Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'eb'
Nid yw'r nos yn nos i neb
A'r Iesu yn ei breseb.
I'r sawl a gâr ddihareb
"Na ddifa na 'nafa neb".
Yn ein hoes, sut fyddwn heb
Yr Iesu yn ei breseb ?
Dydd na nos, na, ni ddaw neb
I brisio gwerth Ei breseb.
Pennill ymson mewn priodas
Mi fues yn dathlu ech-dwe
Mewn priodas yn y Llan,
Daeth tyrfa fawr i dystio
A nifer yn cymryd rhan,
Wedi'r wledd a'r sbort a'r bwrlwm
Pa mor hir y par y cwlwm?
Mi hoffwn fod yn fferiad
I edrych arni'n reit.
Achos mae'r ffrog sydd ganddi
Yn ffito'n eitha teit.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Hud'
I gofio T Llew
Ei eiriau yn berlau byw
Yn Niagra unigryw.
A'i fawredd cyfareddol
Yn gwau'n drysorau i'w gol:
Yr hafan a'r cafan cu
Yn emau sy'n byrlymu
O wefr a ddeil i befrio
Yn warin comin y co'.
Llif ewynnol o olud
A erys yn enfys hud.
Llefarydd y llifeiriant
Yw degfed planed y plant.
Limrig: 'Beth welais ym Miwla un noson'
Beth welais ym Miwla un noson
Wedd beirdd yn sgrifennu penillion,
Ond cynnyrch eu hawen
A daflwyd i'r domen -
Prydyddion Ffair Rhos a'u hymdrechion.
Beth welais ym Miwla un noson
Oedd plismon yn wafo ei drynsion
Ar ôl menyw borcyn,
Ond cofiodd yn sydyn
Ei fod ar y ffordd i'r ymryson.
Beth welais ym Miwla un noson
Oedd llew a jiraff yn ymryson,
Ac wedi'r digwyddiad
Cewch weld y canlyniad
Ar fwydlen y Ship Aberaeron
Beth welais ym Miwla un noson
Oedd dynion Ffair Rhos yn ymryson,
Wel, am gwpled caeth..
Eu limrig oedd waeth,
Ac O! mor ddi-chwaeth eu penillion.
A minnau yng nghanol 'mreuddwydion,
Beth welais ym Miwla un noson ?
Prydyddwyr Ffair Rhos
Hyd eu bogel mewn ffos
I'r englyn, yn chwilio planhigion
Englyn yn cynnwys tri phlanhigin:
Yr addfwyn lili'r Wyddfa - a'i Ladin
'Lloydia Serotina'
*Aur yr yd yn lliwiau'r ha' * Siwapis arvensi
**A Peli Pili Pala. ** Buddleja globosa
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Tîm
Mi gefais i fy ngeni
yn oes y cot a'r pram,
i mewn i dîm dynoliaeth -
dyna ddywedodd mam.
Y sesiwn 'marfer cyntaf
oedd aelwyd gynnes glyd,
er mwyn cael chwarae'n gyson
a chario baich y byd.
Y sesiwn 'marfer nesaf
oedd ysgolion bach a mawr
i ofalu mod i'n chwarae
i'r garfan gywir nawr.
Feddyliais i ddim unwaith
mor frwnt eu gêm fach hwy'n
defnyddio arfau rhyfel
i ennill mantais mwy.
Na drueni na chaem addysg
i arwain tîm y wlad
i'n codi o'r argyfwng
sydd yn wynebu'n gwlad.
Englyn cywaith: Dathlu
Pob cam mi brofwyd drama - ym merw
A miri sawl tyrfa,
Creu cyfoeth i'r doeth a'r da,
Nid bom yw byd Obama.
Telyneg: Cyfoeth
Mae cnwd yr hen grerdinen
Yn fflamgoch ar y rhos,
A haul yr hwyr yn taenu
Lliw'r gwin dros berth a ffos.
Rwyt tithau 'mysg y perthi
Yn rhannu yn y wledd,
Yn profi rhin yr eiliad
A'r gwrid yn llonni'r nos.
Y gaeaf ddaeth yn gynnar
I grio yn y gro,
A'i bladur oer didostur
Ysbeiliodd geinder bro.
Mor hardd yr hen gerdinen,
A'r cyfoeth yn ei chôl
Yn adlais pur o gariad
Yr un na ddaw'n ei hôl.