BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cofio...?
Richard Nixon Dyma 1974
Y penawdau, y pethau, y bobl...
Richard Nixon

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu a Radio
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Plaid Cymru oedd stori fawr etholiadau 1974. Ym mis Chwefror, enillodd Dafydd Wigley yn Arfon a Dafydd Elis-Thomas ym Meirionnydd ond collodd Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin o ddim ond 3 pleidlais. Enillodd hi'n ôl oddi ar Gwynoro Jones ym mis Hydref. Cafodd Alec Jones (Llafur) ei ethol yn Y Rhondda gyda'r mwyafrif mwyaf erioed yng Nghymru (34,481). Y fuddugoliaeth nodedig arall oedd un y Rhyddfrydwr, Geraint Howells, yng Ngheredigion, yn curo Elystan Morgan.

  • Daeth y Cymro Cymraeg, John Morris, yn Ysgrifennydd Cymru, a daeth y Swyddfa Gymreig yn gyfrifol am ddiwydiant. Cyhoeddwyd papur gwyn yn addo datganoli.

  • Sefydlwyd Antur Aelhaearn ym mhentre' Llanaelhearn wrth droed yr Eifl - menter gymunedol gydweithredol gyntaf' gwledydd Prydain. Daeth yn batrwm ar gyfer sawl menter gymunedol arall. Crochendy oedd un o'r busnesau cyntaf'.

  • Daeth trefn newydd o gynghorau sir yn lle 13, gydag wyth cyngor mawr - Gwynedd, Clwyd, Powys, Dyfed, Gorllewin Morgannwg, Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gwent. 37 o gynghorau dosbarth o danyn nhw.

  • Bu ffermwyr yn protestio yn erbyn mewnforion cig eidion o Iwerddon - ddiwedd y flwyddyn, fe rwystron nhw'r lein reilffordd rhwng Caergybi a Llundain.

  • Enillodd Helen Morgan o'r Barri deitl Miss World, ond bu'n rhaid iddi ei ildio bedwar diwrnod yn ddiweddarach am fod ganddi blentyn a hithau'n ddi briod. Fel mae'n digwydd, roedd ei rhagflaenydd, Marjorie Wallace, wedi cael y sac ar ôl ennyn 'cyhoeddusrwydd gwael' trwy gyboli gyda'r chwaraewr pêl-droed, George Best.

  • Agorwyd Ysgol Uwchradd Gymraeg Llanhari a daeth rhagor o bapurau bro - Papur Pawb (Talybont), Llais Ogwan (Bethesda) a Clebran (Sir Benfro). Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, yn cael ei hagor yn neuadd breswyl i fyfyrwyr Cymraeg - y neuadd gymysg gyntaf' o'i bath. Ac agorwyd y Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth i ddangos dulliau 'gwyrdd' o fyw.

  • Argymhellodd Adroddiad Crawford y dylid gosod rhaglenni Cymraeg ar un sianel - daeth ymgyrch deledu Cymdeithas yr Iaith i ben dros dro.

  • Cafodd Prifathro ysgol fwya' Gogledd Cymru, Ysgol Alun yr Wyddgrug ei ddiswyddo. Roedd agweddau Gerry German yn rhy ryddfrydig i lawer o'r llywodraethwyr.

    Y BYD

  • Parhaodd y problemau tanwydd ar ddechrau'r flwyddyn a bu raid cael 'Stad o Argyfwng' a galw'r Senedd yn ôl yn gynnar o'u gwyliau Nadolig. Cyn hir, cafwyd wythnos waith dri diwrnod, cyfyngu ar ddefnydd o ynni, a chyfnod pan oedd rhaglenni teledu'n gorfod gorffen am 10.30pm. Gorffennodd y flwyddyn yng ngwledydd Prydain gyda rhagor o helyntion diwydiannol - roedd prinder siwgr a streic gan bobyddion.

  • Yn ystod 1974, cododd pris olew bedair gwaith gan ddechrau ar gyfnod o chwyddiant mawr - y mwya' ers amser maith iawn.

  • Ar ôl ceisio ymladd am fisoedd, bu'n rhaid i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Richard Nixon, ymddiswyddo ar ôl cyfadde'i fod wedi dweud celwydd am helynt Watergate.

  • Ddechrau Chwefror, cafodd Ronald Biggs, yr ola' o ladron y 'Great Train Robbery', ei arestio yn Rio de Janeiro, Brasil. Ond llwyddodd i osgoi cael ei estraddodi am fod ei gariad yn disgwyl.

  • Bu damweiniau mawr. Ym mis Mawrth cafwyd damwain awyr fwya'r byd hyd hynny pan ddinistriwyd awyren o Dwrci ar ei ffordd i Lundain. Roedd modelau enwog, swyddogion o'r Adran Ddiwydiant a Masnach ac arweinydd undeb ar ei bwrdd. Ym mis Mehefin cafwyd ffrwydrad mewn gwaith cemegol yn Flixborough, gan ladd 28.

  • Aeth glowyr gwledydd Prydain ar streic am bedair wythnos ym mis Chwefror cyn mynd yn ôl ar ôl ennill cynnydd cyflog gan y Bwrdd Glo.

  • Blwyddyn y ddau etholiad. Ym mis Chwefror, collodd Edward Heath yr etholiad a daeth Llafur yn ôl eto o dan Harold Wilson. Ond bach iawn oedd y mwyafrif a bu raid cael ail etholiad ym mis Hydref, pan enillodd Llafur yn fwy cyfforddus.

  • Bomiau mewn tafarndai yn Lloegr a ddaeth â mwya' o sylw i'r IRA - lladdwyd 20 yn Birmingham a 5 yn Guildford. Roedd ymosodiadau eraill ar fws llawn milwyr ac yng nghanol Dulyn hefyd, pan laddwyd 27. Methu a wnaeth yr ymgais i ddatganoli grym i Ogledd Iwerddon a bu raid ailddechrau llywodraethu o Lundain. Pasiwyd y Ddeddf Atal Terfysgaeth.

  • Roedd hi'n flwyddyn y diflanedigion hefyd. Diflannodd yr Arglwydd Lucan a daethpwyd o hyd i'w nanny wedi ei llofruddio a'i wraig wedi ei hanafu. Daethpwyd o hyd i John Stonehouse yn Awstralia - ef oedd y cyn-weinidog cabinet a oedd yn ôl pob golwg wedi diflannu i'r môr ... Ond daeth Lieutenant Hiroo Onoda yn ôl i Tokyo yn Japan ar ôl treulio 29 mlynedd yn jyngl yn y Philippines, yn credu fod yr Ail Ryfel Byd yn parhau.

  • Yn ystod y flwyddyn, aeth un broblem ryngwladol o ddrwg i waeth wrth i Twrci feddiannu Cyprus, ond roedd y milwyr Americanaidd ola' wedi gadael Saigon, prifddinas De Fietnam, ym mis Ebrill.

    CERDDORIAETH

  • Roedd hi'n flwyddyn dda o ran albyms Cymraeg - Salem gan Endaf Emlyn (y record hir thematig gyntaf' yn Gymraeg), Hen Ffordd Gymreig o Fyw (record hir gyntaf' Edward H Dafis) a Nia Ben Aur (o'r opera roc yn yr Eisteddfod).

  • Roedd Hergest hefyd wedi cyhoeddi eu record gyntaf ond aeth Cleif Harpwood o Ac Eraill i Edward H Dafis.

  • Ddechrau'r flwyddyn, roedd caneuon fel Dw Isho Bod yn Sais gan Huw Jones a Tywysog Tangnefedd (Dafydd Iwan) a Tua'r Gorllewin (Ac Eraill) yn y siartiau ... ac roedd record hir gan Dai Jones Llanilar hefyd.

  • Dau o enwau newydd y flwyddyn oedd Y Mellt (o Lanrwst) a'r Atgyfodiad (band trydanol o ardal Bangor).

  • Deg Ucha'r Cymro
    Rhagfyr 17 1974

    1. Clychau Nadolig - Tony ac Aloma
    2. Duw Wyr - Trebor Edwards
    3. Teifi - Hogia'r Wyddfa
    4. Aros Pryd - Hergest
    5. Salem - Endaf Emlyn
    6. Gwynant - Brân
    7. Ifas Cariwr - Ifas y Tryc
    8. Ti yw Fy Nghân - Eirlys Parri
    9. Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw - Edward H. Dafis
    10. Cartrefi Gwynion Cymru - Richie Thomas

  • Yn Saesneg, y Bay City Rollers gyda'u tartan oedd eilunod mawr y teenyboppers ac atgyfododd Mud gerddoriaeth gynnar y 60au. Bu farw un ferch ifanc o drawiad ynghanol yr hysteria yng nghyngerdd ffarwel eilun arall y merched ifanc, David Cassidy. A chyrhaeddodd Abba ar ôl ennill yr Eurovision gyda Waterloo.

  • Ond roedd hi hefyd yn flwyddyn i hen rocars, gyda Paul McCartney a Wings (Band on the Run), Eric Clapton (461 Ocean Boulevard) a John Lennon a Mick Jagger yn gwneud albyms.

  • Albym llwyddiannus annisgwyl y flwyddyn oedd Tubular Bells, y greadigaeth electronig gan Mike Oldfield. Senglau llwydiannus annisgwyl y flwyddyn oedd This Town Ain't Big Enough for the Both of Us gan y Sparks ryfedd-yr-olwg a The Streak am ... redwr noethlymun.

  • Yn y siartiau, dechreuodd y flwyddyn, fel y gorffennodd 1973, gyda Merry Xmas Everybody gan Slade yn rhif un. Dyna'u record fwya' llwyddiannus, a'r un a laddodd eu gyrfa.

  • Ymhlith rhifau un y flwyddyn, roedd

    Tiger Feet - Mud
    Devil Gate Drive - Suzi Quatro
    Jealous Mind - Alvin Stardust.
    Billy Don't Be a Hero - Paper Lace
    Seasons in the Sun - Terry Jacks
    Waterloo - Abba
    Sugar Baby Love - Rubettes
    The Streak - Ray Stevens (am redwr noethlymun)
    She - Charles Aznavour
    Rock Your Baby - George McCrae
    When Will I See You Again - Three Degrees
    Love Me For a Reason - Osmonds
    Kung Fu Fighting - Carl Douglas
    Annie's Song - John Denver
    Gonna Make You a Star - David Essex
    You're the First The Last My Everything - Barry White
    Lonely this Christmas - Mud

    CELFYDDYDAU

  • Eisteddfod yr Urdd yn ymestyn o 3 i 4 diwrnod. Myrddin ap Dafydd yn ennill y Gadair. Yn drist iawn, mae enillwyr Y Goron (Eurig Wyn) a'r Fedal Ryddiaith (Elin Mair) bellach wedi marw yn bobol gymharol ifanc.

  • Band y Cory oedd y band pres cyntaf o Gymru i ennill Pencampwriaeth Prydain.

  • Atgyfodwyd Gwasg Gregynog i gyhoeddi llyfrau prin a gwerthfawr.

  • Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio opera gyntaf y cyfansoddwr Cymreig, Alun Hoddinott, The Beach of Falesa.

  • Nofel fawr y flwyddyn (a'r ganrif, yn ôl yr heip) oedd Marged gan T. Glynne Davies. Cymysg oedd yr ymateb. Cyhoeddwyd Arch ym Mhrâg wedi ei seilio ar Tsiecoslofacia yn 1968 - roedd yr awdur John Rowlands wedi bod yno a'r nofel hanesyddol, Maes Mihangel, oedd campwaith J.G.Williams.

    TELEDU A RADIO

  • Dechreuodd gorsaf radio annibynnol gyntaf Cymru ddarlledu - Sain Abertawe

  • Pobol y Cwm yn dechrau ym mis Hydref - yn sioe wythnosol ar y dechrau. Ddiwedd y flwyddyn, dechrau cyfres gomedi, Ryan - Ryan Davies ar ei ben ei hun. Y ddrama fawr Gymraeg oedd fersiwn o nofel Daniel Owen, Enoc Huws, ac roedd modd gweld parau fel y ddau frawd, Dafydd Iwan a Huw Ceredig, a'r gŵr a'r wraig, Geraint Jarman a Heather Jones, yn perfformio gyda'i gilydd ar Sŵn y Sêr.

  • Teliffant yn rhaglen boblogaidd i blant, gyda Wynford Ellis Owen a Mici Plwm - dechrau Syr Wynff a Plwmsan.

  • Yn Saesneg, roedd hi'n bosib gwylio hud a lledrith yn y David Nixon Show ac roedd gan y Cymro Tommy Cooper ei sioe ei hun hefyd. Cymro arall a ddaeth yn amlwg oedd Windsor Davies yn y gyfres gomedi newydd It Ain't Half Hot Mum am barti cyngerdd yn diddori'r milwyr yn India. A chafwyd cam mawr mewn tuedd newydd - cyfres 13 rhan i'r BBC, The Family, yn gwylio teulu 'cyffredin'.

  • Cafwyd Dr Who newydd - un o'r rhai enwoca' ... Tom Baker ac ymddangosodd llanc 20 oed o'r enw Les Dennis ar The Comedians am y tro cyntaf'.

    FFILMIAU

  • Ffilm Gymraeg y flwyddyn (yr unig un) oedd Scersli Bilîf gan Wil Aaron am anturiaethau Ifas y Tryc ac aethpwyd â hi o le i le yng Nghymru.

  • Cyhoeddodd Richard Burton a Elizabeth Taylor eu bod nhw am gael ysgariad oherwydd 'irreconcilable differences'.

  • Cerddoriaeth ffilm y flwyddyn oedd The Entertainer, fersiwn o un o ganeuon Scott Joplin yn y ffilm The Sting, stori am gamblo gyda Robert Redford a Paul Newman.

  • Golygfa ychafi y flwyddyn oedd chwydiad yr actores ifanc, Linda Blair, yn The Exorcist, ffilm a achosodd ddadlau ymhlith pobol capel. Hi oedd biau llais dychrynllyd y flwyddyn hefyd, fel croes rhwng Lee Marvin a Dalek.

  • Hiwmor mwya' plentynnaidd y flwyddyn oedd cowboi yn rhechen yn Blazing Saddles, sbwff gan Mel Brookes o ffilmiau'r Gorllewin Gwyllt.

    CHWARAEON

  • Yn ôl rhai, y Llewod a aeth i chwarae rygbi yn Ne Affrica oedd y gorau erioed, a nhw oedd y tîm cyntaf i ennill cyfres gyfan yno yn yr 20fed ganrif. Yr haneri o Gymru, Gareth Edwards a Phil Bennett, oedd y sêr mawr, gyda'r asgellwr J J Williams yn sgorio 12 cais.

  • Roedd stori ramantus ym myd tennis wrth i Jimmy Connors, 21, a'i ddyweddi Chris Evert, 19, ennill pencampwriaethau unigol Wimbledon.

  • Llwyddodd Muhammad Ali i guro George Foreman ac ennill Pencampwriaeth Pwysau Trwm y Byd yn ôl. Dyma'r 'Rumble in the Jungle' yn Zaire, pan gnociodd Ali Foreman i'r llawr yn yr wythfed rownd. Joe Conteh oedd arwr bocsio gwledydd Prydain yn ennill pencampwriaeth WBC y byd yn y pwysau trwm-ysgafn.

  • Gorllewin yr Almaen (a Franz Beckenbauer) yn curo'r Iseldiroedd (a Johann Cruyff) o 2-1 er mwyn ennill Cwpan y Byd.

  • Y nofwraig Patricia Beavan oedd yr unig un o Gymru i ennill medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad, ond daeth arian i Berwyn Price yn y 110 dros y clwydi ac i'r codwr pwysau o Gaernarfon, Ieuan Owen.

    GWYDDONIAETH

  • Hon oedd y flwyddyn a ddechreuodd gyfnod newydd, addasu genetig. Cafwyd oedi yn yr ymchwil er mwyn ystyried y peryglon a'r oblygiadau cyn symud ymlaen. Roedd yn ddechrau ar gyfnod newydd hefyd oherwydd prinder a phris olew, gyda mwy a mwy o sylw i'r amgylchedd.

  • Cyhoeddodd Dr Douglas Bevis fod tri babi test tiwb wedi cael eu geni a bod un yn fyw ac yn iach yng ngwledydd Prydain. Wnaeth o ddim eu dangos ac, felly, yn 1978 y ganed y babi labordy swyddogol cyntaf.

  • Dechreuodd bys trydan redeg yn gyson ym Manceinion - rodd yn gallu cario 50 o bobl tros bellter o hyd at 35 milltir ar 40 mya.

  • Dyfeisiwyd un o gymwynaswyr mawr y swyddfa gan Arthur Fry - y nodyn sticio, neu'r post-it.

  • Dyfeisiwyd un o gymwynaswyr mawr y byd harddwch hefyd, gan feddyg yn yr Eidal - liposuction, i gael gwared ar fraster o rannau o'r corff.

    FFORDD O FYW

  • Car y flwyddyn oedd y Volkswagen Golf a ddisodlodd yr hen Beetle yn y siartiau poblogrwydd a daeth y 'tin sardîns' - Citroen CV2 - yn boblogaidd yng ngwledydd Prydain, yn rhannol oherwydd ei gynildeb petrol.

  • I fenywod, roedd yn swyddogol - roedd oes y mini ar ben. Roedd steil y 30au a'r 40au yn boblogaidd ddechrau'r flwyddyn, a sgertiau a ffrogiau tri-chwarter yn ddiweddarach. I ddynion - dim teis, gwallt byr, siwtiau denim (fel rhai Yves St Laurent - 'casually well-cut and horribly expensive').

