 |
 |
 |
Caethion gan Anna Jane Evans |
 |
 |
 |
Bore Iau, Mawrth 22, 2007
"Dyma nhw'n rhwygo nillad oddi arna'i, yn fy nghlymu efo rhaffau, rhoi llwyth drom i mi ei chario a'm harwain i dref Bonduku ac oddi yno i dref Kumasi, ymlaen drwy Asikuma ac Ajumak yng ngwlad y Fanti. Yno fe werthon nhw fi i'r Cristnogion."
Geiriau Abu Bekres Siddik, caethwas a gipiwyd yn 1804 - ac atgof a fydd yn rhan o oedfaon ledled Prydain y Sul nesaf i ddathlu dau ganmlwyddiant dileu caethwasiaeth.
Clywed cri ei bobl Mi fydd edifeirwch am ran y cyfoethog yn rhan o'r gwasanaeth ynghyd a rhai o hanesion a phrofiadau'r caethweision.
Yn sicr hefyd, mi fydd pwyslais mawr ar y darluniau cyson o Dduw yn clywed cri Ei bobl ac yn ymateb i'w cwyn drwy alw pobl - o gyfnod Moses i gyfnod Wilberforce i'w harwain allan o'u caethiwed.
Cofio beth? Her William Prescott, cyn gaethwas arall, i ni ydi; "Mi fyddant yn cofio i ni gael ein gwerthu ond ni fyddant yn cofio ein bod yn gryf.
"Byddant yn cofio i ni gael ein prynu - ond nid ein bod yn ddewr."
Mae'r un math o ddallineb ac o ragfarn yn ein hymateb i'r miliynau sy'n gaeth heddiw hefyd:
Y tlodion sy'n gaeth i'w hamgylchiadau,Y puteiniaid sy'n gaeth mewn ffordd llawer dwysach nag a welwn yn Coronation Street, Y miloedd sy'n gweithio dan amodau annynol a pheryglus - yn ogystal a'r rhai sy'n gaeth i alcohol a chyffuriau.
Mae'r rhestr yn ddiddiwedd.
Cyfri'r gost Roeddwn innau, fel chwithau mae'n siŵr, yn gwrando ar gyllideb Gordon Brown ddoe efo'r cwestiwn; "Pa wahaniaeth neith o i mi?" ar flaen fy meddwl - gan gyfri'r pethau fydd yn costio mwy i mi.
Rywsut, daeth y dywediad, "Lle y mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon", yn fyw iawn imi.
Gobeithio mai'r cam cyntaf tuag at ryddid fydd hynny - ac yn sgil hynny yn gyfle i Dduw allu arwain ei bobl o gaethiwed eto heddiw!
I ddarllen sgyrsiau eraill: Cliciwch
 |
 |
 |
 |
|
|
|