|
Dwynwen Thomas a Cara Llwyd
Beth yw eich atgofion chi o 1993? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen
Ar COFIO 1993, clywsom hanes gwellhad anhygoel y babi Cara Thomas o Ynys Môn. Yn dilyn y digwyddiadau emosiynol, ysgrifennodd Dwynwen Thomas, mam Cara nifer o gerddi yn egluro'i theimladau.
Cara Llwyd
Trysor ddaeth i'n teulu ni -
Cara Llwyd ei henw hi.
Gofalwn ni na chaiff hi gam,
Gofal tyner tad a mam.
Am inni lynnu at ein ffydd
Cawn garu Cara'n fwy bob dydd.
Gweddïo wnaethom fore a ph'nawn
Gweddïo y byddai ein Cara yn iawn.
Ac wedi oriau o loes a phryder
Fe gawsom yr ateb a geisiem i'n pader,
Ar yr olaf o fis Hydref
Cafodd Cara Llwyd ddod adref.
Adre i brofi beth yw caru
Adre i brofi agosatrwydd teulu
Adre i brofi perthynas gain -
Mam a thad a thaid a Nain"
Dwynwen Thomas, Ynys Môn
 |