Ac yntau'n ddall gan ei gyfoeth
I'r draul ar y llechen las.