  • Straeon rhyfedd y flwyddyn: Bwytaodd John McNamara bum broga byw er mwyn dod yn bencampwr llyncu brogaod Iwerddon a chafodd doctor o Lundain ysgariad oherwydd methiant ei wraig i gael rhyw. Roedd hi yn 24 oed, ac yntau'n 92.

  • Cerddodd Philippe Petit o Ffrainc ar draws llinyn tynn rhwng dau dwr Canolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd. Ar ôl iddo gyrraedd yr ochr draw, cafodd Petit ei arestio.

  • Tŷ 'r Cyffredin yn pleidleisio yn erbyn crogi fel cosb i derfysgwyr o 369 pleidlais i 217.

  • Yn Gymraeg, cafwyd arwydd o'r newid ym maes technoleg cerddoriaeth, wrth i Recordiau'r Dryw am y tro cyntaf hysbysebu Casetiau'r Dryw hefyd.

  • Rhai cyflogau:
    Trefnydd Rhaglenni Plant BBC Cymru - £4293
    Cynorthwy-ydd Cynhyrchu Teledu - £2847
    Trefnydd Sirol i'r Urdd - £1500 - £2200
    Dirprwy Fetron Coleg Technegol Llandrillo - £1284
    Ysgrifennydd i AS newydd Caernarfon - £1,200 - £1,500
    Gwas ffarm - £21.80 yr wythnos

  • Yn ôl arolwg, byddai teulu o bedwar angen £3136 y flwyddyn i fyw mewn tŷ pâr tair llofft yng Nghymru ac £1746 mewn tŷ cyngor.

  • Rhai prisiau:
    Peint o gwrw - 15½c
    Cig oen - 59½c y pwys, ar gyfartaledd
    Eidion - 69½c y pwys, ar gyfartaledd
    Potel o whisgi - £2.38
    Teledu Lliw - £241
    Côt minc yn Harrods - £875
    Hillman Imp - £966
    Tŷ newydd yn Trem y Ffridd, Y Bala - £7990

  • Un o anrhegion 'rhaid i mi eu cael' adeg y Nadolig oedd camera Kodak Instamatic.

  • Ac roedd arwyddion pellach o ryddid merched - cafodd y Llynges ei midshipman benywaidd cyntaf, penododd Llywodraeth Ffrainc weinidog menywod, cyhoeddodd y Llywodraeth Lafur bapur gwyn ar gydraddoldeb ac, yn Sbaen, cafwyd yr ymladdwraig deirw gyntaf erioed. Cafodd ei chornio ddwywaith yn ei gornest gyntaf.

    MARWOLAETHAU 1974

  • Marwolaethau

  • Yr arlunydd a'r llenor, David Jones.

  • Canwr Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, Gruff Meils, mewn damwain car.

  • Derek Boote, y cerddor a'r adlonwr, ar ôl i'w ddillad fynd ar dân yn stiwdio'r BBC.

  • D. Jacob Davies, y gweinidog, llenor a diddanwr radio, ac yntau wedi ei ddewis yn Llywydd Undodiaid Prydain.

  • Sam Jones, pennaeth y BBC ym Mangor a 'thad' y gwasanaeth radio Cymraeg.

  • Alwyn D. Rees, ymgyrchydd gwleidyddol a golygydd Barn

  • Samuel Goldwyn, y Pwyliad a ddaeth yn un o benaethiaid ffilm Hollywood

  • U Thant, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

  • Georges Pompidou, cyn-Arlywydd Ffrainc

  • Nikolai Poliakov, neu Coco y Clown yn marw yn Peterborough yn 73 mlwydd oed.

  • Juan Peron, cyn-Arlywydd yr Ariannin a gŵr Eva - daeth ei wraig ddiweddara' yn Arlywydd yn ei le.

  • Duke Ellington, y pianydd, arweinydd band a chyfansoddwr jazz.

  • Alberta King, mam Martin Luther King - cafodd ei saethu'n farw wrth ganu'r organ mewn eglwys yn Atlanta, Georgia.

  • Nick Drake, y cerddor pop, yn ddim ond 26 oed.

  • ON Cyhoeddwyd cyfrol o atgofion gan yr awdur arbrofol a dadleuol B S Johnson, a oedd wedi treulio amser yng Nghymru, dysgu llawer o Gymraeg a chynnwys rhywfaint ohoni yn ei nofelau. Enw'r gyfrol, oedd Aren't You Rather Young to be Writing Your Memoirs? Roedd B S Johnson wedi lladd ei hun y flwyddyn gynt, yn ddim ond 40 oed.


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy