 |
 |
 |
Argyfwng Ysgolion Sul Chwlio am ateb - Cyngor Ysgolion Sul ynteu Fforwm Cydenwadol Plant a Ieuenctid? |
 |
 |
 |
Beth bynnag yr ateb - bydd yn rhaid wrth arian
Mae'n dod yn fwy ac yn fwy amlwg ei bod yn gyfnod o argyfwng ar yr Ysgol Sul yng Nghymru.
Mae'r Cyngor Ysgolion Sul mewn picil ariannol ac yn gweithredu ar golled a chydag ond un aelod llawn amser o staff - a swyddog arall yn gweithio ond am ddiwrnod yr wythnos.
Ar ben hynny mae'r gwahanol enwadau yn trafod a ddaeth yn amser dileu'r Cyngor beth bynnag a chreu corff newydd yn ei le - Fforwm Cydenwadol a fydd yn gyfrifol am bob math o weithgarwch Cristnogol ymhlith plant a phobl ieuanc gan gynnwys yr ysgol Sul.
Cafwyd arwydd clir o faint y pryder sy'n bodoli gan yr hyn a ddywedwyd gan y Parchedig Harri Owen Jones yn ystod seremoni cyflwyno Medalau Gee 2006.
Mae'r medalau hyn yn cael eu rhoi i rai dros eu 70 oed a fu'n ffyddlon i'r ysgol Sul gydol eu hoes.
Gwneud colled ers blynyddoedd! Yn ystod y seremoni yn Llandudno galwodd Harri Owen Jones ar aelodau eglwysig i bwyso ar eu henwadau i wella eu cyfraniad i'r Cyngor Ysgolion Sul.
"Mi dderbyniais i ddatganiad gan gadeirydd y Cyngor Ysgolion Sul, Edwin Huhes, yn dweud fod cynnal y Cyngor yn golled ers blynyddoedd am nad yw y cyfraniadau a dderbynnir gan y gwahanol enwadau yn ddigonol," eglurodd Harri Owen Jones ar y rhaglen Bwrw Golwg fore Sul Mehefin 25, 2006.
Ychwanegodd fod peryg i hynny o gyfalaf sydd gan y Cyngor wrth gefn "fynd yn ddim yn fuan iawn" oni bai fod yr enwadau yn ymateb.
Rhybuddiodd na fyddai unrhyw werth i newid y drefn ac ail strwythuro oni bai fod y broblem ariannol ddybryd hon yn cael ei datrys.
.
"Mae'r Cyngor yn ddeugain oed eleni ac wedi gwneud gwaith arbennig o dda yn paratoi meysydd llafur ar gyfer oedolion a phlant ar hyd y blynyddoedd a chyhoeddi esboniadau a deunydd ar gyfer ysgolion Sul ac wedi rhoi bod i Gyhoeddiadau'r Gair ac yn y blaen," meddai wrth Bwrw Golwg.
"Teimlo'r oeddwn i, yn sicr ddigon fod yn rhaid i'r Cyngor newid strwythur i ffitio i amgylchiadau heddiw ond be di'r pwynt o strwythur newydd os nad oes yna arian i weithredu'r strwythur hwnnw," meddai gan apelio unwaith eto "ar yr enwadau sydd yn dibynnu gymaint ar gyfraniad y Cyngor i ymateb i apêl y Cyngor am well ariannu er mwyn i'r Cyngor wneud ei waith."
Ychwanegodd: "Tydi'r Cyngor ddim yn fethdalwyr ond mae'r cyfalaf sydd ganddo yn mynd yn llai ac yn llai ac oherwydd hynny does ganddyn nhw ddim ffordd ymlaen."
Edrych tuag at Fforwm Ar yr un rhaglen eglurodd y Parchedig Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, fod trafodaethau ar hyn o bryd ynglŷn a sefydlu fforwm i gymryd lle y Cyngor Ysgolion Sul.
