BBC HomeExplore the BBC

SUL
29ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Cyfiawnder i derfysgwyr - llythyr
'Mae gan bawb ei hawl - hyd yn oed terfysgwyr . . .'
Mae Cymdeithas y Cymod wedi ymateb i sylwadau newyddiadurwr a ddywedodd nad oedd dim moesol o'i le mewn lladd terfysgwr heb ddod ag ef gerbron llys.

Yn dilyn sgwrs gyda Tweli Griffiths ar Bwrw Golwg dywedodd Arfon Rhys o Gymdeithas y Cymod mewn llythyr at y rhaglen:

"Mae'n rhaid i ni yng Nghymdeithas y Cymod ymateb i'r sylw gan Tweli Griffiths "fod dim dewis ond i ladd Zarqawi "

Rydym ni yn credu fod hawl gan bob unigolyn i fywyd, gan ein bod i gyd yn frodyr a chwiorydd yng ngolwg Duw.

Mae yna hawl hefyd gan bawb i gael eu trin yn gyfiawn gan mai anghyfiawnder sy'n arwain at gasineb a thrais.

Y peth cyfiawn i'w wneud yn achos Zarqawi oedd ei ddwyn o flaen llys, ac os yw yn cael ei brofi yn euog yn ôl y dystiolaeth, yna ei gosbi yn unol a'r ddeddf.

Mae'r milwyr a laddodd Zarqawi wedi cymryd y ddeddf i'w dwylo eu hunain. Nid yw yn reswm digonol i ladd person ar y sail fod dim digon o dystiolaeth ar gael i fynd a'r person o flaen llys.

Rydym wedi gweld digon o bobl ddiniwed yn cael ei saethu yn ddiweddar ar y sail fod yr heddlu yn credu eu bod yn derfysgwyr - ond heb dystiolaeth gadarn.

Os ydym yn credu mewn cyfraith a threfn ac mewn cyfiawnder o dan y ddeddf rhaid i ni godi llais yn erbyn lladd pobl "gan fod dim dewis"!

Mae trais yn erbyn unigolyn yn mynd i arwain at fwy o drais, a dim ond drwy ddatrys gwrthdaro mewn modd di-drais mae gobaith cael heddwch yn ein byd.

Dyna oedd neges Crist i ni sef "carwch eich gelynion" (Matthew 5:44)"
Arfon Rhys, Cymdeithas y Cymod.
  • Bwrw Golwg yn holi Tweli Griffiths




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy