|
&Gwrandewch ar y sgwrs rhwng Dylan Wyn a Bethan
Rai wythnosau yn ol fe ofynnodd Ywain Myfyr o'r Sesiwn Fawr i wrandawyr y rhaglen ddewis pa grwp fydden nhw'n hoffi eu gweld i gloi'r perfformiadau ar y nos Wener. Ar ol y pleidleisio ffyrnig, y grwp ddewisiwyd oedd Maffia Mr Huws. Yn yr wythdegau mi oedd Maffia yn un o'r grwpiau mwya cynhyrfus yn y Sin Roc yng Nghymru, mor boblogaidd nes i'w cefnogwyr ffurfio clwb. Yr aelod cynta oedd Bethan Maffia Maniac o Ddinas Mawddwy ond sydd rwan yn byw yng Ngwyndy ym Magwyr
 |