"A'r disgwyl ydi y byddai gweithwyr plant a ieuenctid y Presbyteriaid ar gael i wasanaethu'r fforwm yma.
Ychwanegodd nad oes gan Fwrdd Addysg Gristnogol ei enwad wrthwynebiad i sefydlu fforwm cydenwadol ond rhybuddiodd y bydd yn rhaid datrys y sefyllfa ariannol:
"I fod yn effeithiol fe fyddai'n rhaid inni gael mwy o weithwyr nag sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac o sefydlu'r Fforwm yma mae'n bwysig cael gweithwyr ac arian neu fe fyddwn ni'n mynd yn ôl i'r un sefyllfa ag ydym ni ar hyn o bryd.
"Felly os oes yna ddisgwyl i'r Presbyteriaid gyflenwi y Fforwm a chyfrannu rhyw gan mil y flwyddyn tuag ati hi . . .teg fyddai gofyn i'r enwadau eraill wneud yr un peth ac o wneud hynny fe fydd gennym ni fforwm effeithiol sy'n cael ei ariannu yn iawn."
Eglurodd y bydd y Fforwm yn wahanol i'r Cyngor Ysgolion Sul i'r graddau fod gwaith plant a ieuenctid yn fwy na gwaith Ysgol Sul yn unig.
Dywedodd i'r Presbyteriaid fod yn edrych ar y Cyngor Ysgolion Sul fel corff i ddarparu adnoddau ar gyfer ysgolion Sul yn unig.
"Mae eisiau edrych ar gynfas eang iawn - mae gennym ni ganolfan hefyd yn Y Bala i'w chynnal. Lle mae honno'n ffitio'i mewn i unrhyw waith i'r dyfodol?" meddai.
Beth yw'r gost? Bydd yr enwadau yn trafod y syniad o Fforwm yn ystod eu cynadleddau yn ystod yr haf ac heb amheuaeth un pwnc llosg fydd y gost.
"Mae'r fforwm yn gofyn inni roi ein gweithwyr i mewn - os ryda ni'n rhoi ein gweithwyr i mewn . . . yna fe fuaswn i'n dweud ei bod yn deg i'r enwadau eraill hefyd ariannu y fforwm i'r un faint a'r Presbyteriaid," meddai Ifan Roberts ar Bwrw Golwg.
"Dydi un gweithiwr ddim digon. Allwn ni byth gynnal y gwaith efo un gweithiwr; mae hynny'n amhosibl bellach. Mae eisiau o bosib ddeg o weithwyr i wneud y gwaith yn effeithiol ac i wneud hynny mae'n rhaid i'r enwadau fynd yn ôl ac edrych beth ydi'n cyfrifoldeb ni ac, yn y diwedd, faint o arian ydym ni mewn gwirionedd yn barod i'w fuddsoddi i gynllun o'r fath," meddai.
"Eisiau adnoddau ydym ni ac mae'n rhaid i'r enwadau felly fod yn barod i ariannu unrhyw ddatblygiad i'r dyfodol yn ddigonol ac hefyd yn deg," meddai.
Pryderu am y presennol Ond edrych tua'r dyfodol yw hynny - yr oedd Harri Owen Jones yn bryderus am y cyfnod presennol.
"Yr hyn wnes i ddydd Iau [yn y cyfarfod Medalau Gee] oedd apelio am i ysgolion Sul fynegi barn drwy anfon at bencadlys y gwahanol enwadau ac i ddangos gymaint maen nhw'n i ddibynnu ar y gwaith da mae'r Cyngor [Ysgolion Sul] yn ei wneud.
"Rydw i wedi dweud fod angen newid strwythur ond plîs, plîs, wnewch chi ystyried yr Ysgolion Sul sydd yn bod a'u anghenion nhw. v"Nid trafod y peth yn genedlaethol yn unig - mae Ysgolion Sul lleol angen y gefnogaeth fedr Fforwm neu Gyngor ei roi a'i roi gynted a bo modd.
