BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cofio...?
Ethel a Dot Cofio 2000
Beth ydych chi'n ei gofio am 2000?
Ethel ar ei gwely angau - un o olygfeydd cofiadwy Eastenders yn 2000

Beth yw eich atgofion chi o 2000? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen

"Un o'r degau o gryno ddisgiau Cymraeg a ryddhawyd yn 2000 oedd "Pwy sy'n galw?" gan y Big Leaves, ac aelodau'r grwp oedd Rhodri Sion, Meilyr Gwynedd, Osian Gwynedd a Kevin Tame.

Cafodd y grwp lwyddiant yn seremoni wobrwyo newydd sbon Radio Cymru sef y Gwobrau RAP (Roc a Phop) drwy ennill pedair gwobr.

Roedd yna noson roc a phop yng ngwyl y Faenol hefyd pan gafodd Bryn terfel weledigaeth i sefydlu digwyddiad lle fyddai dros ddeg mil o bobol yn heidio i eistedd mewn cae am dair noson, beth bynnag y tywydd! Nosweithiau yn amrywio o gerddoriaeth byd opera a'r sioeau cerdd i fyd canu poblogaidd.

Roedd yna rai yn taeru na fuasai'r Faenol yn llwyddiant..."Tydi pobol Gogledd Cymru ddim yn rhyw bromenaders o Glynebourne..." Wel roedden nhw'n anghywir! Roeddwn i'n bersonol yn ddiolchgar tu hwnt i Bryn, dim ond ryw filltir o dy mam mae'r Faenol lle'r arferwn chwarae pan yn blentyn, ac mae Bryn Terfel wedi rhoi'r esgus perffaith i mi ddychwelyd i fy ngwreiddiau bob blwyddyn.

Braf yw gweld ser tebyg i Andrea Boccelli, Jose Carreras a Hayley Westenra yma yng Nghymru, 'mond oherwydd Gwyl y Faenol"

John Hardy, Caerdydd.

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Bryn Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


Cofio...



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy