BBC HomeExplore the BBC

GWENER
11eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Cymdeithas y Cymod Diarfogi - pwyso ar y Cynulliad
Y neges yn glir i'r Cristion medd Cymdeithas y Cymod
Dylai diarfogi niwclear gael ei drafod yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ôl Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod.

Yr oedd Arfon Rhys yn rhoi ei ymateb ar y rhaglen radio Bwrw Golwg i ddogfen drafod gan Eglwysi Ynghyd - CTBI - Trident ac Arfau Niwclear ar Groesffordd pan ddywedodd:

"Beth garwn i weld yw bod y drafodaeth yn mynd i'r Cynulliad yng Nghymru a bod yr eglwysi [yng Nghymru] yn pwyso fel yn yr Alban."

Canmolodd Mr Rhys safiad eglwysi'r Alban ar ddiarfogi.

"Mae eglwysi'r Alban wedi dweud eu bod nhw yn erbyn. Gadewch inni weld eglwysi Cymru yn gwneud yr un peth," meddai.

"O leiaf mae Archesgob Cymru yn barod wedi galw am ddiarfogi. . . Mae hyd yn oed y Pab wedi dweud fod y rhain yn arfau dinistriol ac yn hollol dwyllodrus ac felly fe allwn ni yng Nghymru rwy'n credu, o leiaf drwy'r Cynulliad, ddadlau'r achos a dweud nad ydym ni am weld yr arfau yma yn dod," meddai.

Dim arweiniad
Am ddogfen CYTUN dywedodd mai dim ond "rhai pethau da" sydd ynddi o'i safbwynt ef.

Ac wedi canmol y ffaith ei bod yn sbardun i drafodaeth ac yn cyflwyno gwybodaeth ffeithiol fe'i beirniadodd am beidio a "dangos arweiniad" i'r eglwysi.

"Nid yw'n dangos arweiniad i'r eglwysi. Fe fyddem ni'n disgwyl i CYTUN . . . fod yn siarad yn glir ac yn dweud fod arfau niwclear yn bethau dieflig a bod y Cristion yn gweld arfau - fel dull sy'n mynd i ladd pobl hollol ddiniwed - yn beth anghristnogol.

"Fe fyddech chi'n disgwyl i'r eglwysi Cristnogol ddweud yn hollol blaen mai pethau dieflig yw arafu," meddai.

Yr efengylau yn glir
Wrth ymateb i'r ffaith fod nifer o Gristnogion yn arddel y safbwynt o 'ryfel cyfiawn' a bod yn rhaid wrth ddulliau milwrol o ddiogelu pobl dywedodd:

"Hyd yn oed os ydych chi'n mynd i lawr y ffordd yna mae'n rhaid ichi edrych ar yr efengylau ac mae'r efengylau yn dweud yn blaen iawn wrthym ni i garu'n gelynion . . .

"Dyna'r ffordd ac fel Cristnogion mae'n rhaid i ni dystiolaethau i neges Crist ac os na wanwn ni hynny dydy ni ddim mewn gwirionedd yn gwneud yr hyn ddylem ni."

Pwyso ar y Llywodraeth
Ychwanegodd: "Garwn i symud gam ymlaen trwy ddweud fod yna bethau gallwn ni wneud gyda'n gilydd fel Cristnogion; sef pwyso ar y Llywodraeth i ohirio penderfyniad ar y pwnc yma nes y bydd cytundeb i beidio a lledaenu arfau niwclear yn cael ei adolygu yn y flwyddyn 2010."

Ychwanegodd fod dykletswydd ar wladwriaeth fel Prydain i roi arweiniad yn y mater hwn.

"Pan ydych chi'n meddwl am Brydain fel gwladwriaeth mae hi'n wladwriaeth fechan iawn ac mae yna wledydd fel De Affrica sydd wedi rhoi i fyny eu harfau niwclear ac wedi dangos arweiniad i'r byd.

Crys T Cymdeithas y Cymod "Rwy'n credu y gallai Prydain fel gwladwriaeth ddangos i'r byd - ar hyn o bryd rydym yn dweud wrth Iran am beidio â mynd am arfau niwclear.

"Rydym ni'n dweud wrth Korea am beidio â mynd am arfau niwclear ond os ydym ni yn gallu dangos esiampl iddyn nhw fe fyddai hynny'n beth mawr."

Heddwch drwy esiampl
Ychwanegodd, fodd bynnag, mai bwriad Prydain yw gwario £30 biliwn ar arfau a gwrthododd y ddadl nad yw hi'n ymarferol hyrwyddo heddwch drwy esiampl gan nad yw hynny yn gweithio.

"Wel, rydym ni'n gorfod dilyn esiampl Crist. Ac wrth gwrs rydym ni'n gwybod i Grist fynd i'r Groes dros y ffaith ei fod E'n credu mewn didreisedd.

"Hynny yw, fe allai E fod wedi galw ar Dduw ar y pryd i ddod lawr a byddin o angylion i'w arbed . . . ond yr oedd E wedi gwrthod hynny. Yr oedd E'n credu fod yn rhaid i ni fel Cristnogion ddilyn ffordd di-drais." Am y ddogfen drafod dywedodd:
"Mae'n beirniadu'r Llywodraeth am beidio a rhoi'r holl ffeithiau inni ac wrth gwrs os oes yna ddadl yn mynd i fod yn y wlad y mae'n bwysig ein bod ni fel Cristnogion yn rhan o'r ddadl honno ac mae angen i'r Llywodraeth roi'r holl ffeithiau inni."

  • Yr wythnos diwethaf, ychydig ddyddiau cyn cyhoeddi dogfen ymgynghorol yr Eglwysi Ynghyd yr oedd y Canghellor, Gordon Brown, wedi cyhoeddi ei fod ef yn gefnogol i wario ar arfau i gymryd lle Trident.



  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy