BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
meddygon wrth eu gwiath Trawsblannu
Dewis gwneud - ynteu dewis peidio a gwneud?
Dywedodd arbenigwr ar faterion crefyddol ei bod yn "ddyletswydd moesol" i bobl drefnu fod eu horganau ar gael i'w trawsblannu wedi iddyn nhw farw.

Dywedodd Noel Davies, Cyfarwyddwr Hyfforddiant yr Annibynwyr yn y De a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ecwmenaidd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, nad oedd ef wedi gwneud trefniadau ond y byddai yn gwneud hynny yn dilyn yr hyn a ddywedwyd yn ystod trafodaeth ar Bwrw Golwg.

gwrando Noel Davies, Eiddwen Glyn ac Elenid Hatcher yn trafod trawsblannu organau ar Bwrw Golwg, Hydref 14, 2007 gyda John Roberts.

"Mae yn ddyletswydd foesol," meddai, "er fy mod i'n awr, o ganlyniad i'r sgwrs yma, yn teimlo'n euog oblegid dydw i ddim gwneud dim byd ynglŷn â hynny.

"Ond wedi'r rhaglen mi wnâi hynny," meddai.

Ychwanegodd ei fod ef a'i wraig yn deall ei gilydd yn y mater yma pe byddai unrhyw un yn gallu manteisio o'u cyrff hwy wedi iddynt farw.

Mwy na hapus
"Fe fyddwn i'n fwy na hapus i hynny ddigwydd a dwi'n credu bod hynny yn gyfrifoldeb moesol a dwi'n bersonol ddim yn gweld unrhyw broblem foesol mewn trawsblannu organau dydw i ddim yn credu fod y cwestiwn moesol yn codi," meddai.

Yr oedd y rhaglen yn trafod cyhoeddiad gan Eglwys Loegr ei bod yn ddyletswydd ar Gristnogion addo eu horganau i eraill ac hefyd ddadl y byddai trefn o gymryd yn ganiataol fod pawb yn caniatau i hynny ddigwydd oni bai iddynt wrthod yn benodol yn ystod eu bywyd.

Y drefn ar hyn o bryd yw fod yn rhaid i bobl wneud y dewis i roi trwy gario cerdyn caniatau yn hytrach na mynegi gwrthwynebiad.

Dywedodd Noel Davies mai ei duedd ef fyddai cefnogi un lle mae pobl "optio allan" o roi.

Prinder mawr
Dywedodd Eiddwen Glyn, nyrs arbenigol mewn trawsblannu yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd bod prinder mawr o organau dan y drefn bresennol.

"Dydy ni yng Nghaerdydd ddim yn gwneud mwy [o drawsblannu] yn awr nag oeddem ni'n wneud ddeng mlynedd yn ôl ond mae'r nifer sy'n aros yn cynyddu," meddai.

Yn y de dywedodd bod 230 yn aros am drawsblaniad ond na ellir cyflawni ond rhwng 80 a 90 y flwyddyn.

Newid rhyfeddol
Bu Elenid Hatcher, 22 oed, yn sôn am y newid sylweddol a ddaeth i'w bywyd hi yn dilyn trawsblaniad aren a chroesawodd ddatganiad Eglwys Loegr oherwydd "os ydych chi'n gallu gwneud rhywbeth ar ôl marw mae yn ddyletswydd," meddai.

"Mae'n gwneud newid sylweddol i fywyd unrhyw un sydd yn sâl," meddai.

Ynglyn â threfn o optio i mewn neu optio allan dywedodd Eiddwen Glyn:

"Mae anodd meddwl am hynny oherwydd nad yw pobl yn trafod.

"Mae'n fwy pwysig fod pobl yn trafod gyda'u teuluoedd neu ffrindiau beth maen nhw eisiau i ddigwydd ar ddiwedd bywyd - mae pobl yn treulio mwy o amser yn trafod beth maen nhw'n mynd i gael i de!

"Rydym ni gyd yn mynd i farw a dwi'n meddwl bod ishe inni fod yn llai 'mambi pambi' efo beth sy'n mynd i ddigwydd achos does dim pwynt claddu neu losgi y cyrff yma i gyd pan allwn ni eu hiwsio nhw i bwrpas llawer mwy buddiol.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy