 |
 |
 |
Wilberforce y misfit gan Geraint Rees |
 |
 |
 |
Bore Mercher, Mawrth 21, 2007
Ydych chi wedi blino ar fod yn aelod o leiafrif? Ydy'r brwydro dros eich hawliau ieithyddol, dros gynnal eich hetifeddiaeth ddiwylliannol, dros gadw capel yn agored, dros amddiffyn gwerthoedd oes a ddarfu a sefyll yn erbyn pob math o lifeiriant mwyafrifol wedi'ch llethu?
Y byd wedi elwa Mae'n rhaid bod gan seiciatryddion derm i ddisgrifio rhywun sy'n barod i sefyll ar wahân o ran ei iaith, crefydd a moeseg.
Nid misfit yw'r term rwy'n chwilio amdano, ond mae e'n siŵr o fod yn un addas.
Ond wedyn mae'r byd wedi elwa'n fawr o'r misfits ac mae'r wythnos hon yn wythnos i gofnodi misfit go arbennig.
Ble bynnag fyddwch chi yr wythnos hon, rwy'n gobeithio y cymerwch chi funud neu ddwy i feddwl am gyfraniad cychwynnol Wilberforce i ddifa'r diwydiant mewn caethweision.
Geiriau Nelson Ddiwedd y ddeunawfed ganrif, Horatio Nelson oedd arwr yr oes ac fe siaradodd e'n ffiaidd yn erbyn ymgyrch Wilberforce a'i ffrindiau - gan sôn am 'his damnable doctrines and hypocritical allies'. Dyn bach salw o dan ei bum troedfedd oedd Wilberforce ac fe ymosodwyd arno droeon ac fe wynebodd fygythiadau i'w ladd. Roedd ei ddaliadau yn peryglu cyfoeth yr Ymerodraeth ac Ewrop gyfan. Mewn 30 o flynyddoedd, cyflwynodd ei fesur yn erbyn y fasnach mewn caethweision 19 o weithiau yn y Senedd - gan fethu bob tro. Llwyddodd ar yr ugeinfed tro. Yn 37 oed fe dorrodd lawr yn feddyliol o dan y straen o fethu.
Tra'n brwydro achos y caethwas fe aeth ati hefyd i sefydlu'r RSPCA i amddiffyn anifeiliaid - a hynny mewn oes pan oedd ymladd ceiliogod a theirw yn sbort cyhoeddus yng Nghymru.
Bod meidrol Tra chysylltir ei enw gydag arwriaeth a dyfalbarhad arbennig, mae'n bwysig i ni gofio mai bod meidrol fel chi a fi oedd Wilberforce.
Yn hen lanc 37 oed fe gymerodd ffansi at ferch ddwy ar bymtheg oed ac o fewn wythnos roedd yn trefnu i'w phriodi, er iddo deimlo mai "too much animal heat" oedd y prif ysgogiad. Roedd e hefyd yn gaeth i opiwm fel llawer o ddosbarth canol ei oes. Petai Iesu'n ail osod ei wynfydau, tybed a fyddai'n barod i ystyried, Gwyn eu byd y misfits - achos ar draws yr oesau a'r cyfandiroedd fe wnaeth misfits fwy o les i'n byd na'r gweddill, llonydd distaw. Does ond angen meddwl am Barnado, Wilberforce, Mandela, Martin Luther King, Saunders Lewis, Mabon, Gandhi a'r cwmwl tystion eraill. Angen byddin o misfits Os oes gobaith i'n cymdeithas ni i gael ei thynnu o bydew sy'n dyfnhau, mae angen byddin o misfits arnom ni.
Yr unig broblem yw, eu hanallu i ffurfio bataliwn trefnus. Gwyn eu byd y misfits
I ddarllen sgyrsiau eraill: Cliciwch
.
 |
 |
 |
 |
|
|