CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'W':
Y mae dillad i gadw
gêr ei ach gan gangarŵ.
Ynom, mae'r tardis hwnnw
a dry'r awr i Doctor Who.
Nantafallen fu'r enw,
ond hwn yw eu 'Bow Street' nhw.
Roedd gŵr o Eglwyswrw'n
cwotio Yeats yn Nhimbyctŵ.
(i dîm Y Cŵps)
Karen yw'r unig enw
a ddaw'n un ofn ynddyn nhw!
Haneri ar y cwrw
yw moddion oes, medden nhw.
Gwell i mi ddŵr na chwrw
a llai o win, ar fy llw.
PENNILL MAWL/DYCHAN: GWERTHWYR TAI
'For Sale'oedd ar ffenest y swyddfa
ac felly y bu am dros fis,
ond ddoe, pan es heibio, fe sylwais
fod gwerth yr hen le'n llawer is.
Reduced efo vacant possession
ddywedai yn eglur i'r byd
fod o'r gwerthwr tai, yntau'n gwerthu
a'r hwch gyda'i siop ar y stryd.
Chwi yw'r rhai sydd yn addurno conglau'r stryd a pherthi'r wlad,
ac yn llywio pob disgrifiad er mwyn sicrhau perswad;
peidiwn ni, a wnaeth ymddiried ynoch am yr uchaf bris,
eich condemnio pan fo'r farchnad heddiw lawer iawn yn is.
A ninnau, bob un, mor ariangar ac am y pris ucha' bob tro
rhown ei arwydd 'Ar Werth' hynod liwgar ar y wal yn o agos i'r to;
go brin y gall neb sydd o'r pentra wneud cynnig derbyniol go iawn
ond os hwn fydd yn gwerthu mi wranta y caiff y pris gofyn yn llawn;
a phan ddaw yr estron o Brighton i fyw yn eich tŷ chi'n eu tro,
gallwch leddfu'ch cydwybod yn burion a rhoi'r cyfan o'r bai arno fo.
ENGLYN YN CYNNWYS ENW UNRHYW DDIOD:
wrth gyfrannu at Cymorth Cristnogol
Ei chadw rhag afiechydon - a wnaf,
a nos heb bryderon,
rhof fwyd, nid arfau i hon,
a dŵr yfed o'r afon.
Lager a'i gwnai'n olygus - a hudol,
hi wedyn fu'r Musus;
a rhoes nes aeth hi'n grisis
oriau mwyn am gryn dri mis.
LIMRIG YN YMWNEUD Â DIY
"Jen, gwna fo dy hun," oedd 'peth ola'
ddywedodd 'rhen Huw cyn cau'i ll'gada.
A hyn sydd yn rhybudd:
pob dyn, byddwch ufudd
i'ch gwraig, neu chi fydd y nesa'.
"Mae'n amlwg," dywedodd y Crwnar
"mai chydig a wyddai'r diweddar
am drydan na dim -
bu ei ddiwedd yn chwim
a hynny yn llawer rhy gynnar."
Mae'r wraig 'co mo'yn wardrôb, 'run fwya' ...
nid yw'n siŵr ... pa fath ... ai'r un leia'?
Ond wrth droi ambell sgriw
mae'n bosib, jiw jiw,
y caiff un bob lliw o Ikea.
CYWYDD GOFYN HEB FOD DROS 12 LLINELL:
Gofyn am achub 'Sian' - y ferch ar yr hysbyseb teledu sy'n ein hannog i roi ein horganau
Gwylia, tra 'mod yn gwelwi
ar y ward, fy nolur i;
er y ddôr sydd yn rhyddhau,
a pheiriant y cyffuriau'n
un olwyn fesul eiliad
am oriau hir fy mharhad,
rwy' byw trwy bibau o hyd
fy achau o afiechyd.
Rho dithau mewn dyddiau dig,
a rhanna'r gadair unig,
i weld oes mewn cornel du,
fy aren a'm hyfory.
ENGLYN CYWAITH: BREUDDWYD:
(Martin Luther King)
Tros orwel llid a gofidiau - y caeth,
gwelodd cai'n ddiamau
rai o'i hil, 'rôl maith sarhau,
leisio mewn gwyn balasau.
(wrth wylio cystadleuaeth golff y Masters)
"Ar y ti, ai fi neu fo?" - Yn ei grys
Tiger Woods mae'n tybio
y daw i'w ran, yn ei dro,
hud ei arwr i daro.
TELYNEG: ADDEWID:
Ai am fy mod i'n hapus
y gwenais lond y llun,
neu am na wyddwn, eto,
fy mrifo gan 'run dyn?
Ai am fod aur yfory
yn fodrwy ar fy llaw,
neu am na theimlwn innau
y rhwd yn nagrau'r glaw?
Ai am i mi weld gobaith
trwy adrodd y gair 'Gwnaf',
neu am na chlywn y gwatwar
yn holl gelwyddau'r cnaf?
Neu ai anghofio wnes, dros dro,
o ddallt yn iawn, a'i gredu o?