BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Rhan o boster Wythnos Un Byd Wythnos Un Byd - mewn munud
Munud i ddau arbenigwr ddweud beth sydd o'i le efo'r byd!
Cafodd arweinydd mudiad dyngarol a sylwebydd rhyngwladol funud i ddweud beth sydd o'i le gyda'r byd ar Bwrw Golwg ddydd Sul, hydref 22, 2006.

A hithau'n gychwyn Wythnos un Byd ar y thema Gwyliwch yr Hollt sy'n pwysleisio'r angen am i bobl o bob rhan o'r byd gael yr un chwarae teg gofynnodd Bwrw Golwg i Jeff Williams o Gymorth Cristnogol a Gwion Lewis ddweud mewn munud - wedi ei amseru i'r eiliad - sut y maen nhw'n i gweld hi a nodi pa hollt sy'n gwahanu'r byd heddiw:

  • Dyma ddywedodd Jeff Williams:
    "I mi yr hollt mwyaf difrifol a difäol yn y byd yw yr un rhwng y cyfoethog a'r tlawd.

    Jeff Williams "Mae ugain y cant o boblogaeth y byd yn defnyddio rhyw 86 y cant o holl adnoddau y ddaear.

    "Hynny yw, dychmygwch bod gennych chi bum person yn eistedd o gwmpas bwrdd ac arno un torth o fara yn cynrychioli popeth sydd gyda chi i fyw arno.

    "Mae'r dorth yn ddeg modfedd o hyd a siâr deg pob un fyddai tafell o rhyw ddwy fodfedd o drwch. Ond mae'r cyntaf yn cymryd y dorth ac yn cadw wyth modfedd a hanner iddo fo'i hunan a gadael ond tafell modfedd a hanner i'r pedwar sydd ar ôl!

    "Ac mae'r gagendor yn mynd yn fwy hefyd - yn 1913 yr oedd y gagendor rhwng yr ugain y cant cyfoethocaf a'r ugain y cant tlotaf yn 11 i un ond heddiw mae bron a bod yn 90 i un.

    "Mae gan y tri pherson cyfoethocaf gymaint o gyfoeth a phoblogaeth 48 gwlad . . ."

  • Meddai Gwion Lewis, arbenigwr ar wleidyddiaeth a hawliau dynol:
    "I mi yr hollt mwyaf difrifol yw'r hollt diwylliannol rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain.

    Jeff Williams "Mi gafodd Gorllewin y byd golled enfawr ar Fedi 11 bum mlynedd yn ôl .

    "Yn ogystal a'r gwaed gafodd ei golli fe gollodd y rhan fwyaf ohonom ni rywbeth arall hefyd - fe gollom ni'n chwilfrydedd. "Jihad, Mosc, Al qaida, Koran - ychydig oriau wedi'r ymosodiadau fe ddechreuon ni luchio'r geiriau yma at ei gilydd o dan y faner Islam gan dwyllo'n hunain ein bod ni yn deall diwylliant a chrefydd gyfan.

    "Mae'r hunan dwyll yn parhau hyd heddiw ac o ganlyniad dydy ni ddim yn rhy siŵr sut i ymateb i arferion sy'n ddigon estron inni - fel merched yn dewis cuddio'u hwynebau .

    "Mae'n naturiol i deimlo'n ansicr pan ddown ni ar draws rhywbeth sy'n anghyfarwydd inni ond os na wnawn ni'r ymdrech i ddysgu mwy, buan iawn y bydd anwybodaeth yn troi'n ofn a rhagfarn.

    "Mae'n bryd inni ddod o hyd i'n chwilfrydedd eto -dyna'r neges fwyaf amserol yr wythnos hon dwi'n credu.

    Mwy a mwy i lai a llai
    Ymhelaethodd Jeff Williams i'r "cyfoeth aruthrol" a grëwyd yn y byd dros y 30 mlynedd ddiwethaf gael ei grynhoi i lai a llai o ddwylo:

    "Y gwir yw fod y gagendor rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn [mynd yn] fwy ac rwy'n credu ei fod yn beryglus iawn. Yn rhywbeth difäol ac rwy'n credu ei fod wrth wraidd llawer iawn o'r ofn a'r drwgdybiaeth sydd yn y byd," meddai.

    Materion diwylliannol
    Tra'n cytuno mai tlodi yw yr hollt fwyaf dywedodd Gwion Lewis:
    "Ond ynghlwm â hynny mae'r materion diwylliannol yma - materion dwi'n credu sydd wedi cael eu hanwybyddu.

    "Mae yna fendithion mawr wedi dod yn sgil globaleiddio - mae yna gyfleon wedi dod yn sgil globaleiddio hefyd.

    "Dwi'n credu ein bod wedi manteisio ar hynny o gyfleon economaidd sy'n mynd i ddod yn sgil y ffaith ein bod ni nawr yn fwy dibynnol ar ein gilydd - lle'r ydan ni ddim wedi bod mor llwyddiannus dwi'n credu ydi'r cyfleon ydym ni wedi gael i ddeall ein gilydd yn fwy yn sgil globaleiddio. Yr hollt diwylliannol yma rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain."

    Parchu hawliau dynol
    Pwysleisiodd Gwion Lewis bwysigrwydd parchu hawliau dynol:
    "Fe allwn ni gyd ddathlu ein bod ni'n wahanol mewn sawl ffordd - bod gennym ni ein traddodiadau gwahanol, ein ieithoedd gwahanol - ond mae'n rhaid inni hefyd gydnabod, wrth wraidd dynoliaeth fel syniad mae y gred yma fod yna rai hawliau sy'n sylfaenol inni gyd fel hil."

    Ychwanegodd fod rhagfarnau yn amlygu eu hunain oherwydd diffyg dealltwriaeth o hawliau dynol a'r hyn a ddysgwyd am hawliau dynol dros y ganrif ddiwethaf.

    Camddeall a thlodi
    Dywedodd Jeff Williams fod y camddeall hwn a thlodi yn rhan o'r un peth.
    "Does dim dwywaith fod llawer o bobl yn uniaethu y Gorllewin - ac, efallai, yr Eglwys Gristnogol - gyda'r camddefnydd o rym. Fod grym yn cael ei ddefnyddio gan y cyfoethog i gadarnhau eu safle ac i bellhau y gagendor rhwng y cyfoethog a'r tlawd.

    "I'r rhan fwyaf mae'r 30,000 o blant sy'n marw bob dydd yn rhywbeth cwbl ddibwys - maen nhw'n marw'n dawel mewn gwledydd pell yn rhywle.

    "Ond mae yna anghyfartaledd cyfoeth a grym yn ein cymunedau ni'n hunain ac yr ydym yn gweld yng nghymunedau pobl sydd wedi dod i'n gwledydd ni eu bod yn ddi-rym a does dim cyfleon gyrfa ac yn y blaen iddynt - yr un anghyfartaledd yw e."



  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy