BBC HomeExplore the BBC

GWENER
18fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dweud ei Ddweud
George Noakes Cofio George Noakes
gan Patrick Thomas
  • Bore Mawrth, Gorffennaf 22, 2008

    Cyfaill cywir a bugail da
    Yn nes ymlaen heddiw mi fydda' i'n mynd i angladd George Noakes, cyn-Archesgob Cymru.

    Fe es i ato i fwrw fy mhrentisiaeth fel curad yn Aberystwyth, bron ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, ac roedd George yn athro penigamp.

    Roedd y dyn annwyl gostyngedig yma yn fugail ac yn bregethwr cofiadwy gydag arddull blaen, ddirodres, a oedd yn adlewyrchiad o'i gymeriad hoffus.

    A phan aeth e'n esgob ac wedyn yn archesgob ni chollodd y rhinweddau hyn.

    Roedd e'n dal yn fugail gofalus i'w offeiriaid ac yn gyfathrebwr gwych, gyda'r ddawn arbennig i gyfleu gwirioneddau mawr mewn geiriau syml.

    Cymraeg sigledig
    Er mai Cymraeg Wlpan, sigledig, oedd gen i pan gychwynnais yn gurad ei eiriau cyntaf i mi oedd; "Ti sy'n gyfrifol am yr eglwys Gymraeg."

    Ac fe aeth â fi at yr eglwys honno gan roi gorchymyn pendant i'r aelodau i beidio â siarad gair o Saesneg â fi.

    Ac os oedd amynedd eglwyswyr hynaws Eglwys y Santes Fair gyda'u curad lled anghyfiaith yn rhyfeddol, roedd amynedd George yn fwy syfrdanol fyth.

    Bob bore Llun fe elwn ato i gael fy ngorchmynion am yr wythnos. Yn aml iawn fe wnes i gamddeall ei eiriau yn llwyr - gan wneud pob math o bethau twp o ganlyniad.

    Ond cefais faddeuant bob tro.

    Trwy'r bregeth
    Ac ar nos Wener fe elai George dros fy mhregeth Gymraeg er mwyn cymhennu a chywiro a gwneud synnwyr o'm nonsens i - ac mi fyddai'r inc coch yn tasgu dros y tudalennau.

    Mi fydd llawer o bobl yn diolch i Dduw am George Noakes heddiw, gan gofio am lawer o gymwynasau o'i eiddo ef.

    Ond yn bersonol rwy'n diolch am anrheg amhrisiadwy y Gymraeg a roddwyd i mi trwy ei garedigrwydd amyneddgar ef.

    Roedd George Noakes yn rhywbeth llawer pwysicach nag esgob neu archesgob - bu'n gyfaill cywir ac yn fugail da.

  • Marw George Noakes
  • I ddarllen sgyrsiau eraill: Cliciwch




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy