CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'WN':
O am wydraid, pe medrwn,
Ymhell o fanma - a hwn!
Yn wylaidd, Twm, fe holwn
O beth a ddaeth o'r babŵn?
PENNILL YMSON WRTH GOWNTER
Tydi hyder gwlad yn frau
Pan fo'r banciau yn gwanhau,
A'r dyledion sydd drwy'r amser
Wedi eu cuddio dan y cownter.
Mae'n hawdd gwastraffu amser
Yn ffermio llawer acer
Tra gellir ennill llawer mwy
Ar lath neu ddwy o gownter.
Mae'r ferch tu ôl i'r cownter
Yn fwy na llond ei brasier,
A minnau'n bowld yn syllu'n hy
Wrth dalu am giwcymber.
Dwi'm eisiau tyfu'n Hogan Fawr
I weld dros ben y cowntar,
Er mwyn i'r un sydd 'rochor draw
Gael mynd â 'mhres yn eiddgar!
Dwi'm eisiau tyfu'n hogan fawr
A sefyll mewn 'run rhes,
Am fod 'na rywun 'rochor draw
Sy'n mynnu mynd â'ch pres!
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "UN GWIRION AR Y GORAU
Un gwirion ar y gorau - yw'r Meuryn,
Er mawredd ei eiriau,
Un dewr sy'n barnu rhwng dau,
Un gwirion ar y gorau.
Ym monllef ei hunllefau - a'i fydoedd
Yn fyd o leuadau,
Y mae'r ffwl a'i brebwl brau'n
Un gwirion ar y gorau
Bardd
Un i'n herio â'i eiriau - un yn byw
Mewn byd o ddelweddau,
Un all hogi'r gwir a'r gau -
Un gwirion ar y gorau.
Un hetiog, un o'r hogiau - un chwit chwat
A chwil ar adegau,
Un â'i ddawn mewn gair neu ddau,
Un gwirion ar y gorau.
LIMRIG YN YMWNEUD Â GWAITH FFORDD
Wrth groesi y stryd syrthiodd Beti
Yn sydyn i bwll o fudreddi,
Melltithiodd y Cyngor
Y maer a'r syrfeior
A'r twll dyn ar agor, cyn codi.
Nid torri ei galon wnaeth Moses
Pan welodd o arwydd 'dim acses',
Ond taro ei ffon
A gwneud ffordd newydd sbon
Drwy'r môr mawr yn llon 'nôl yr hanes.
'Rôl disgwyl blynyddoedd a chwyno
Fe gafodd ein ffordd ei tharmacio,
Ond heddiw peiriannau
Sy'n claddu pibellau
A'r mwd at ein drysau ni eto.
'Does dim yn fy rhwystro i basio
Ond Jac Codi Baw wedi'i barcio
Ar ganol y lôn
I'r dyn, 'nôl y son,
Fynd adra i Sir Fôn i nôl cinio.
ENGLYN CYWAITH: GEIRIAU
Rhwygiadau cyfrolau'r co' - a welaf
fel deiliach yn cwympo;
un ddalen ddrylliog heno
a ddeil o'i huodledd o.
Un ddeilen tan fedwen Fai - a welais,
Un ddeilen a grinai
Yn swn haf, ond aros wnai
Ddiwel yr hydref ddeuai.
TELYNEG: AWR
Daw,
fe ddaw yr heddiw hwn
a'i wawr i euro hen furiau anghyfarwydd.
Un dydd o'r miloedd dyddiau
pan fydd lleisia'r bora bach yn dawelach
ac yn didoli geiriau am fod y gwir
yn rhy drwm ar draeth
tawel y gwely.
Ac yna, a hithau eto'n gynnar
daw'r hwyr i ddwyn lliw yr heddiw hwn
nes bydd y byd i gyd yn gaeth
yn un eiliad yr awr olaf.