"Tra bo rhywun yn trafod strwythurau mae Ysgolion Sul yn diflannu. Mae eisiau gwneud rhywbeth i'w harbed nhw rŵan a hynny ar frys," meddai ar Bwrw Golwg
"Yr ydw i yn apelio ar yr Ysgolion Sul eu hunain i anfon gair a mynegi barn a mynegi beth maen nhw eu hangen ar gyfer cario'r gwaith ymlaen," ychwanegodd.
Rhai pethau eraill a ddywedwyd ar y rhaglen - beth yw eich barn chi?
Delyth Morgans, Swyddog Cyfathrebu Undeb yr Annibynwyr:
"Mae e'n fater dyrys . . . ond mae brwdfrydedd wedi bod eisoes . . . Mae Minny Street, Caerdydd, wedi anfon llythyr at y Patrchedig Elwyn Jones, cadeirydd [ein] adran addysg a chyfathrebu, yn dweud eu bod nhw gefnogol i unrhyw fenter ac am gael Suliau penodol yn ystod y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth ac i ymrwymo i gyfrannu'n flynyddol swm penodol ac yn annog eglwysi eraill i wneud hynny."
Dywedodd Delyth fod Undeb yr Annibynwyr yn ganolog yn frwd dros barhad "y dystiolaeth Gristnogol ymhlith plant a ieuenctid yng Nghymru".
"Wrth gwrs mae angen newid strwythur efallai - mae'n gyfnod o newid, mae angen ail brandio ond rydym ni fel Undeb wedi anfon llythyr at yr eglwysi i gyd.
"Mae ein cyfraniad ni ar hyn o bryd yn £12,000 ac mae angen codi hwnnw i £19,000 ac rydym yn annog eglwysi i gymryd at hynny ond wrth gwrs lle'r eglwysi yw penderfynu hynny ac fe fydd trafodaeth ar hynny yng nghyfarfod blynyddol yr Undeb yn Llambed ddydd Gwener."
Undeb y Bedyddwyr - mewn datganiad: "Mae'r Undeb yn cefnogi gwaith y Cyngor[Ysgolion Sul] yn frwd ac yn gweld bod dirwyn y gwaith yma i ben yn peri fod Bedyddwyr sydd heb swyddog maes ym meysydd plant a ieuenctid ar eu colled yn fawr.
"Mae'r yndeb yn dibynnu i raddau ar swyddogion maes y Cyngor ac yn hapus iawn i gyfrannu i'r adnodd yma o waith y Cyngor.
Yr Eglwys yng Nghymru - mewn datganiad: "Mae dwy broblem yma i ni yn yr Eglwys yng Nghymru. "Yn gyntaf mae'r argyfwng ariannol sy'n golygu fod llawer iawn o waith gwerthfawr yn cael ei docio i'r asgwrn. Er enghraifft, mae nifer o'r staff oedd yn gweithio i'r Bwrdd Cenhadu wedi haneru.
"Yn ail, yr esgobaethau sy'n datblygu'r gwaith plant ac mae ffordd ein hysgolion ni o weithio yn eithaf gwahanol i ysgolion Sul y capel.
"Pan fu'r Cyngor yn ddigon hael i gyhoeddi cynllun gwaith eglwysig llwyddiannus nid oedd yr ysgolion Sul ymneilltuol yn ei hoffi.
"Rhaid wynebu'r anhawster hwn yn onest. Ond rhaid pwysleisio ein bod yn sylweddoli bod gwaith Cyhoeddiadau'r Gair yn amhrisiadwy i bob Ysgol Sul Gymraeg ac i bob cartref - hyd y gallwn bydd yr eglwys yn ceisio anrhydeddu'r gwaith ardderchog hwnnw .
Beth yw eich barn chi? Cliciwch i anfon ebost
 |
 |
 |
 |
|
|