Oriau mân y bore, M4 tawel, adref cyn 4am .
Gwrandewch ar Eirian Glynne Lewis yn son am fynd lawr i Lundain i weld Rhydian yn canu'n fyw
Am 11 o'r gloch bore Sadwrn diwethaf, dyma ddechrau ar y daith bell i Lundain. Mam Rhydian, Angela oedd yn gyrru. Cawsom llawer o hwyl yn cyrraedd Wembley. Diolch am y 'satnav'.....
Bu rhaid newid i'r crysau t yn y maes parcio hefyd Dylan, ond roedd bob dim yn iawn, achos roedd y ffenestri cefn yn 'blacked out'. Roedd y bedair ohonom wedi cyrraedd Wembley am 3.30pm ac i ffwrdd a ni, gan gerdded heibio i giw mawr a oedd yn disgwyl cael tocynnau. Roedd un person wedi bod yno ers 8 y bore! Roedd Angela yn dosbarthu posteri cefnogi Rhydian i bwy bynnag oedd yn siarad efo hi.
Un o'r 'celebs' cyntaf welais i oedd 'big Tony', sef gwarchodwr Simon Cowell. Roedd Angela yn gweiddi helo, ac yntau yn codi bawd arni.
Cyrraedd y man cyfarfod a disgwyl am y gweddill i gyrraedd. Daeth ewythr Rhydian, ei gefneithr, ei ffrind gorau a hefyd dau ffrind o'r Alban.
Tamaid sydyn i fwyta ac yna ciwio i fynd i mewn drwy ddrws a oedd wedi'I farcio VIP. Cawsom ein harwain I'n seddi a oedd mewn safle da iawn.
Bu rhaid cael practis codi a sefyll, a clapio a bloeddio, ac yn sydyn roedd yn amser i'r rhaglen ddechrau. Daeth Dermot O'Leary ar y llwyfan a cyflwyno'r beirniaid.
Drwy'r noson pan oedd egwyl, roedd Simon Cowell yn mynd allan am 'awyr iach'. Daeth Dannii i ddweud helo wrth Angela, Dermot ddwy waith i sgwrsio efo hi a daeth Sharon Osbourne draw hefyd!!
Pan ddaeth Rhydian mlaen i ganu aeth y stiwdio yn hollol ddistaw, ac wedyn dechreuodd pawb i floeddio. Mae'n siŵr geni i fod pawb wedi teimlo ryw fath o wefr y noson honno. Perfformiad gwych, proffesiynol a gwefreiddiol.
Ar ôl i'r brif rhaglen orffen daeth David Walliams (Little Britain) i sgwrsio efo Angela. Roedd gweld hyn i gyd yn gwbl swreal ac roedd pob llygad yn ein gwylio. Dwi ddim yn meddwl fod y teuluoedd eraill yn cael y fath driniaeth.
Ar ôl i'r holl ffilmio orffen (gan gynnwys yr Xtra Factor) aethom i stafell arbennig lle roedd teuluoedd a ffrindiau y perfformwyr i gyd yn aros i bawb gyrraedd. Gwelais Same Difference, Alisha a rhai o aelodau Hope. Roedd Andy yno hefyd.
Daeth Rhydian i'n gweld tua 11pm. Wel sôn am bobl! Roedd pawb eisiau tynnu llun, cael llofnod ar gefn crys t, siarad a chael hygs a swsys. Roedd ambell un yn rhoi eu ffonau symudol iddo er mwyn iddo siarad efo pwy bynnag oedd ar y ffon..... ymmm nes i wneud hyn...! Siaradodd Rhydian efo'r gwr hefyd! Meinir - ges i hyg neu ddau drosot ti hefyd. Dywedais fod y ddau ohonoch yn cofio ato - ac dywedodd helo yn ôl hefyd.
Cafodd Rhydian dwy baned o de (ie te - dyma yw ei hoff ddiod), tynnu mwy o luniau, llofnodi y poster ar gyfer Dylan a Meinir ac wedyn roedd rhaid iddo fynd yn ôl i'r tŷ X Factor.
Aeth y diwrnod heibio mor sydyn, ond mi wnes fwynhau bob eiliad. Mae'n deimlad braf clywed bobl yn siarad am yr X Factor ac yn enwedig am Rhydian. Weithiau dwi bron a dweud, dwi wedi bod yn ei weld o yn perfformio ac dwi'n ei adnabod hefyd.
Diolch i Rhydian a'r teulu am gael bob yn rhan o'r cyffro, ac diolch am y tocyn.