 |
Bu ymateb chwyrn i gyhoeddiad y Llywodraeth fis Rhagfyr 2006 ei bod yn bwriadu gwario £20biliwn ar arfau niwclear newydd i gymryd lle Trident.
Condemniodd Rowan Williams, Archesgob Caergaint, y bwriad a chyhoeddodd Guto Rhys ap Gwynfor ddatganiad ar ran Undeb yr Annibynwyr yn dweud fod y bwriad yn "anfoesol yn ei hanfod".
Yn trafod y pwnc ac yn ymateb i'r datganiad ar Bwrw Golwg bu Marcus Robinson a fu'n gaplan yn y llynges ac yn gweithio yn Faslane, cartref y llongau tramor sy'n cario Trident ac Angharad Tomos a fu'n "brotetwraig gyson yn erbyn arfau niwclear"
Gellir gwrando ar y drafodaeth rhyngddynt isod:
Marcus Robinson, Angharad Tomos a John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg
Datganiad Guto Prys ap Gwynfor ar ran Undeb yr Annibynwyr yn llawn: "Credwn fod cynnig Tony Blair, Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol, i ddiweddaru a datblygu rhaglen arfau niwclear Trident yn anfoesol yn ei hanfod:
1. Er mwyn gallu ystyried arfau niwclear fel 'ataliad' (deterrent) mae'n rhaid i'r sawl sydd â rheolaeth drostynt fod yn barod i'w defnyddio. Golyga hyn ei fod ef (neu hi), a phawb sy'n ei gefnogi, yn barod i ladd a niweidio ugeiniau o filoedd o bobl ar y tro, ac i ddinistrio ardaloedd eang a'u gwenwyno am flynyddoedd maith. Ni ellir cyfiawnhau cyflawni gweithred mor farbaraidd ar sail unrhyw drefn foesegol.
2. Bydd defnyddio arfau niwclear yn cyfrannu at newid yr hinsawdd sydd eisoes yn hynod o frau.
3. Mewn byd lle mae'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn lledu, ac mewn gwladwriaeth lle mae'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol o dan bwysau ariannol enbyd, mae neilltuo dros £25 biliwn ar gyfer arfau dinistriol yn anghyfrifol o anfoesol.
4. Wrth gyflawni hyn bydd y wladwriaeth Brydeinig yn rhoi arweiniad gwyrdroëdig i weddill y byd, ac yn rhoi cyfiawnhad parod i'r gwladwriaethau hynny sydd yn dymuno datblygu arfau niwclear eu hunain.
5. Byddai gweithred o'r fath yn cyfrannu at danseilio'r cytundebau rhyngwladol sydd eisoes yn bodoli gyda'r bwriad o leihau yr arfau niwclear sydd yn ein byd.
 |
 |