BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Gareth Miles Y Pair - dameg i'n dyddiau ni
'Pair' yn well teitl na'r 'Crochan'
Er mai Y Crochan fyddai'r trosiad amlwg o deitl drama Arthur Miller, The Crucible mae Y Pair yn llawer iawn mwy arwyddocaol yn ôl awdur y trosiad Cymraeg.

Yr oedd Gareth Miles yn siarad gyda John Roberts am y ddrama ar y rhaglen radio Bwrw Golwg fore Sul Ionawr 27, 2008.


gwrando Y sgwrs rhwng Gareth Miles a John Roberts ar Bwrw Golwg ddydd Sul, 27 Ionawr 2008.


Delwedd o'r Beibl
"Pam bod Miller wedi defnyddio y Crucible fel teitl?" meddai. "Pair profedigaeth ydi'r Gymraeg am hynny," meddai Mr Miles gan ychwanegu bod hynny yn gryfach na Crochan er y gallai ymddangos fel arall ar yr olwg gyntaf.

"Ond na dydi o ddim, achos mae y crochan yn gysylltiedig â gwrachod ond doedd yna ddim gwrachod yno. Dyna'r holl bwynt - yr oedd pobl yn cael eu cyhuddo o fod yn wrachod" [er nad oedden nhw ddim], meddai.

"Mae'r ddelwedd yn dod o Eseciel 22:20-22 sy'n sôn am bair a ffwrn yn puro y metal; puro'r deunydd crai a'r hyn ydym ni'n ei gael ydi John Procter, dyn ffaeliedig iawn, iawn, yn sefyll dros y gwir," meddai.

Trafod yr oedd Gareth Miles berthnasedd y ddrma i'r cyfnod presennol a hithau yn ymwneud â 19 o bobl a grogwyd am wrachyddiaeth yn Salem, Massachusetts, yr Unol Daleithiau yn 1693.

Yn bertnasol heddiw
"Oes yna arwyddocâd wedi 9/11 a'r Rhyfel yn Erbyn Terfysgaeth?" holodd John Roberts.

"Oes yn sicr iawn," meddai. "Mae gwladwriaethau fel yr Unol Daleithiau a Phrydain . . . angen gelyn . . .

"Pan ydych chi'n meddwl am hanes Prydain Fawr roedd yn rhaid cael gelyn; Sbaenwyr, Ffrancwyr, Almaenwyr, Rwsiaid er mwyn creu undod cenedlaethol," eglurodd.

"A'r un fath yn Unol Daleithiau'r America y gelyn mawr oedd Comiwnyddiaeth ac wedyn pan ddaeth y Rhyfel Oer i ben yr oedden nhw ar goll ac fe chwiliwyd am elyn [arall] ac fe gafwyd Ghadaffi ond roedd o'n rhy fach ac wedyn fe gafwyd Saddam a rŵan mae Islamoffobia a'r Rhyfel yn Erbyn Terfysgaeth," meddai.

"Mae'n bwysig nodi mai dameg mewn ffordd ydi Y Pair, ydi The Crucible.

"Fe gyhuddwyd Miller ei hun ac fe fu bron iddo fo gael ei anfon i garchar am wrthod enwi pobl a rhoi enwau pobl i'r erlidwyr ac roedd o'n dweud ei fod o yn gyfnod o fraw a dychryn i bobl fel fo ac mi wnaeth o ddefnyddio'r hyn oedd wedi digwydd yn Salem oherwydd bod hynny yn ddameg o gymdeithas fewnblyg yn defnyddio 'bwgan' neu yn y fan hyn Y Diafol.

"Ond wrth gwrs y tu ôl i hyn yr oedd yna bobl yn defnyddio'r erlid er mwyn elw personol - er mwyn cael tiroedd y bobl oedd yn cael eu cyhuddo," meddai.

Defnyddiodd y digwyddiad hefyd yn ddameg o'r ymosodiad ar y chwith yn ei gyfnod ei hun."

Mae'n ddrama hefyd sy'n darlunio gwrthdaro rhwng cydymffurfiaeth a gonestrwydd.

gwrando Y sgwrs rhwng Gareth Miles a John Roberts ar Bwrw Golwg ddydd Sul, 27 Ionawr 2008.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy