CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'EC':
Am swél yw stadiwm SWALEC!
Yn sail i'w sioe mae sawl siec.
(Rhyw styrbans mewn gwisg ffansi)
"Y ffwlbart! 'Rhen siwt Startrek
a STAES?! Cei fynd fel Mus Têc!"
Ar hen lyn y Marîn Lêc
Lil hwyliodd i gôl Alec.
Un hwylus meddai Alec -
Uwd brys ydi Ready-Brek
Yn o siwr, piswyd pob siec
Yn latrine Toulouse Lautrec
A'i rebel ydoedd Brubeck*
Neu glown na ddarllenai'r glec
(*Bu bron i Dave Brubeck gael ei daflu allan o'r Coleg Cerddorol pan ddarganfuwyd na allai ddarllen cerddoriaeth)
Daeth yr hawl wedi sawl siec
I Barbie fynd i Birbeck
Y Creawdwr
Y mae'n bod a'i glod yw'r glec,
Ef yw Arglwydd y Fawrglec.
PENNILL MAWL/DYCHAN - TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS
Bysus bach y wlad
A bysus mawr y gwaith
Naill ai 'run o gwbl
Neu dri a wna'r un daith.
Fy annwyl gynghorwyr cyflwynaf i chi, fy mholisi newydd arloesol
Mae'n ateb gofynion ein targedau lu, a chael bendith y criw amgylcheddol
Mae'r is-bwyllgor Amaeth o'i blaid gant y cant, fel hefyd Cynllunio a Iechyd
Ac Addysg a Hamdden a Chyfraith a Threfn, a hyd yn oed y pwyllgor Cyllid.
Ystyriwch yn ddwys a phledleisiwch yn ddewr, a mynnwch dro da i'ch cymuned
A phasiwch i roi i bob un yn ein sir, bar newydd o esgidiau cerdded.
ENGLYN BEDDARGRAFF - PREGETHWR HIRWYNTOG
Llwch i'r llwch, rhown fis Mai i'r llawr - y gwr
Na garai ei oriawr.
Aiff adref i'w Nef yn awr.
Hunodd ar ddechrau Ionawr.
Tragwyddoldeb mae'n ei wnebu, - a ni
Bob nos bu'n pregethu;
 hedd diddiwedd o du
Cawn - o cawn - "Ddechrau Canu...".
LIMRIG YN YMWNEUD Â DAMWAIN
Dannedd gosod William ddiflanodd
A'r henwr yn gyflym anghofiodd,
Wrth eistedd ar sofa
Heb sylwi bont yna
Fe gafodd Wil frathiad o danodd.
Merch ifanc o Fethel oedd Eirlys
A pheintiodd ei thinws fel rosus,
Roedd y lliwiau yn iawn
A'r ffurf yn reit llawn
Ond yr 'ogle - roedd hwnnw yn wallus.
Mae pawb weithiau'n gwneud camgymeriad
O Feuryn! Mi wn nad ar fwriad
Y buoch yn slac
A rhoi i Mei Mac
Y deg marc ac yntau'n ddibrofiad!
Mi glywais i sôn fod Sian Northey
Yn cael trafferth mawr efo'i hodli
'Mond drwy lwc neu ddamweinia'
Mae'n creu ei limriga'.
Ond dwi'm yn un i gario stori.
Ar ei wyneb rhodd flewiach hen frws
A'i dîn sydd fel hanner ôl bws
Mae'n rhaid fod y creawdwr
Yn chwil fatha barnwr
Pam arall y gwnaeth Blatypws?
Nawr Feuryn, 'dwi ddim yn foi barus
Na'n amau eich bod yn un ffwndrus.
Ond ai damwain neu hap
Oedd rhoi wyth i'r 'Ap'
A deg marc i rybish Twm Morus?
Un Sadwrn,'rôl angladd, roedd bwffe
A huliwyd yn neuadd y pentre
Ond yn y porc pei
A gafodd John Mei
Roedd pen bys a bawd yr hen Sieffre.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): MYNYDD
Y fynwent yw ei fynydd,
Ni fyn ffoi, Ef yw ein ffydd,
Ei ddameg, yna'i bregeth
Ddaw a'i fyd i ni'n ddi-feth;
O'i angau, deddfau ein Duw
Ddônt eglur, a ddônt hyglyw
I weinion ddynion, i ddyn
I atal yr ynfytyn:
Y gwan ei fyw, gwyn ei fyd,
A'i afaith n'fendith hefyd.
Gwen ei waed am byth a'n gwna
Yn gaethion i'w Golgotha.
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): DIHANGFA
Roedd cwningen mewn labordy
Lle y ganwyd a'i fagwyd o,
Ond dihangodd o'no un diwrnod
Ac i'r byd yr aeth ar ffo.
Gwelodd ei laswellt cyntaf
A'r wawr yn torri yn ddydd,
Aeth dan wrychyn ar antur
A gwelodd gwningod rhydd.
Fe ddwedodd wrthynt ei stori
A hwythau groesawodd ef.
Gofynodd iddynt be wnaethant
A disgrifiwyd iddo eu nef -
Mewn caeau agos roedd moron
A letys a phopeth yn rhydd,
A hefyd bwnis merched
A bu'n bwyta a charu drwy'r dydd.
Cafodd gynnig i aros yno
Pan wrthododd - 'styriwyd yn jôc,
Ond rhaid roedd mynd 'nôl i'r labordy
Roedd rhaid - Roedd bron marw am smôc.
ENGLYN CYWAITH: SIOM
Mor groch ydoedd y Cochion cyn y gêm,
Cyn y gamp arswydlon;
Ond eu hawch aeth dan y don
O rwydd gerddi y Gwyrddion.
Rhydd ras i enaid urddasol, - yn ddŵr
Ar ddur poeth uffernol;
Tymhera, nertha'n wyrthiol
A byth yn rheibio o'i ôl.