 |
 |
 |
Cofio Tony Crockett gan Patrick Thomas |
 |
 |
 |
Bore Mawrth, Gorffennaf 1, 2008
Colled aruthrol i Esgobaeth Bangor a'r Eglwys yng Nghymru oedd marwolaeth yr Esgob Tony Crockett, bore ddoe.
Gwneud argraff Gwnaeth Tony argraff neilltuol ar fywyd llawer o offeiriaid a lleygwyr - minnau yn eu plith.
Pan oeddwn i'n gurad bach trefol ac yn ansicr iawn am ddyfodol fy ngweinidogaeth fe roddodd Tony gyfle i mi lanw bwlch iddo ym mhlwyf Llanafan tra buodd ef bant ar ei wyliau ac yno y cefais fy mhrofiad cyntaf o fod yn ffeirad gwledig.
Y canlyniad oedd imi dreulio bron ugain mlynedd ym mhlwyfi Cymraeg cefn gwlad.
Pererindota Roedd Tony yn ysgolhaig a'i ddiddordeb mawr yn y degawdau diwethaf oedd pererindota fel pwnc academaidd a phrofiad ymarferol ac ysbrydol.
Cerddodd hen ffordd y pererinion i Santiago yn Sbaen ac fe ddilynodd lwybr Dafydd ap Gwilym bob cam o Fangor i Dyddewi.
Mae taith bywyd yn bererindod, fel y pwysleisiodd yr emynwyr mawr Cymraeg, ac mae cyfnodau yn y diffeithwch yn rhan anochel o'r profiad hwnnw.
Yn sicr, doedd pererindod bersonol Tony ddim yn rhwydd bob amser ac fe brofodd rai cyfnodau anial ac anodd.
Ond, yn lle danto, fe dyfodd yn ysbrydol.
Bugail eneidiau Ac o ganlyniad fe ddaeth yn fugail eneidiau penigamp yn ogystal ag yn gyfaill gwerthfawr, fel mae ei gyn blwyfolion yng Nghynwyl Elfed, Cwmduad a Llannewydd yn tystio'n huawdl.
Er ei fod yn ddyn diwylliedig gyda meddwl miniog a'r ddawn i ddadlau'n wresog am bynciau llosg diwinyddolroedd e hefyd yn gallu dod yn agos at bobl o bob siort a siâp, gan werthfawrogi pob un fel unigolyn.
Dewrder yn goron Coron y cyfan, fe dybiwn i, oedd ei ddewrder syfrdanol yn wyneb afiechyd creulon y misoedd diwethaf.
Roedd yn ysbrydoliaeth ac yn dyst i hanfod y ffydd Gristnogol.
Cydymdeimlwn o galon â'i anwyliaid a'i esgobaeth. Ar adeg argyfyngus yn ei hanes mae'r Eglwys yng Nghymru wedi colli un o'i harweinwyr prin.
Marw Esgob Bangor
I ddarllen sgyrsiau eraill: Cliciwch
 |
 |
 |
 |
|
|
|